02/08/2026

Crynhoi Gemau'r Gymanwlad 2026 - Glasgow

Llun Baner: SWpix Cycling

Dros y deg diwrnod diwethaf, mae pump o athletwyr Sir Gaerfyrddin wedi cynrychioli Tîm Cymru yn y Para Bowlio a Seiclo Trac yng Ngemau'r Gymanwlad 2026 yn Glasgow.

Cystadlodd athletwyr o 74 o Wledydd a thiriogaethau ar draws 10 camp rhwng dydd Gwener Gorffennaf 24 a dydd Sul Awst 2.

Steffan James oedd yr athletwr cyntaf i gystadlu yn y Bowlio Para yn ystod pum niwrnod cyntaf y gystadleuaeth yng nghanolfan SEC. Dim ond 48 awr ar ôl ei gêm fedal efydd, trodd y sylw at Felodrom Syr Chris Hoy wrth i sesiynau seiclo trac ddechrau yn ystod ail hanner yr wythnos, gyda Gemau i'w chofio i Emma Finucane, ynghyd â Jessica Roberts, Rory Gravelle a Steffan Lloyd.

Wrth i'r Gemau ddod i ben nos Sul, rydym yn edrych ar athletwyr Sir Gaerfyrddin a ddewiswyd i gynrychioli eu gwlad yn yr Alban.

Gorffennodd Tîm Cymru, a welodd garfan o 113 o athletwyr yn cymryd rhan, y Gemau gyda chyfanswm o 31 medal a 9fed yn y tabl medalau — 9 aur, 10 arian a 12 efydd.

Steffan James

Fe wnaeth Steffan James gynrychioli Tîm Cymru yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf dros y pedwar diwrnod diwethaf yng Glasgow, gan gystadlu gyda Julie Thomas yn y bowlio Parau Cymysg Para.

Ar y ffordd i gêm y fedal efydd yng nghanolfan yr SEC (Gorffennaf 28), enillodd y ddau bedair gêm a cholli dim ond un pan wynebon nhw Awstralia, Lloegr, Seland Newydd, De Affrica a'r Alban.

Daeth Steffan a Julie trwy ornest gyffrous a chlos, gyda James yn sicrhau'r fedal efydd i Gymru gyda bel olaf y gêm ar ol iddo orffen yn 1-1.

Llun: Tim Cymru

Emma Finucane

Am gemau oedd hi i seiclwr trac Emma Finucane, a gynrychiolodd Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yr wythnos hon. Pedair ras... Pedair medal aur, yn torri record... Tri record Gemau... i gyd wedi'u cyflawni mewn dim ond pedwar diwrnod!

Ddydd Iau, daeth Tîm Sbrint Cymru yn bencampwyr y Gymanwlad ar ôl i'r triawd gipio buddugoliaeth gyfforddus dros Loegr mewn record Gemau newydd.

Dychwelodd Finucane, enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin, y diwrnod canlynol ar gyfer y sbrint unigol a hawlio record gemau arall o 10.322 eiliad.

Gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn ras treial amser 1000m ddydd Sadwrn, enillodd ei thrydydd medal aur gyda record arall o 1:05.285. Gan orffen gyda buddugoliaeth yn rownd derfynol y Keirin brynhawn Dydd Sul, Emma yw'r athletwr cyntaf mewn hanes i ennill mwy na dwy fedal aur yn yr un gemau!

Llun: Tim Cymru

Jessica Roberts

Fe wnaeth Jessica Roberts gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yr wythnos hon, gan sicrhau dwy fedal yn y trac seiclo ar hyd y ffordd.

Ar Ddiwrnod 1, roedd Jessica yn rhan o garfan Tîm 'Pursuit' a enillodd efydd, gan guro Lloegr yn y rownd derfynol gydag amser o 4:12.973.

Yna ychwanegodd fedal arian unigol yn y Ras Pwyntiau dros 25km ddydd Sadwrn, gan sgorio 52 pwynt i sicrhau'r ail safle.

Roedd Jessica hefyd yn cystadlu mewn dau ddigwyddiad arall yn ystod y Gemau, gan gynnwys y rowndiau rhagbrofol 'Pursuit' Unigol ac yn 11eg yn y Ras 'Elimination' ar brynhawn olaf y gystadleuaeth.

Llun: Tim Cymru

Rory Gravelle

Fe wnaeth Rory Gravelle gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yr wythnos hon, mewn dau ddigwyddiad yn y trac seiclo.

Roedd Rory yn rhan o garfan 'Pursuit' i Ddynion, a gymhwysodd ar gyfer y rownd derfynol ar noson agoriadol y gystadleuaeth a gorffen yn 4ydd mewn amser o 3:54.063.

24 awr yn ddiweddarach, roedd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth yn ôl ar y trac yn Ras 'Elimination' Dynion, a ddaeth ag ail ddiwrnod y gystadleuaeth i ben. Gorffennodd yn y 10fed safle nos Wener.

Llun: Tim Cymru

Steffan Lloyd

Fe wnaeth Steffan Lloyd gynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yr wythnos hon, mewn pedwar ddigwyddiad yn y trac seiclo.

Cystadlodd yn Sbrint Tîm y Dynion ddydd Iau, lle cofnododd Tîm Cymru amser o 44.075. Y diwrnod canlynol, aeth ymlaen trwy rownd ragbrofol y Keirin, gan gyrraedd y cam ail-gymhwyso ar ôl gorffen dim ond +0.152 eiliad y tu allan i'r lleoedd awtomatig.

Yn y Sbrint Unigol, aeth Lloyd ymlaen i'r rownd derfynol 1/8 ar ôl cofnodi 9.050 eiliad yn y ras rhagbrofol. I gloi ei gystadleuaeth fore Sul, ef oedd y gorffenwr Cymreig cyntaf yn y Treial Amser 1000m, gan gofnodi amser o 1:00.638 i orffen yn chweched.

Llun: Tim Cymru