Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn dychwelyd ym mis Chwefror
Mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn helpu i gydnabod llwyddiannau chwaraeon unigolion, clybiau chwaraeon, a thimau ysgol yn ogystal â chydnabod cyfraniad hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy chwaraeon ac i'n cymunedau.
Mae rhai o'r rhain yn cynrychioli eu chwaraeon ar lefel lleol, cenedlaethol neu ryngwladol ac rydym am gydnabod a dathlu eu hymrwymiad a'u gwaith caled.
Datgelir yr enillwyr ar gyfer pob categori yn seremoni Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn Theatr Ffwrnes, Llanelli ar Nos Iau 12fed Chwefror 2026.
Trefnir y gwobrau gan Dîm Cymunedau Actif Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn croesawu ein prif noddwr ar gyfer y gwobrau Gavin Griffiths Group am y trydydd flwyddyn yn olynnol. Bydd Coal Bunker Glamping Pods, Coleg Sir Gar, TAD Builders, Alliance Leisure, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Mason Brothers, Tinint, Castell Howell a Precor yn noddi categoriau. Rydym yn diolch iddynt am eu cefnogaeth barhaus.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo yma (£10; £5 o dan 18)
Diolch i bawb a enwebodd unigolyn, tîm neu glwb. Mae rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr ar y rhestr fer fesul categori i'w gweld isod.
Cewch y newyddion diweddaraf o'r Gwobrau Chwaraeon drwy ddilyn Chwaraeon a Hamdden Actif ar Facebook, X, Instagram a YouTube.

Edrychwch ar y rhestr fer 2025 yn ôl categori isod
Person Ysbrydoledig Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Cycle Champs
Lucy Francis (Pel-rwyd a Hoci)
Mae Lucy yn ddisgybl 18 oed gwych ym Mro Dinefwr ac mae ei hangerdd dros chwaraeon a'i harweinyddiaeth yn ei gwneud yn ysbrydoliaeth go iawn. Fel Llysgennad Ifanc Aur ac aelod newydd o Banel Cenedlaethol Youth Sport Trust, defnyddia'i phlatfform i hyrwyddo llais ieuenctid.
Mae'n helpu i gyflwyno sesiynau pêl-rwyd i ddisgyblion Blwyddyn 7–11, gan ysgogi pobl ifanc i fod yn egnïol a mwynhau chwaraeon. Mae Lucy hefyd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf trwy ei chlwb hoci lleol, lle mae ei hymroddiad wedi helpu i weld twf yn y niferoedd gymera ran.
Mae ei hymrwymiad, ei hegni, a'i gallu i godi lefelau eraill yn ei gwneud hi'n fodel rôl heb ei hail ac yn deilwng o gael cydnabyddiaeth heno.
Sophie Regan (Rygbi a Bowlio)
Mae Sophie yn berson ifanc rhagorol y mae ei hymroddiad a'i hegni yn amlwg ym mhopeth mae'n ei wneud. Hyd yn oed wrth gynrychioli Cymru mewn Bowlio, mae'n parhau i ysbrydoli eraill ac yn ennyn brwdfrydedd ble bynnag mae'n mynd.
Mae ei harweinyddiaeth mewn sesiynau rygbi a bowlio ADY wedi creu cyfleoedd cyffrous, cynhwysol y mae pobl ifanc wir yn eu croesawu. Fel aelod deinamig o Banel Chwaraeon YST, mae hi'n hyrwyddo newid cadarnhaol ac yn annog eraill i gyfrannu.
Trwy ei hangerdd a'i hymrwymiad, mae Sophie wedi hybu cyfranogiad a thrawsnewid cyfleoedd ledled Ysgol Bryngwyn a'r gymuned ehangach. Mae'r effaith a gaiff yn achos dathlu.
Cerys Jenkins-Greene (Pel-rwyd)
A hithau'n 15 oed yn unig, mae Cerys yn llawn angerdd, arweiniad a phenderfyniad. Fel hyfforddwraig ymroddedig gyda Dreigiau'r Gwendraeth, treulia amser helaeth yn cynllunio sesiynau creadigol, mawr eu hegni sy'n cadw athletwyr ifanc yn llawn brwdfrydedd ac yn gyffrous i ddysgu.
Nid dyna ddiwedd ei dylanwad - mae Cerys hefyd yn serennu fel Llysgennad Ifanc Aur i Faes y Gwendraeth, gan ysbrydoli eraill i fod yn egnïol ac yn hyderus ym maes chwaraeon. Mae ei brwdfrydedd yn heintus a'i hymrwymiad fel y graig.
Yn ogystal â chreu argraff am ei hoedran - mae hi'n fodel rôl eithriadol sy'n codi pawb o'i chwmpas.
