Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2024!

01/09/2024

Enwebwch eich arwr chwaraeon lleol!

Ydych chi'n adnabod unigolyn, hyfforddwr, gwirfoddolwr neu clwb sydd wedi dangos cyflawniadau eithriadol ym maes chwaraeon? Gwnewch yn siŵr bod eu hymdrechion yn cael eu cydnabod drwy eu henwebu ar gyfer Gwobr Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin!

Bob blwyddyn, mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn rhoi cyfle i ni gydnabod a dathlu'r dalent sydd gennym o ran chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys dynion a merched o fyd y campau, hyrfforddwyr ymroddedig a gwirfoddolwyr ymrwymedig, sydd i gyd yn sicrhau bod chwaraeon yn digwydd yma yn y sir.

Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan Dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin ac fe'u cefnogir gan nifer o bartneriaid a noddwyr.

Yn ogystal â Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, mae'r categorïau'n cynnwys Mabolgampwr a Mabolgampwraig Ifanc, Chwaraewr/Chwaraewraig Anabl, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel, Gwirfoddolwr Chwaraeon, Person Ifanc Ysbrydoledig, Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc, Clwb y Flwyddyn Chategori Gwasanaethau Rhagorol i Chwaraeon.

Nodwch: rhaid i'r rhai sy'n gymwys i dderbyn gwobr naill ai:

  • fod wedi'u geni yn Sir Gaerfyrddin,
  • fod yn byw yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd,
  • fod yn cynrychioli clwb neu ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn eu camp os ydynt yn byw mewn sir arall.

Gall athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gael eu henwebu am fwy nag un wobr, ond mae'n rhaid cyflwyno ffurflen ar wahân ar gyfer pob categori.

*Bydd enwebiadau'n cau ar Dydd Sul 3ydd Tachwedd.*

Enwebwch Yma - Meini Prawf Categori a Ffurflenni Enwebu

Categori Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn

Mae'n agored i unrhyw chwaraewr neu chwaraewraig. Rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi -

  • Cael llwyddiant ar lefel genedlaethol/ryngwladol
  • Cynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu camp
  • Dangos ymrwymiad i'r gamp

Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Cyflawniadau gorau (hyd at 3) o’r enwebeion, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle y daeth yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth. A oes gan yr enwebai safle Cymreig/Prydeinig.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Mabolgampwr Ifanc y Flwyddyn

Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n cael eu henwebu fod yng Nghategori Iau eu camp ac o dan 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi -

  • Cael llwyddiant ar lefel genedlaethol/ryngwladol
  • Cynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu camp
  • Dangos ymrwymiad i'r gamp
  • Os ydynt o dan 21 oed ac wedi cystadlu mewn camp ar lefel hŷn, gellir enwebu athletwyr am Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn hefyd

Cyflawniadau gorau (hyd at 3) o’r enwebeion, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle y daeth yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth. A oes gan yr enwebai safle Cymreig/Prydeinig.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Mabolgampwraig Ifanc y Flwyddyn

Categori Chwaraewr Anabl y Flwyddyn

Mae'n agored i chwaraewr neu chwaraewraig. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi -

  • Cael llwyddiant ar lefel genedlaethol/ryngwladol
  • Cynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr yn eu camp
  • Dangos ymrwymiad i'r gamp

Cyflawniadau gorau (hyd at 3) o’r enwebeion, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle y daeth yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth. A oes gan yr enwebai safle Cymreig/Prydeinig.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel y Flwyddyn

Mae'n agored i unrhyw hyfforddwr neu hyfforddwraig sy'n -

  • Rhoi o'i (h)amser i hyfforddi
  • Annog ac ysbrydoli unigolion/tîm i gyflawni hyd eithaf eu gallu
  • Meddu ar gymhwyster hyfforddi yn eu camp
  • Hyfforddi athletwyr/timau sy'n perfformio ar lefel genedlaethol a/neu ryngwladol

Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Y cymwysterau hyfforddi sydd gan yr enwebai, Hyd at 3 o lwyddiannau gorau’r enwebai, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle yn y gystadleuaeth a beth arweiniodd at gystadlu yn y cystadleuaeth. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd hyfforddi a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn

Mae'n agored i unrhyw hyfforddwr neu hyfforddwraig dros 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolion sydd -

  • Yn rhoi eu hamser i chwaraeon
  • Yn annog pobl i fod yn fwy egnïol mewn chwaraeon
  • Yn cyfrannu'n rheolaidd mewn lleoliad cymunedol lleol
  • Yn meddu ar gymhwyster hyfforddi yn eu camp
  • Nad ydynt yn cael eu talu am eu rôl hyfforddi
  • Croesewir enwebiadau ar gyfer staff ysgolion am weithgareddau allgyrsiol

Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Sawl awr yr wythnos maent yn hyfforddi, Y cymwysterau hyfforddi sydd gan yr enwebai. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd hyfforddi a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn

Mae'n agored i unrhyw ddyn neu fenyw dros 21 oed. Rydym yn chwilio am unigolion sydd -

