Rhaglen Dysgu Nofio yn Nghanolfan Pentre Awel - Beth sydd angen gwybod

Mae eich gwersi nofio yn symud i Ganolfan Pentre Awel

Canolfan newydd sbon Pentre Awel, wedi agor.

Mae'r symudiad hwn yn effeithio ar ein holl gwsmeriaid Dysgu Nofio, plant ac oedolion – dyma beth mae'n ei olygu i'ch gwersi:

Amserlen Gwersi Nofio

  • Byddwch yn cadw'r un diwrnod ac amser ag sydd gennych yng Nghanolfan Hamdden Llanelli ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau nad oes neb yn colli allan, bydd cwsmeriaid sydd fel arfer yn nofio ar y diwrnodau hynny yn cael cynnig gwersi newydd:

Gwers a gollwyd

Gwers newydd

Dydd Llun 13 Hydref

Dydd Llun 22 Rhagfyr, un amser

Dydd Mawrth 14 Hydref

Dydd Mawrth 23 Rhagfyr, un amser

Dydd Mercher 15 Hydref

Dydd Mercher 24 Rhagfyr, 10yb

👉 I gadarnhau'r dyddiadau newydd hyn, anfonwch e-bost atom swimminglessonsllanelli@carmarthenshire.gov.uk


Mynediad gyda botymau RFID

Mae mynediad i'r pyllau nofio yng Nghanolfan Pentre Awel yn gweithio ychydig yn wahanol.

  • Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn cyflwyno botymau RFID – mae'r rhain yn hanfodol ar gyfer mynd drwy'r gatiau rheoli mynediad a chofnodi presenoldeb yng Nghanolfan Pentre Awel.
  • Os nad ydych wedi casglu eich un chi eto, gwnewch hynny yng Nghanolfan Hamdden Llanelli cyn 11 Hydref. Bydd hyn yn hanfodol ar gyfer eich ymweliad cyntaf ac yn osgoi unrhyw oedi wrth gyrraedd gwersi.

Cwestiynau Cyffredin

·       Loceri - Am ddim i'w defnyddio. Maent yn agor a chau gydag allwedd band garddwrn, y gallwch ei gwisgo wrth nofio neu ei chadw gyda chi yn ystod eich gwers.

·       Gollwn plant i wersiYn debyg i Ganolfan Hamdden Llanelli. Defnyddiwch eich botwm RFID i fynd i'r pentref newid, paratoi'ch plant, a mynd â nhw i fynedfa'r pwll i gwrdd â'u hathro. Gall rhieni wedyn wylio o'r ardal wylio wrth ochr y pwll (i lawr y grisiau) neu'r oriel (i fyny'r grisiau).

·       Dysgu Nofio i oedolionByddwch yn cadw'r un diwrnod ac amser ar gyfer eich gwers, ond yng Nghanolfan Pentre Awel. Bydd eich athro yn barod i'ch tywys trwy eich sesiwn gyntaf yn y pwll newydd.

·

Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu i Ganolfan Pentre Awel a dechrau'r bennod newydd gyffrous hon gyda chi.

Diolch am fod yn rhan o'n teulu Dysgu Nofio.