Tim Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: TAD Builders
Ysgol Bro Myrddin (Rygbi)
Cafodd tîm cyntaf Bro Myrddin dymor ardderchog yn 2024/25, wrth brofi llwyddiant ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
Fe wnaethant orffen yn ail yn Uwch Gynghrair dan 18 Gorllewin Cymru, ennill Cwpan Ysgolion Gorllewin Cymru dan 18, a hawlio'r wobr eithaf — Cwpan Pencampwyr y Pencampwyr Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality, gan drechu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Yn ogystal â llwyddiant y tîm, dewiswyd 14 chwaraewr ar gyfer carfanau'r Scarlets (dan 16, dan 17, dan 18), gan amlygu cryfder y rhaglen wrth ddatblygu talent.
Gan gyfuno llwyddiant cystadleuol, cydnabyddiaeth genedlaethol, a datblygiad rhagorol o ran chwaraewyr, mae tîm 1af Bro Myrddin yn enghraifft o ragoriaeth a gwaith tîm, sy'n golygu bod y tîm yn gwbwl deilwng o'r enwebiad.
Clwb Rygbi Ieuenctid Llandeilo (Rygbi)
Mae Clwb Rygbi Ieuenctid Llandeilo wedi mwynhau tymor anhygoel, gan ennill Cwpan Ieuenctid Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality, Cwpan Ieuenctid y Scarlets, a Chwpan a Chynghrair Ieuenctid Sir Gaerfyrddin - gan ennill y cyfan am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mewn 20 gêm, enillodd y tîm 18 o gemau, cael un gêm gyfartal, a cholli un yn unig, yn dilyn tymor heb golli o gwbwl yn 2024. Caiff y garfan hon o chwaraewyr lleol ei hyfforddi gan wirfoddolwr mawr ei ymroddiad, ac maent wedi dangos ymrwymiad elitaidd, gwytnwch a sbortsmonaeth, gan fentora cyfoedion iau a chefnogi ei gilydd ar y cae ac oddi arno.
Drwy ennill saith prif deitl mewn dwy flynedd, maent wedi gosod y safon ar gyfer rygbi ieuenctid yng Nghymru.
Alexander Evans & Ava Fletcher (Dawnsio)
Mae Alexander (11) ac Ava (10), partneriaeth dalentog Juvenile Ballroom a Sequence Dance o Lanelli, wedi mwynhau blwyddyn eithriadol. Fe wnaethant ennill Pencampwriaeth Modern Sequence Prydain, teitl DPA UK Classical Sequence, a chyrraedd brig y Gynghrair Genedlaethol mewn dau gategori.
Parhaodd eu llwyddiant rhyngwladol yng Ngŵyl Ddawns Blackpool, lle buont yn gapteiniaid ar Gymru mewn gêm dîm yn erbyn Lloegr, yr Alban ac Ynys Manaw. Yn ogystal â nifer o deitlau cenedlaethol, fe wnaethant hefyd hawlio Pencampwriaeth Bechgyn/Merched Lloegr Gyfan a Phencampwriaeth Sequence Cymru.
Mae'r ddau ymroddgar ac ysbrydoledig hyn yn ymarfer bum gwaith yr wythnos, yn cefnogi eu cymuned, ac yn mentora dawnswyr iau.
Mabolgampwr Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Coal Bunker Glamping Pods
Oliver McCabe (Saethu)
Mae Oliver yn athletwr ifanc y mae ei ymroddiad a'i dalent wedi ei wneud yn enw blaenllaw mewn saethu reiffl awyr 10m. Fe yw Pencampwr Reiffl Awyr 10m Dynion Iau, ac, ar hyn o bryd, fe yw Rhif 1 o blith Saethwyr Iau Cymru, Rhif 2 o blith Saethwyr Iau Prydain, a'r 8fed ym Mhrydain ar draws pob oedran.
Mae hefyd yn dal Record Dynion Iau Cymru ac yn 3ydd ymhlith holl saethwyr gwrywaidd Cymru, gan brofi bod ganddo allu'r tu hwnt i'w oedran.
Mae sgiliau ac ymrwymiad Oliver wedi ennill lle iddo ar Lwybr Perfformiad Cymru a Llwybr Talent Prydain, sef rhaglenni nodedig sy'n cefnogi goreuon y gamp yn y DU.
Ashwin Yoganathan (Jiwdo)
Mae Ashwin, sy'n fyfyriwr balch yn Ysgol St Michael ac yn aelod selog o Glwb Jwdo Olympaidd Samurai, yn athletwr ifanc eithriadol y mae ei angerdd a'i ddisgyblaeth yn golygu ei fod yn sefyll mas. Mae'n dominyddu ar y mat, ac mae'n dal teitlau Pencampwr Prydain, Pencampwr Cymru, a Phencampwr Agored Cymru.
