Mae ein dosbarthiadau chwilbedlo dan arweiniad hyfforddwr yn weithgaredd poblogaidd lle mae aelodau o'r un meddylfryd â chi yn dod at ei gilydd ar gyfer sesiwn ymarfer dwysedd uchel, llawn chwys! Mae'r gerddoriaeth gyflym a'r goleuadau isel yn helpu i greu amgylchedd cadarnhaol ac ysgogol.
Stiwdio Chwilbedlo
Mae stiwdio chwilbedlo grwp yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin wedi cael ei huwchraddio ac mae nawr ar agor.
Beth sy'n newydd? Mae'r stiwidio chwilbedlo yn cynnwys 30 o feiciau arloesol Life Fitness IC7. Mae'r beiciau yma yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf gan gynnwys system ymarfer Coach by Colour - bydd y parth hyfforddi lliw yn sicrhau eich bod yn ymarfer ar y dwyster cywir ym mob ymarfer.
Pa un a ydych yn ddechreuwyr neu'n chwilio am sesiwn ymarfer sy'n anodd o ran dygnwch, mae chwilbedlo yn addas i bobl o bob lefel ffitrwydd. Mae pob dosbarth yn eich galluogi i wneud cynnydd ar gyflymder sy'n addas i chi oherwydd chi sy'n rheoli'r gwrthiant drwy gydol y sesiwn. Byddwch dan arweiniad yr hyfforddwr drwy gydol y sesiwn.
Mae dosbarthiadau yn para oddeutu 30 munud.
Hoffech chi roi cynnig arni? Sicrhewch eich bod yn archebu eich lle ac yn cyrraedd 10 munud yn gynnar er mwyn i'r hyfforddwr ddangos i chi sut i addasu'r sêt a'r cyrn ar eich cyfer.
Chwilbedlo 'My Ride Tour'
Ni fydd angen i chi fethu dosbarth chwilbedlo eto! Mae ein dosbarth chwilbedlo rhithwir yn eich galluogi i wneud ymarfer corff pan fydd yn gyfleus i chi!
Mae Chwilbedlo Rhithwir yn brofiad ymarfer corff sinematig, lle cewch eich arwain drwy'r ymarfer cyfan, gan brofi amrywiaeth o wahanol diroedd beicio a thirweddau hardd ledled y byd. Mae hyd y dosbarthiadau yn amrywio, ac yn para rhwng 35 munud a 55 munud - edrychwch ar ein hamserlen i gael rhagor o fanylion.