Beth sydd ymlaen?

Rydyn ni'n cefnogi nifer o fentrau a digwyddiadau partner i dynnu sylw at bwysigrwydd bod yn egnïol yn gorfforol o oedran ifanc.

Cwrs Beicio - Dysgu Beicio

Dyddiad: 26ain, 27ain a 28ain Hydref

Amser: 09:00-10:15 neu 10:30-11:45

Lleoliad: Neuadd Y Dref, Hendy-Gwyn-Ar-Daf, SA34 0AA

Pris: £15.75

Eisiau meithrin hyder eich plentyn o feic cydbwysedd i feic pedal? Beth am ddod â nhw i'n cwrs dwys 3-diwrnod i ddatblygu eu hyder ar feic.

Mae'r sesiynau'n cynnwys gweithgareddau strwythuredig a chwarae rhydd. Mae pob sesiwn wedi'i hadeiladu o amgylch gemau, heriau a phrofiadau newydd a fydd yn helpu eich plentyn i gyrraedd y nod o allu reidio beic yn hyderus.

Bydd angen i rieni/gwarcheidwaid/gofalwyr fod yn rhan o'r sesiynau gyda'u plant. Byddwch hefyd yn derbyn syniadau ar sut i helpu eich plentyn gartref ar eu beic i ymarfer rhwng sesiynau.

Os oes gan eich plentyn eu beic a'u helmed eu hunain yna mae'n ddoeth dod â nhw, os nad oes, bydd detholiad o feiciau cydbwysedd a pedal.

Cliciwch yma i archebu lle, neu chwiliwch am Canolfan Hamdden Caerfyrddin > learn 2 ride ar yr ap.

Oes mae angen mwy o wybodaeth, e-bostiwch: Actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk