Cymunedau Actif yw adran Cyngor Sir Sir Gaerfyrddin sy'n gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol ledled y sir.
Gan weithio'n agos gyda lleoliadau Addysg, Clybiau Chwaraeon, Sefydliadau Cymunedol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a'r Sector Iechyd, ein nod yw cael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn amlach trwy weithgaredd corfforol, chwaraeon cymunedol ac ymyriadau iechyd a lles.
Gan weithio'n agos gyda Lleoliadau Addysg, Clybiau Chwaraeon, Sefydliadau Cymunedol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a'r Sector Iechyd ein nod yw cael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn amlach.
Archwilio a Dysgu
Mae'r Swyddogion Archwilio a Dysgu yn canolbwyntio ar helpu plant o oedran ifanc i ddatblygu eu sgiliau corfforol fel eu bod yn dod yn fwy hyderus i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol am oes.
Mae dysgu a bod yn hyderus i roi cynnig ar chwaraeon newydd, yn debyg i ddysgu darllen. Ychydig iawn o blant a allai godi llyfr a dechrau ei ddarllen yn hyderus heb ddysgu'r wyddor yn gyntaf, yna rhai geiriau ac yna brawddegau… ac mae yna'r un peth gyda gweithgaredd corfforol! Mae angen i blant archwilio a dysgu sgiliau corfforol unigol yn gyntaf (ee hopian, taflu, neidio), yna dysgu eu defnyddio mewn gweithgaredd syml, yna eu defnyddio wrth chwarae chwaraeon (cicio pêl, cicio pêl i bartner, cicio pêl mewn gêm o bêl-droed!).
Mae'r Swyddogion Archwilio a Dysgu yn datblygu llawer o gyfleoedd cynaliadwy yn eu hardal ddaearyddol ar gyfer plant ifanc 0-7 oed trwy weithio gydag amrediad o sefydliadau megis Meithrinfeydd, Llyfrgelloedd, Canolfannau Teulu, Ysgolion ... y mwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i blant - y gorau!
Cyfranogi
Mae'r tîm o Swyddogion Cyfranogol yn cefnogi'r Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, Clybiau Chwaraeon a Chymunedau yn eu hardal ddaearyddol i gael pobl ifanc i fod yn egnïol. Trwy weithio'n agos gydag ystod o bartneriaid, gall y Tîm greu rhaglenni arloesol sy'n siapio arferion ymarfer corff pobl ifanc am oes.
Oedolion Actif
Y Swyddogion Oedolion Actif yw'r ychwanegiad mwyaf newydd at y Tîm Cymunedau Actif a'u ffocws yw sicrhau bod cyfleoedd eang yn bodoli i oedolion fod yn egnïol trwy chwaraeon, iechyd ac ymgysylltu â'r gymuned.
Gan weithio'n agos gyda Chlybiau Chwaraeon, Cynghorau Tref a Chymuned ac asiantaethau eraill, mae ein Swyddogion yn sicrhau eu bod yn cynyddu nifer o gyfleoedd i oedolion fod yn egnïol - o gefnogi'r gymuned i gychwyn clwb chwaraeon newydd i gyflwyno pêl rwyd cerdded i grŵp wau!
Chwaraeon Anabledd
Mae gan ein Swyddog Chwaraeon Anabledd rôl ganolog ac unigryw wrth helpu i sbarduno newid trawsnewidiol trwy greu sector chwaraeon mwy cynhwysol lle mae pob unigolyn anabl wedi gwirioni ar chwaraeon, gan gynnig dewis go iawn o ran ble, pryd a pha mor aml y mae pobl yn chwarae chwaraeon.
Gan weithio gyda phartneriaid newydd a phresennol y nod yw croesawu cynhwysiant, a thrwy wneud hynny, darparu lefelau uwch fyth o weithgaredd i bobl anabl.
Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi a'ch cymuned i fod yn egnïol!