Mae Ashwin yn cynrychioli Prydain ar y llwyfan rhyngwladol ac yn cystadlu dros Gymru mewn cystadlaethau tîm cenedlaethol o bwys. Yng nghystadleuaeth Timau Cenedlaethol Prydain 2025, fe oedd yr unig gystadleuydd gwrywaidd i ennill pob gornest.
Ar ei daith ryngwladol mae wedi bod i Ddenmarc, Gwlad Belg, Ffrainc, Gwlad Pwyl, a thu hwnt yn dangos ei ddoniau a'i uchelgais rhyfeddol.
Kaden Dix-Thomas (Jiwdo)
Ac yntau ond yn 12 oed, mae Kaden eisoes wedi gwneud ei farc yn myd jwdo. Y tymor hwn enillodd aur ym Mhencampwriaethau Ysgolion Cymru ac efydd ym Mhencampwriaethau Plant Prydain, ynghyd ag aur ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Bedminster ac efydd yng Nghystadleuaeth Agored Academi'r Ddraig.
Cafodd Kaden ei ddewis i Garfan Cymru, ac enillodd Wobr Dewis Judoka ei glwb hefyd, a oedd yn cydnabod ei ymrwymiad, ei waith tîm a'i barch. Mae'n un sy'n hyfforddi gyda ffocws, gostyngeiddrwydd a phenderfyniad, ac mae'n cefnogi ei gyfoedion yn gyson ac yn enghraifft o sbortsmonaeth ragorol.
Yn rhyfeddol, fe yw'r aelod cyntaf o Glwb Jwdo Caerfyrddin mewn 30 mlynedd i ennill medal Brydeinig.
Mabolgampwraig Ifanc Y Flwyddyn
![]()
Categori wedi'i noddi gan: Coleg Sir Gar
Darcy Coslett (Athletau)
Mae Darcy Coslett yn un o dalentau sbrintio ifanc mwyaf cyffrous Prydain, sy'n cynrychioli Cymru a charfan grŵp cyn-oedran Tîm Prydain. Yr athletwraig hon yw Pencampwraig 400m dan do Prydain dan 17 a deiliad record dan 17 Prydain; camp a gyflawnodd pan oedd yn 15 oed yn unig.
Darcy yw'r gorau yn Ewrop a'r drydedd orau yn y byd am redeg 300m dan do dan 17, ac mae'n dal naw record Gymreig ar draws y rasys sbrint.
Yn bencampwraig dros Gymru a Lloegr, capten tîm, ac ysgolor-athletwraig ymroddgar, mae ymdrech, arweinyddiaeth a llwyddiant rhyngwladol Darcy yn golygu ei bod yn enwebai eithriadol sydd â'r uchelgais i gystadlu'n broffesiynol dros Brydain.
Imogen Coslett (Gymnasteg Rhythmic)
Mae Imogen yn athletwraig benigamp o Ysgol Gyfun Bryngwyn ac Academi Gymnasteg Rhythmig Llanelli. Dyma i chi gymnastwraig sy'n ymarfer chwe diwrnod yr wythnos ac sydd wedi cynrychioli Prydain yn y Portimao International yn y categori Iau, a hi oedd y gyntaf wrth gefn ar gyfer y rowndiau terfynol.
Hi yw Pencampwraig Iau Elît Cenedlaethol Gymnasteg Rhythmig Cymru ar hyn o bryd, teitl y mae hi wedi'i ddal am bum mlynedd yn olynol. Hefyd enillodd Imogen fedal arian genedlaethol yn y gystadleuaeth Cylchynau Iau ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Prydain yn Telford.
Mae wedi bod yng ngharfan Cymru ers naw mlynedd ac mae wedi profi llwyddiant ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, ac mae'n parhau i ragori drwy ei hymroddiad a'i hangerdd.
Thea Taylor (Ju-Jitsu)
Mae Thea Taylor yn athletwraig ifanc eithriadol o Ysgol y Bryn ac yn aelod ymroddedig o Academi Satori Ju-Jitsu, lle mae'n hyfforddi bum diwrnod yr wythnos. Mae ei hangerdd, ei disgyblaeth a'i sbortsmonaeth wedi esgor ar orchestion rhyfeddol yn 2025.
Ym Mhencampwriaethau Jujitsu Prydain, enillodd hi aur yn y cystadlaethau JJIF Fighting dan 12 a JJIF Ne-Waza dan 12. Ailadroddodd y llwyddiant hwn ym Mhencampwriaethau Jujitsu Cymru, gan gipio aur yn y ddwy ddisgyblaeth. Yn rhyngwladol, enillodd Thea arian mewn Ymladd Dan 12 ac efydd mewn Ne-Waza Ground-fight yng Nghystadleuaeth Agored Fflandrys yng Ngwlad Belg.
Mae ei gwytnwch, y parch mae'n ei ddangos, a'i hagwedd gadarnhaol yn ei gwneud hi'n fodel rôl go iawn.
Chwaraewr Anabl Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Precor Fitness Limited
Steffan James (Bowlio)
Cafodd Steff dymor llwyddiannus arall.
Ym Mhencampwriaethau Bowlio Parau Cymysg Ewrop i Bobl ag Amhariad ar y Golwg yn Ayr, yr Alban, daeth y pâr yn bencampwyr drwy guro'r Alban, Iwerddon ac Israel yn y grŵp a churo'r Alban yn y rownd derfynol. Wedi hynny, roedd cystadlaethau yn Llandrindod a Leamington Spa, sef Pencampwriaeth y DU, a chwaraeodd tîm Cymru roedd Steff yn rhan ohono 2 gêm yn erbyn yr Alban, 2 yn erbyn Lloegr, a 2 yn erbyn Iwerddon.
Steff oedd yr unig fowliwr a ddewiswyd i chwarae yn yr holl gemau.
Lowri Philpott (Nofio)
Mae Lowri yn aelod o Glwb Nofio Llanelli, a daeth yn Bencampwr Prydain yn y ras Dull Rhydd 200m Aml-ddosbarth dan 13 i ferched yn Aquatics GB Para Winter yng Nghanolfan Gweithgareddau Dŵr Sandwell.
Ym Mhencampwriaethau Cwrs Hir Cenedlaethol y Pasg Cymru 2025, daeth Lowri yn Bencampwraig Cymru yn y ras Dull Rhydd 400m 14-15 oed, a hefyd yn yr un gystadleuaeth daeth yn Bencampwraig Cymru yn y ras nofio ar y frest dros 50m.
Mae cael ei dewis ar gyfer Carfan Berfformio Nofio Cymru ar gyfer tymor 2025/26 yn tystio i'w gwaith caled, ei chysondeb a'i phenderfyniad i ragori ar y lefel uchaf.
Jimmy Staveley (Jiwdo)
Camp Jimmy yw jwdo, a bu'n cystadlu ym Mhencampwriaethau Jwdo Agored Addasol Ewrop yn Venray, yr Iseldiroedd ym mis Tachwedd 2024 lle daeth yn bencampwr Jwdo Agored Addasol Ewrop.
Ym Mhencampwriaethau Ysgolion Rhanbarthol Prydain, cystadlodd Jimmy yn y gystadleuaeth brif ffrwd ac fe enillodd. Yn hanner marathon Abertawe, gorffennodd mewn 1 awr 47 munud i wella ei stamina a'i ffitrwydd ar gyfer ei gystadlaethau jwdo. Mae Jimmy yn ymgymryd â heriau ac yn cystadlu mewn cystadlaethau Prif Ffrwd ac Addasol gan gynrychioli Prydain ledled Ewrop.
Mae'n gystadleuydd hynod frwd ac yn rhoi 100% ym mhob digwyddiad a chystadleuaeth mae'n rhan ohonynt. Mae'n rhan o Raglen Perfformwyr Elît Coleg Sir Gâr.
Tim Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Alliance Leisure
Tim Pel-droed Menywod Tre-Ioan
Mae Tîm Pêl-droed Merched Tre Ioan wedi cael tymor hynod, gan orffen ar frig y gynghrair ac ennill cwpan yr adran.
Gan gystadlu yng Nghynghrair Menywod a Merched Gorllewin Cymru (4edd haen Pêl-droed Cymru), maent bellach wedi ennill dyrchafiad i'r 3edd haen. Yn ogystal, enillon nhw Gwpan Adran A Menywod a Merched Gorllewin Cymru, gan ennill y rownd derfynol yn Llansawel.
I gloi tymor ardderchog yn eu hadrannau rhanbarthol, fe gyrhaeddon nhw hefyd yr 16 olaf yng Nghwpan Ynni Bute a nhw oedd y tîm isaf ei safle oedd ar ôl yn y gystadleuaeth genedlaethol hon.
Tim Menywod Hoci Teigrod Tywi
Ffurfiodd Merched Hoci Teigrod Tywi ar gyfer tymor 2024/25 a chael tymor cyntaf hollol ryfeddol gan ennill pob gêm a chael eu coroni'n Bencampwyr y Gynghrair (Adran 5 De Cymru). Cadwon nhw 13 llechen lân drwy eu hamddiffyn rhagorol.
