• Enwebwch eich arwr chwaraeon lleol!

    Ydych chi'n adnabod unigolyn, hyfforddwr, gwirfoddolwr neu clwb sydd wedi dangos cyflawniadau eithriadol ym maes chwaraeon? Gwnewch yn siŵr bod eu hymdrechion yn cael eu cydnabod drwy eu henwebu ar gyfer Gwobr Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin!

    Bob blwyddyn, mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn rhoi cyfle i ni gydnabod a dathlu'r dalent sydd gennym o ran chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys dynion a merched o fyd y campau, hyrfforddwyr ymroddedig a gwirfoddolwyr ymrwymedig, sydd i gyd yn sicrhau bod chwaraeon yn digwydd yma yn y sir.

    Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan Dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Gaerfyrddin ac fe'u cefnogir gan nifer o bartneriaid a noddwyr.

    Yn ogystal â Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, mae'r categorïau'n cynnwys Mabolgampwr a Mabolgampwraig Ifanc, Chwaraewr/Chwaraewraig Anabl, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel, Gwirfoddolwr Chwaraeon, Person Ifanc Ysbrydoledig, Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc, Clwb y Flwyddyn Chategori Gwasanaethau Rhagorol i Chwaraeon.

    Nodwch: rhaid i'r rhai sy'n gymwys i dderbyn gwobr naill ai:

    • fod wedi'u geni yn Sir Gaerfyrddin,
    • fod yn byw yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd,
    • fod yn cynrychioli clwb neu ysgol yn Sir Gaerfyrddin am o leiaf 5 mlynedd yn eu camp os ydynt yn byw mewn sir arall.

    Gall athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gael eu henwebu am fwy nag un wobr, ond mae'n rhaid cyflwyno ffurflen ar wahân ar gyfer pob categori.

    *Bydd enwebiadau'n cau ar Dydd Sul 25ain Hydref 2026.*

Gavin Griffiths Group

Prif Noddwr 2026

Rydym yn falch i gyhoeddi taw prif noddwr am wobrau 2026 ydy Gavin Griffiths Group.

Enwebwch Yma - Meini Prawf Categori a Ffurflenni Enwebu (cliciwch i ehangu pob categori)

  • Mae'n agored i unrhyw chwaraewr neu chwaraewraig. Rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi -

    • Cael llwyddiant ar lefel genedlaethol/ryngwladol
    • Cynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu camp
    • Dangos ymrwymiad i'r gamp

    Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    Cyflawniadau gorau (hyd at 3) o’r enwebeion, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle y daeth yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth. A oes gan yr enwebai safle Cymreig/Prydeinig.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n cael eu henwebu fod yng Nghategori Iau eu camp ac o dan 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi -

    • Cael llwyddiant ar lefel genedlaethol/ryngwladol
    • Cynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu camp
    • Dangos ymrwymiad i'r gamp
    • Os ydynt o dan 21 oed ac wedi cystadlu mewn camp ar lefel hŷn, gellir enwebu athletwyr am Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn hefyd

  • Mae'n agored i chwaraewr neu chwaraewraig. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi -

    • Cael llwyddiant ar lefel genedlaethol/ryngwladol
    • Cynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu camp
    • Dangos ymrwymiad i'r gamp

    Cyflawniadau gorau (hyd at 3) o’r enwebeion, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle y daeth yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth. A oes gan yr enwebai safle Cymreig/Prydeinig.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Mae'n agored i unrhyw hyfforddwr neu hyfforddwraig sy'n -

    • Rhoi o'i hamser i hyfforddi
    • Annog ac ysbrydoli unigolion/tîm i gyflawni hyd eithaf eu gallu
    • Meddu ar gymhwyster hyfforddi yn eu camp
    • Hyfforddi athletwyr/timau sy'n perfformio ar lefel genedlaethol a/neu ryngwladol

    Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Y cymwysterau hyfforddi sydd gan yr enwebai, Hyd at 3 o lwyddiannau gorau’r enwebai, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle yn y gystadleuaeth a beth arweiniodd at gystadlu yn y cystadleuaeth. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd hyfforddi a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Mae'n agored i unrhyw hyfforddwr neu hyfforddwraig dros 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolion sydd -

