01/09/2026

Enwebwch eich arwr chwaraeon lleol!

Ydych chi'n adnabod unigolyn, hyfforddwr, gwirfoddolwr neu clwb sydd wedi dangos cyflawniadau eithriadol ym maes chwaraeon? Gwnewch yn siŵr bod eu hymdrechion yn cael eu cydnabod drwy eu henwebu ar gyfer Gwobr Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin!

Bob blwyddyn, mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn rhoi cyfle i ni gydnabod a dathlu'r dalent sydd gennym o ran chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys dynion a merched o fyd y campau, hyrfforddwyr ymroddedig a gwirfoddolwyr ymrwymedig, sydd i gyd yn sicrhau bod chwaraeon yn digwydd yma yn y sir.

Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan Dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Gaerfyrddin ac fe'u cefnogir gan nifer o bartneriaid a noddwyr.

Yn ogystal â Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, mae'r categorïau'n cynnwys Mabolgampwr a Mabolgampwraig Ifanc, Chwaraewr/Chwaraewraig Anabl, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel, Gwirfoddolwr Chwaraeon, Person Ifanc Ysbrydoledig, Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc, Clwb y Flwyddyn Chategori Gwasanaethau Rhagorol i Chwaraeon.

Nodwch: rhaid i'r rhai sy'n gymwys i dderbyn gwobr naill ai:

  • fod wedi'u geni yn Sir Gaerfyrddin,
  • fod yn byw yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd,
  • fod yn cynrychioli clwb neu ysgol yn Sir Gaerfyrddin am o leiaf 5 mlynedd yn eu camp os ydynt yn byw mewn sir arall.

Gall athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gael eu henwebu am fwy nag un wobr, ond mae'n rhaid cyflwyno ffurflen ar wahân ar gyfer pob categori.

*Bydd enwebiadau'n cau ar Dydd Sul 25ain Hydref 2026.*