Fel pe na bai hynny'n ddigon, enillodd y merched gwpan adran 4/5 a threchu'r pencampwyr, o'r gynghrair uwchlaw, yn y rownd derfynol. Maen nhw wedi uno chwaraewyr iau â recriwtiaid newydd ac wedi croesawu merched yn ôl i'r gamp ar ôl seibiannau hir.
Mae eu natur gynhwysol a'r ystod oedran 40 mlynedd yn crynhoi chwaraeon cymunedol ar ei orau.
Clwb Criced Wildboar Centurions
Mae Clwb Criced Wildboar Centurions yn enghraifft wych o glwb chwaraeon cynhwysol a blaengar. Yn eu hanes byr, maent wedi cael llwyddiant aruthrol gan gynnwys 4 dyrchafiad mewn 5 mlynedd o fewn Cymdeithas Criced De Cymru.
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn dda arall, a chawsant ddyrchafiad unwaith eto a chyrraedd rownd derfynol y '100 Canol Wythnos', gan golli o drwch blewyn i Glwb Criced Bronwydd. Llwyddon nhw i gael yr uchafswm o bwyntiau bonws o ran batio, sy'n golygu eu bod nhw'n gyffrous i'w gwylio.
Hefyd cynrychiolodd tri o'r chwaraewyr Dde Cymru yn ei gêm canmlwyddiant. Mae'r clwb yn annog ac yn dathlu amrywiaeth ym mhob ystyr.
Gwirfoddolwr Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Tinint
Kim Galbraith (Nofio)
Mae Kim yn rhiant-wirfoddolwr i Glwb Nofio Llanelli, ac mae'n hollbwysig wrth reoli ceisiadau ar gyfer cystadlaethau a chydlynu swyddogion, dyfarnwyr a beirniaid.
Mae ei sgiliau trefnu a'i dibynadwyedd yn allweddol i allu'r clwb i gynnal dwy gystadleuaeth agored drwyddedig bob blwyddyn, sy'n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i nofwyr gystadlu. Nid yw gwaith caled Kim yn stopio yn Llanelli, mae'n rhoi o'i hamser i glybiau cyfagos, gan ddyfarnu'n rheolaidd i helpu i sicrhau bod cystadlaethau'n gallu cael eu cynnal ar draws y rhanbarth.
Mae ei chefnogaeth barhaus yn cryfhau'r gymuned nofio ehangach ac yn adlewyrchu ei hangerdd dros greu cyfleoedd i bob athletwr.
Lauren Williams (Pel-rwyd)
Bu i Lauren, sylfaenydd Merched Myrddin, greu'r clwb i roi lle cefnogol a chroesawgar i gadw'n heini i fenywod sy'n newydd i bêl-rwyd neu sy'n dychwelyd i'r gêm ar ôl blynyddoedd i ffwrdd.
Mae ei gweledigaeth yn canolbwyntio ar gynyddu'r menywod sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gwaredu'r rhwystrau sy'n aml yn atal menywod rhag ymuno. Mae Lauren wedi bod yn hollbwysig o ran cael grantiau, datblygu cyfleoedd, a hyrwyddo twf y clwb. Mae ei hymrwymiad i hyrwyddo pwysigrwydd cadw'n egnïol i fenywod wedi peri i lawer ailgydio mewn chwaraeon, adeiladu hyder, a ffurfio cyfeillgarwch newydd.
Trwy ei harweinyddiaeth, mae Merched Myrddin yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar lesiant menywod a chyfranogiad y gymuned.
Delyth Edwards (Special Olympics)
Mae Delyth, Is-gadeirydd selog a Chodwr Arian ar gyfer Gemau Olympaidd Arbennig Sir Gâr, yn neilltuo llawer iawn o amser ac ymdrech i bob agwedd ar waith y clwb y tu hwnt i'r hyfforddi.
Gweithia'n ddiflino i greu'r cyfleoedd cymdeithasol gorau i athletwyr, gan sicrhau eu bod bob amser yn teimlo'n ddiogel, yn hapus a bod croeso iddynt. Am dros 15 mlynedd, mae hi wedi cefnogi'r clwb drwy ymrwymiad diwyro, gan wirfoddoli ym mhob sesiwn ac ymgymryd â thasgau di-ri y tu ôl i'r llenni.
Boed yn trefnu digwyddiadau, glanhau, neu gynnig cefnogaeth i rieni, hyfforddwyr ac athletwyr, gwaith caled ac ymroddiad Delyth yw asgwrn cefn y clwb.