    • Yn rhoi eu hamser i chwaraeon
    • Yn annog pobl i fod yn fwy egnïol mewn chwaraeon
    • Yn cyfrannu'n rheolaidd mewn lleoliad cymunedol lleol
    • Yn meddu ar gymhwyster hyfforddi yn eu camp
    • Nad ydynt yn cael eu talu am eu rôl hyfforddi
    • Croesewir enwebiadau ar gyfer staff ysgolion am weithgareddau allgyrsiol

    Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Sawl awr yr wythnos maent yn hyfforddi, Y cymwysterau hyfforddi sydd gan yr enwebai. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd hyfforddi a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Mae'n agored i unrhyw ddyn neu fenyw dros 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolion sydd -

    • Â rôl nad yw'n rôl hyfforddi, fel aelod o bwyllgor, codi arian, torri'r gwair
    • Yn rhoi eu hamser i'w rôl
    • Yn gweithio 'y tu ôl i'r llen', gan gael effaith yn eu clwb/lleoliad
    • Nad ydynt yn cael eu talu am eu rôl

    Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Am faint o oriau'r wythnos mae'r enwebai yn gwirfoddoli. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd gwirfoddol a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Mae'n agored i unrhyw berson ifanc gwrywaidd neu fenywaidd 21 oed ac iau. Rydym yn chwilio am unigolion sydd -

    • Yn gwirfoddoli o fewn mudiad, e.e. ysgol, clwb chwaraeon, grŵp ieuenctid
    • Yn ymgymryd â rolau sy'n cynnwys arwain sesiynau, cynnal digwyddiadau, dyfarnu a/neu weinyddu mewn rôl chwaraeon
    • Wedi rhoi o'u hamser a'u hegni i ysbrydoli eraill i fod yn gorfforol egnïol
    • Nad ydynt yn cael eu talu am y gwaith

    Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Am faint o oriau'r wythnos mae'r enwebai yn gwirfoddoli. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd gwirfoddol a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Tîm hŷn mewn clwb/sefydliad sydd -

    • Wedi llwyddo ar lefel uchel yn eu camp
    • Yn cynrychioli eu clwb fel tîm
    • Cystadlu mewn cystadleuaeth/digwyddiad tîm
    • Wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella

    Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    Hyd at 3 o gyflawniadau gorau’r enwebai, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle’r enwebai yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth hon.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Tîm iau mewn clwb/sefydliad sydd -

    • Wedi llwyddo ar lefel uchel yn eu camp
    • Yn cynrychioli eu clwb fel tîm
    • Cystadlu mewn cystadleuaeth/digwyddiad tîm
    • Wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella

    Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    Hyd at 3 o gyflawniadau gorau’r enwebai, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth hon.

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Rydym yn chwilio am glwb sydd -

    • Yn rhagweithiol wrth gynnig cyfle i bob aelod yn y clwb (chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion) ddatblygu
    • Wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu eu camp
    • Yn ymgysylltu â'r gymuned i hyrwyddo a chodi arian
    • Yn aelod o gorff llywodraethu cenedlaethol eu camp

    Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2025 i 31ain Awst 2026.

  • Mae'n agored i unrhyw ddyn neu fenyw. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd -

    • Wedi ymroi dros 20 mlynedd/oes i chwaraeon o fewn cymuned / sefydliad
    • Wedi cael effaith ac yn ysbrydoli eraill
    • Wedi ymgymryd â rolau sy'n amrywio o hyfforddi, dyfarnu a gweinyddu i olchi'r cit, paratoi lluniaeth a chynnal a chadw'r clwb yn gyffredinol
    • Nad yw'n cael ei dalu am ei rôl
    • Yn aelod presennol o glwb

Edrych yn ôl ar y gwobrau 2025 - unigolion, timau a chlybiau

Llinell Amser o Enwebiadau a Cyhoeddi'r Rhestr Fer

  • 1 Medi 1 2026

    Enwebiadau yn Agor i'r Cyhoedd

  • 2 Hydref 25 2026

    Enwebiadau yn Cau i'r Cyhoedd

  • 3 Ionawr 2027

    Rhestr Fer yn cael ei chyhoeddi ar gyfer pob categori

  • 4 Chwefror 18 2027

    Seremoni Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2026

Uchafbwyntiau o'r Noson yn 2025