  • Â rôl nad yw'n rôl hyfforddi, fel aelod o bwyllgor, codi arian, torri'r gwair
  • Yn rhoi eu hamser i'w rôl
  • Yn gweithio 'y tu ôl i'r llen', gan gael effaith yn eu clwb/lleoliad
  • Nad ydynt yn cael eu talu am eu rôl

Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Am faint o oriau'r wythnos mae'r enwebai yn gwirfoddoli. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd gwirfoddol a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn

Mae'n agored i unrhyw berson ifanc gwrywaidd neu fenywaidd 21 oed ac iau. Rydym yn chwilio am unigolion sydd -

  • Yn gwirfoddoli o fewn mudiad, e.e. ysgol, clwb chwaraeon, grŵp ieuenctid
  • Yn ymgymryd â rolau sy'n cynnwys arwain sesiynau, cynnal digwyddiadau, dyfarnu a/neu weinyddu mewn rôl chwaraeon
  • Wedi rhoi o'u hamser a'u hegni i ysbrydoli eraill i fod yn gorfforol egnïol
  • Nad ydynt yn cael eu talu am y gwaith

Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Rôl yr enwebai o fewn yr ysgol/clwb, Am faint o oriau'r wythnos mae'r enwebai yn gwirfoddoli. Disgrifiad byr o'r gweithgaredd gwirfoddol a gyflawnwyd gan yr enwebai a pha effaith a gafodd hyn.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Tîm y Flwyddyn

Tîm hŷn mewn clwb/sefydliad sydd -

  • Wedi llwyddo ar lefel uchel yn eu camp
  • Yn cynrychioli eu clwb fel tîm
  • Cystadlu mewn cystadleuaeth/digwyddiad tîm
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella

Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Hyd at 3 o gyflawniadau gorau’r enwebai, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle’r enwebai yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth hon.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Tîm Ifanc y Flwyddyn

Tîm iau mewn clwb/sefydliad sydd -

  • Wedi llwyddo ar lefel uchel yn eu camp
  • Yn cynrychioli eu clwb fel tîm
  • Cystadlu mewn cystadleuaeth/digwyddiad tîm
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella

Ar gyfer y ffurflen enwebu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

Hyd at 3 o gyflawniadau gorau’r enwebai, gan gynnwys enw, lleoliad a dyddiad y gystadleuaeth, safle yn y gystadleuaeth a’r hyn a arweiniodd at yr enwebai i gystadlu yn y gystadleuaeth hon.

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Categori Clwb Chwaraeon y Flwyddyn

Rydym yn chwilio am glwb sydd -

  • Yn rhagweithiol wrth gynnig cyfle i bob aelod yn y clwb (chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion) ddatblygu
  • Wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu eu camp
  • Yn ymgysylltu â'r gymuned i hyrwyddo a chodi arian
  • Yn aelod o gorff llywodraethu cenedlaethol eu camp

Rydym yn chwilio am gyflawniadau o 1af Medi 2023 i 31ain Awst 2024.

Gwobr Goffa Ryan Jones am Wasanaethau Rhagorol i Chwaraeon

Mae'n agored i unrhyw ddyn neu fenyw. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd -

  • Wedi ymroi dros 20 mlynedd/oes i chwaraeon o fewn cymuned / sefydliad
  • Wedi cael effaith ac yn ysbrydoli eraill
  • Wedi ymgymryd â rolau sy'n amrywio o hyfforddi, dyfarnu a gweinyddu i olchi'r cit, paratoi lluniaeth a chynnal a chadw'r clwb yn gyffredinol
  • Nad yw'n cael ei dalu am ei rôl
  • Yn aelod presennol o glwb

Oriel yr Anfarwolion Chwaraeon

Rydym yn chwilio am eiconau chwaraeon o Sir Gaerfyrddin i gael eu cynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Sir Gaerfyrddin!

Cyflwynwyd Oriel yr Anfarwolion ochr yn ochr â’r Gwobrau Chwaraeon i anrhydeddu mabolgampwyr, mabolgampwyr ac eraill o Sir Gaerfyrddin sydd wedi ymroi blynyddoedd i’w camp, wedi cael llwyddiant mewn chwaraeon o safon fyd-eang, sydd wedi rhoi Sir Gaerfyrddin ar y map chwaraeon byd-eang ac sy’n ysbrydoliaeth i’r byd presennol a'r genhedlaeth nesaf o bencampwyr chwaraeon.

Mae'n rhaid i'r unigolyn fod wedi ymddeol o'r gystadleuaeth am o leiaf 5 mlynedd.

Rydym yn chwilio am eiconau chwaraeon sydd -

  • Wedi cael llwyddiant mewn chwaraeon o safon fyd-eang, fel athletwr, hyfforddwr, dyfarnwr neu reolwr
  • Wedi ymddeol ers o leiaf bum mlynedd
  • Rhoi Sir Gaerfyrddin ar y map chwaraeon byd-eang
  • Yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr chwaraeon
gwobrau 2023
gwobrau 2023 2
gwobrau 2023 3