Clwb Cymunedol Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Conquer Sportswear
Clwb Tenis Llandybie
Mae clwb tennis 106 oed Sir Gaerfyrddin yn parhau i ffynnu fel canolfan groesawgar, uchelgeisiol a chymunedol. Wedi'i enwi'n Glwb y Flwyddyn Tennis Cymru 2025, mae'r clwb yn dwyn ynghyd chwaraewyr o bob oedran, gallu a chefndir - o blant 4 oed i aelodau yn eu saithdegau.
Gyda mynediad fforddiadwy, aelodaeth amrywiol, a chymysgedd bywiog o hyfforddi, chwarae cystadleuol, a digwyddiadau cymdeithasol, mae'r clwb yn hyrwyddo cynhwysiant a llesiant. Un o'r uchafbwyntiau eleni'n ddi-os oedd codi £8,500 i Elusen Ganser Syr Gareth Edwards drwy gynnal Tennisathon 24 awr.
Gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr selog a chyrtiau sydd newydd eu hadnewyddu, mae'r clwb yn para wrth wraidd bywyd chwaraeon a chymunedol lleol.
Academi Codi Pwysau Evolve
Mae Clwb Codi Pwysau Evolve yn ofod cynhwysol a chymunedol lle mae cryfder yn grymuso pobl o bob oedran, gallu a chefndir.Mae'r Clwb wedi ennill enw da am ei awyrgylch cefnogol, ac mae'n hyrwyddo cyfranogiad gan fenywod, gan gynnal sesiynau penodol i fenywod a merched sy'n chwalu rhwystrau a magu hyder.
Mae ei lwybrau ieuenctid strwythuredig yn tywys codwyr pwysau ifanc o'u sesiwn gyntaf i'w datblygiad hirdymor, tra bo hyfforddi addasadwy yn sicrhau hygyrchedd i'r rhai ag anableddau neu anghenion ychwanegol. Gyda chyfleusterau wedi'u huwchraddio, rhaglenni sy'n ehangu, a chefnogaeth gref gan wirfoddolwyr, mae Evolve yn hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol.
Yn anad dim, mae'n ymfalchïo mewn bod yn gymuned amrywiol, groesawgar sy'n dod ynghyd yn enw grymuso, gwneud cynnydd, a theimlad o berthyn.
Academi Codi Pwysau Llanelli
Yn sail i'r clwb hwn mae awyrgylch cefnogol, croesawgar lle gall pawb —plant ac oedolion fel ei gilydd — ganfod angerdd dros godi pwysau.
Gyda hyfforddwyr gwirfoddol ymroddedig, rhaglenni wedi'u teilwra, a chyfleoedd hyfforddi rheolaidd, mae aelodau o bob oedran a chefndir yn derbyn cyngor arbenigol mewn amgylchedd cynhwysol. Mae'r clwb yn hyrwyddo codi pwysau o saith oed i fyny, gan gynnig sesiynau rhagarweiniol am ddim i blant, ymgyrchoedd codi pwysau i rai bach, ac amryw ddosbarthiadau i oedolion.
Gan fuddsoddi'n barhaus mewn offer newydd a datblygiad athletwyr, mae'r clwb yn cefnogi aelodau o'r lifft cyntaf hyd at lefel cystadlu, gan hyrwyddo hygyrchedd, anogaeth a chymuned ar draws pob agwedd ar y gamp.
Hyfforddwr Cymunedol Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant
Matthew De Filippo (Codi Pwysau)
Mae Matthew De Filipo yn gwneud cyfraniad anhygoel yn Academi Codi Pwysau Llanelli, lle mae'n gwirfoddoli dros 30 awr bob wythnos i ddarparu hyfforddiant strwythuredig o safon i blant, oedolion, dechreuwyr, codwyr pwysau cystadleuol a phara-athletwyr.
Fe sy'n arwain bron pob sesiwn, mae'n llunio rhaglenni hyfforddi, yn goruchwylio yn ystod oriau'r gampfa agored, ac yn paratoi athletwyr a'n mynd gyda nhw i gystadlaethau ledled y DU a dramor. Mae Matthew hefyd yn mentora codwyr pwysau ifanc, yn datblygu hyfforddwyr y dyfodol, ac yn rhedeg rhaglenni am ddim sydd wedi cyflwyno codi pwysau i gannoedd o blant.
Mae ei ymrwymiad i ragoriaeth dechnegol, llesiant athletwyr a chynhwysiant cymunedol wedi trawsnewid y gampfa yn amgylchedd ffyniannus lle mae pobl yn datblygu eu sgiliau, uchelgais a hyder.
Carl Holding (Criced)
Mae Carl Holding yn hyfforddwr Lefel 3 uchel ei barch a'n gyfrifol i raddau helaeth am lwyddiant adran iau Carmarthen Wanderers. Gan oruchwylio 12 o dimau bechgyn a merched rhwng 5 a 19 oed, mae'n cydlynu rhaglen hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, gan arwain hyfforddiant gaeaf dan do a sesiynau haf awyr agored tra'n mentora hyfforddwyr sydd newydd gymhwyso.
