Cyfleusterau allweddol

  • Campfa
  • Pwll Nofio
  • Caffi
  • Stiwdio Ffitrwydd
  • Ystafell Spin
  • Neuadd Chwaraeon Dan Do
  • Ystafelloedd Newid
  • Prif Bwll Nofio 25m
  • Pwll Nofio Bach / i Ddysgwyr
  • Stiwdio Aml-bwrpas
  • Oriel fawr y Pwll Nofio
  • WiFi Am Ddim
  • Ystafelloedd Cyfarfod ar gael i'w llogi
  • Rheseli beiciau safonol a lloches gwefru Ebike
  • Gwefru EV
  • Parcio Am Ddim

Beth i'w ddisgwyl

Bydd eich cyfleusterau hamdden Actif newydd sbon yng Nghanolfan Pentre Awel yn cynnwys y canlynol. A'r peth gorau? Mae hyn i gyd wedi'i gynnwys yn eich aelodaeth gynhwysol Actif, gan roi hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, amrywiaeth a gwerth i chi.

  • Gampfa Mawr

    Campfa 600m sgwâr sydd dair gwaith yn fwy na champfa bresennol Canolfan Hamdden Llanelli

  • Offer EGYM

    Am ymarferion cyflymach, mwy craff a mwy personol bob tro

  • Offer o'r radd flaenaf

    Cit cryfder, cardio, a ffitrwydd swyddogaethol gan Precor, BLK BOX, EGYM, Keiser ac Intelligent Cycling

  • Ystafell Spin

    Stiwdio Sbin Bwrpasol gyda beiciau Keiser

  • Ystafell Ffitrwydd

    Stiwdios Ffitrwydd eang ar gyfer amrywiaeth o ddosbarthiadau

  • Prif Bwll

    Pwll 25m, 8 lôn a phwll i ddysgwyr

  • Pwll hydrotherapi

    Pwll hydrotherapi pwrpasol ar gyfer defnydd therapiwtig

  • Cyrtiau Chwaraeon

    8 cwrt badminton (2 gwrt pêl-rwyd maint llawn) neuadd chwaraeon ar gyfer eich holl hoff chwaraeon dan do

Paratowch ar gyfer Canolfan Pentre Awel

Eisiau bod y cyntaf i glywed pryd mae aelodaethau ac archebion yn agor? Cliciwch y botwm isod a gadewch eich manylion, a bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad yn fuan iawn!

Stiwdio sbin ym Mhentre Awel

Wedi'i bweru gan Arloesedd – Y Tu Mewn i'r Gampfa yng Nghanolfan Pentre Awel

Mae ein campfa newydd sbon 600m sgwâr yn fwy na dim ond eang – mae wedi'i chynllunio'n arbenigol ac wedi'i chyfarparu'n llawn â thechnoleg flaenllaw yn y diwydiant i gefnogi pob lefel ffitrwydd, o ddechreuwyr i athletwyr perfformiad.

Rydym wedi partneru â brandiau ffitrwydd gorau i ddod â phrofiad campfa newydd sbon i chi yng Nghanolfan Pentre Awel. Mae'n fodern, yn groesawgar, ac wedi'i adeiladu ar gyfer pob lefel - p'un a ydych chi newydd ddechrau neu eisoes yn dwlu ar hyfforddi.

Dosbarth ffitrwydd Llanelli

Aelodaethau Actif – Canolfan Pentre Awel Yn Dod yn Fuan

Yn Actif rydym yn cynnig mwy na dim ond aelodaeth campfa.

Mae ein haelodaethau cynhwysfawr yn rhoi mynediad i chi i 6 champfa, 5 pwll, a dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd - a phan fydd Canolfan Pentre Awel yn agor yn Llanelli, bydd yn cael ei gynnwys hefyd.

Dewiswch o opsiynau Debyd Uniongyrchol misol hyblyg gan gynnwys Myfyriwr, Platinwm, Aelwyd, 60+, Efydd (nofio yn unig) ac Efydd Corfforaethol — neu talwch wrth fynd.

Eisiau bod y cyntaf i wybod pryd mae Canolfan Pentre Awel yn agor? Cliciwch isod i gofrestru eich manylion.

Pentre Awel

Mae hyd yn oed mwy i'w ddarganfod yng Nghanolfan Pentre Awel. O fannau busnes a pharthau arloesi i addysg, ymchwil a digwyddiadau cymunedol — archwiliwch bopeth arall sy'n digwydd yn y gyrchfan newydd gyffrous hon.

Pentre Awel

Cwestiynau Cyffredin (FAQ's)

  • Bydd Canolfan Pentre Awel ar agor i'r cyhoedd Haf 2025. Cadwch lygad ar y dudalen hon, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a sianeli cyfryngau cymdeithasol Canolfan Pentre Awel am y wybodaeth ddiweddaraf.

  • Ydy! Bydd gan bob aelod cynhwysol Actif fynediad awtomatig i Ganolfan Pentre Awel pan fydd yn agor.

  • Mae'n rhan o ddatblygiad Pentre Awel yn Llanelli - canolfan newydd sbon ar gyfer iechyd, lles ac arloesedd. Mae wedi'i leoli ar yr arfordir godidog yng nghanol Parc Arfordirol y Mileniwm.

    Cyfeiriad: Canolfan Pentre Awel, Llanelli, Cymru, SA15 2EZ

  • Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn archwilio defnydd safle Canolfan Hamdden Llanelli yn y dyfodol fel rhan o ystyriaethau ehangach ar gyfer yr ardal.

  • Bydd y pwll hydrotherapi yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer iechyd ac adsefydlu ond bydd ar gael trwy raglenni a gefnogir. Rhagor o wybodaeth i ddilyn.

  • Bydd - bydd llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus yn gwasanaethu Canolfan Pentre Awel, gan ei gwneud yn hygyrch ar fws a gwasanaethau lleol eraill. Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu'n agosach at y dyddiad agor.

  • Ni fydd angen i chi wneud dim - bydd eich aelodaeth yn trosglwyddo'n awtomatig i Ganolfan Pentre Awel. Byddwn yn cysylltu â chi yn agosach at y dyddiad agor gyda manylion llawn a'r camau nesaf.

  • Os ydych chi eisoes yn rhan o'n rhaglen Dysgu Nofio yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, byddwn yn sicrhau bod gennych le yng Nghanolfan Pentre Awel. Byddwn mewn cysylltiad â'r holl fanylion cyn y symud i wneud y newid mor llyfn â phosibl.