Mae ei ymrwymiad heb ei ail wrth iddo neilltuo tua 5 awr yr wythnos yn y gaeaf a mwy nag 20 yn yr haf. Mae Carl hefyd yn hyfforddi tîm dan 10 oed y clwb, a gafodd eu coroni'n bencampwyr Cynghrair Criced Iau De Cymru yn ddiweddar.
O dan ei arweinyddiaeth mae'r niferoedd wedi tyfu, mae'r llwybrau cynnydd wedi cryfhau, ac mae llawer o'r adran iau - gan gynnwys sawl merch - wedi ennill cydnabyddiaeth ranbarthol a chenedlaethol.
Gemma Slater (Pel-rwyd)
Mae Gemma Slater yn hyfforddwraig pêl-rwyd anhygoel y mae ei hymroddiad wedi trawsnewid cyfleoedd i bobl ifanc ar draws Ysgol Dyffryn Aman a Chlwb Pêl-rwyd Treforus. Mae'n hyfforddi bob dydd o'r wythnos ysgol, gan gynnal sesiynau cynhwysol o safon i ddisgyblion o bob oedran, yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol.
Yn ogystal â hyn, mae'n arwain sawl sesiwn clwb wythnosol, gan helpu pawb o ddechreuwyr i athletwyr sirol, er ei bod dal yn cystadlu ei hun ar lefel Adran Un.
Ar ôl adleoli Clwb Pêl-rwyd Treforus i Rydaman yn llwyddiannus, mae Gemma wedi adeiladu un o'r clybiau sy'n tyfu gyflymaf yn y rhanbarth, gan ddatblygu pum tîm oedolion, naw carfan iau a gweithlu cryf o wirfoddolwyr trwy ei harweinyddiaeth, ei hangerdd a'i harbenigedd.
Hyfforddwr Perfformiad Uchel Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Mason Brothers
Shelley Pace (Gymnasteg)
Mae Shelley Pace yn arwain y gwaith o ddatblygu rhaglen dymblo Ysgol Gymnasteg Sir Gaerfyrddin, gan adnabod gymnastwyr talentog o chwech oed a'u tywys tuag at gystadlu elitaidd ar lefel ryngwladol.
Gan hyfforddi am 20 awr yr wythnos, mae hi hefyd yn neilltuo penwythnosau i bencampwriaethau, i hyfforddi Carfan Sylfaen Cymru, ac i hyfforddiant y Gwledydd Cartref ledled y DU. Fel Hyfforddwraig Dymblo Cymru, mae'n mynd gydag athletwyr i gystadlaethau rhyngwladol mawr.
Yn aml yn gweithio saith niwrnod yr wythnos, mae Shelley yn darparu cymorth technegol, corfforol ac emosiynol i hyd at 21 o gymnastwyr ifanc, gan ddylunio rhaglenni heriol, rheoli risgiau anafiadau, ac adeiladu gwytnwch meddyliol. Mae ei hymrwymiad i ddatblygu athletwyr yn rhagorol.
Chris Rooke (Rygbi)
Mae Chris Rooke wedi trawsnewid Ieuenctid Clwb Rygbi Llandeilo i fod yn un o dimau rygbi mwyaf llwyddiannus Cymru, gan ennill pob cystadleuaeth fawr yn 2023–25, yn cynnwys dau Gwpan Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a 37 buddugoliaeth mewn 38 gêm.
Mae ei hyfforddi'n gyfuniad o ddadansoddi trylwyr, gan ddefnyddio data Veo a GPS ochr yn ochr ag offer arloesol fel trosleisio AI ac uchafbwyntiau TikTok. Mae Chris yn rhoi pwyslais ar barch, cynhwysiant a chyfle cyfartal, gan gylchdroi chwaraewyr a mentora athletwyr iau. Ymestynna'i ddylanwad y tu hwnt i dlysau, wrth iddo siapio chwaraewyr disgybledig, gwylaidd sy'n meddwl am y gymuned.
Trwy ymroddiad eithriadol, dulliau modern a gwerthoedd cryf, mae wedi creu diwylliant o berfformiad uchel sy'n destun balchder mawr yn Llandeilo ac yn gosod safonau newydd yn rygbi ieuenctid Cymru.
Daniel Huxtable (Martial Arts)
Mae Daniel Huxtable wedi hyfforddi mewn cic-focsio a karate ers yn chwech oed, gan gystadlu dros Dîm Cymru ym mhedwar ban byd.
Bellach mae'n Brif Hyfforddwr ar gyfer holl ddisgyblaethau mat Cymru, ac mae'n arwain dros 80 o fyfyrwyr ar draws 10 clwb, gan ddylunio rhaglenni wedi'u teilwra a dadansoddi gornestau i gefnogi eu cynnydd. Mae ei arweiniad wedi helpu myfyrwyr i ennill teitlau ar lefel byd, cenedlaethol a lleol. Mae'n hyfforddi, mentora, dyfarnu a dysgu rhai 4 i 50+ oed, ac yn arbennig o fedrus wrth gefnogi myfyrwyr ag anghenion ychwanegol.
Mae Daniel yn ysbrydoli eraill trwy ei angerdd a'i ymrwymiad i roi profiadau sy'n newid eu bywydau i ieuenctid y byd crefft ymladd.
Gwasanaeth Eithriadol i Chwaraeon

Categori wedi'i noddi gan: Castell Howell
John Davies (Rygbi)
Mae John Davies yn wirfoddolwr hirdymor yng Nghlwb Rygbi'r Athletic, ac wedi ymroi ers tua 35 mlynedd i gefnogi chwaraewyr o lefel ieuenctid i'r tîm cyntaf presennol. Rhwng Medi 2024 ac Awst 2025, parhaodd i redeg y llinell bob wythnos, yn 71 oed ac ym mhob tywydd.
Hefyd, gyrru bws y tîm yn rheolaidd i gemau oddi cartref. Fel llumanwr ac aelod o'r pwyllgor sy'n uchel ei barch, mae John yn cynnig anogaeth gyson, yn meithrin ysbryd tîm, ac yn cynrychioli'r clwb yn gadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae ei ymrwymiad cadarn, ei ddibynadwyedd, a'i gefnogaeth gydol oes yn ei wneud yn rhywun amhrisiadwy ac allweddol i gymuned y clwb.
Personoliaeth Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi'i noddi gan: Gavin Griffiths Group
Amelia Dawber (Taekwondo)
Mae Amelia Dawber, o Gapel Dewi, yn athletwraig Taekwondo ragorol. Yn 2024-25, daeth yn Bencampwraig Ewrop yng Nghystadleuaeth Agored Ffederasiwn Taekwondo Rhyngwladol, ac enillodd fedal Efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Glasgow ar ôl ennill ei gwregys du.
Hefyd dominyddu fu hanes Amelia ym Mhencampwriaethau Prydain, wrth gipio tair medal aur a chynrychioli Southampton yn BUCS, gan hawlio'r teitl Pencampwr Unigol.
Fel Llywydd Cymdeithas Taekwondo y Brifysgol ac aelod o Garfan Genedlaethol Myfyrwyr y DU, mae Amelia yn gyfuniad o berfformiad elitaidd ag arweinyddiaeth, gan ysbrydoli eraill trwy ei hymroddiad a'i hangerdd dros y gamp.
Jac Morgan (Rygbi)
Jac Morgan, o Frynaman, yw un o sêr disgleiriaf rygbi Cymru. Yr uchafbwynt iddo fe eleni oedd cael ei ddewis ar gyfer taith Llewod 2025 i Awstralia, gan gadarnhau ei statws ymhlith goreuon rygbi'r byd.
Fe hefyd oedd capten Cymru yn y Chwe Gwlad, gan osod record o 88 tacl, ac arweiniodd y Gweilch yn rhagorol, gan sgorio cais tyngedfennol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop a chael ei enwi'n "Chwaraewr y Tymor."
Dyma i chi ŵr ifanc ffyddlon, gwylaidd, sy'n falch o'i wreiddiau yn Sir Gâr ac yn esiampl ysbrydoledig i'r genhedlaeth nesaf.
Andrew Jones (Triathlon)
Mae Andrew Jones, y triathletwr dawnus o Sir Gâr, yn cynrychioli Cymru a Phrydain ar y lefel uchaf. Yn 2024, cystadlodd ym Mhencampwriaethau eiconig Ironman y Byd yn Kona, Hawaii, a sicrhau lle ar y podiwm yn y Triathlon T100 rhyngwladol yn Llundain.
Trwy gydol 2025 cafodd Andrew le ar y podiwm sawl gwaith yng Nghyfres Triathlon a Phencampwriaethau Cenedlaethol Cymru, ynghyd â buddugoliaethau fel y wobr gyntaf yn y Sailfish International Swim yn Lanzarote.
Mae wedi cwblhau dros 15 Ironman ledled y byd ac mae ganddo gefndir chwaraeon ym meysydd nofio a rygbi. Mae Andrew wylaidd yn berfformiwr elitaidd ac yn fentor, gan ysbrydoli athletwyr ledled y gymuned.