Nofio Am Ddim

Nod y Fenter Nofio Am Ddim yw cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a thros 60 oed i ddysgu nofio a nofio yn fwy rheolaidd. Mae'n rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan Chwaraeon Cymru a'i darparu gan y 22 Awdurdod Lleol.

Sesiynau Nofio am ddim dros 60 oed ac o dan 16

O 1 Medi, mae newidiadau pwysig i'n rhaglen Nofio am Ddim 60+ .

Mae'r fenter nofio am ddim wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ers ei chyflwyno yn 2003. Oherwydd gostyngiad yn yr arian a geir gan Lywodraeth Cymru Due to a reduction in the budget allocation ac awydd i ddenu mwy o gyfranogwyr, mae angen i ni addasu'r cynnig. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran pryd mae pobl yn mynychu.

Gan ddechrau Medi 1, bydd cwsmeriaid yn cael mynediad i BOB sesiwn nofio lonydd a chyhoeddus am hyd at 9 sesiwn y mis am ddim (heb ei gyfyngu i sesiynau nofio 60+ yn unig). Mae hyn yn golygu tua dau nofio am ddim yr wythnos.

Nofio am ddim i blant ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Llanelli, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman a Canolfan Hamdden Llanymddyfri fel a ganlyn:

Nofio am ddim i blant

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Sesiynau 16 ac o dan

Dydd Sadwrn: 4.00yp - 5.00yp, ac eithrio'r dyddiadau canlynol, a fydd yn rhedeg rhwng 8.00yb - 9.00yb

21ain Medi and 26ain Hydref

Canolfan Hamdden Llanelli

Sesiynau 16 ac o dan

Dydd Sadwrn: 3:30yp - 4:30yp

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Sesiynau 16 ac o dan

Dydd Sul: 1:00yp - 2:00yp

Canolfan Hamdden Llanymddyfri

Sesiynau 16 ac o dan

Dydd Sul: 11.30yb - 12.30yb

Nofio Cyfeillgar i Ddementia

Mae’r sesiwn hon yn sesiwn hamddenol, dyner a chynhwysol i oedolion yn unig mewn amgylchedd diogel, cefnogol a chyfeillgar.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn yn addas? Unrhyw un sy'n byw gyda cholled cof oherwydd oedran, unrhyw un sydd am fwynhau ymarfer corff effaith isel i helpu i wella sefydlogrwydd, cydbwysedd, hyblygrwydd a hwyliau. Mae croeso mawr i ofalwyr.

Beth sydd angen i chi ei wybod am nofio a dementia

• Gall nofio gynnig ymdeimlad o les meddyliol, rhywbeth na ellir ei fesur yn hawdd ond sy'n aml yn cael ei grybwyll yn anecdotaidd gan gyfranogwyr.

• Mae'n clirio'r meddwl, yn annog positifrwydd ac yn adeiladu ymdeimlad o hunanwerth.

• Gall nofio leddfu cynnwrf a lleihau pryder, ymlacio'r corff, cynnal y corff mewn amgylchedd cymharol ddi-bwysau.

• Gall Canolfannau Hamdden hefyd fod yn fannau cyfarfod, a all helpu i leihau unigrwydd, eich cyflwyno i ffrindiau a chynnig cyfleoedd i gymdeithasu.

Mae’r pedwar awgrym yma ar gyfer unrhyw nofiwr sy’n byw gyda dementia, neu ar gyfer eich gofalwr.

1. Gallwch ofyn am ymweliad ymgyfarwyddo â'ch pwll nofio lleol lle dymunwch nofio. Bydd hyn yn caniatáu i chi, neu'ch gofalwr, ofyn yr holl gwestiynau sydd eu hangen arnoch.

2. Peidiwch â meddwl oherwydd diagnosis bod yn rhaid i chi roi'r gorau i wneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau neu roi cynnig ar bethau newydd.

3. Os na allwch fod yn actif oherwydd poen yn y cymalau, cymerwch ran mewn nofio - mae'n fath o weithgaredd effaith isel, felly mae'n hawdd ar eich cymalau.

4. Ceisiwch gyngor gweithiwr meddygol proffesiynol os oes gennych unrhyw bryderon.

Mae'r rhai 60+ oed a'u Gofalwyr yn mynd am ddim.

Sesiynau Cyfeillgar i Ddementia

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Nofio Cyfeillgar i Ddementia

Dydd Iau: 3:00yp - 4:00yp

Canolfan Hamdden Llanelli

Nofio Cyfeillgar i Ddementia

Dydd Mercher: 2:30yp - 3:30yp

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Nofio Cyfeillgar i Ddementia

Dydd Gwener: 2:30yp - 3:30yp

Canolfan Hamdden Llanymddyfri

Nofio Cyfeillgar i Ddementia

Dydd Mawrth: 10:30yb - 11:30yb

Dydd Iau: 10.45yb - 11:45yb

Ymuno neu Archebu

Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer pob sesiwn.

Gallwch gofrestru ar gyfer aelodaeth trwy;

  • Cliciwch YMUNO
  • Dewiswch Safle o'r gwymplen (dewiswch y ganolfan sydd orau gennych)
  • Dewiswch Cychwyn Aelodaeth
  • Dewiswch Actif 60+, a dewisiwch aelodaeth
  • Cwblhewch eich manylion
  • Ar ôl i chi gwblhau'r camau hyn, byddwch nawr yn derbyn e-bost cadarnhau gennym ni. Nawr byddwch chi'n gallu archebu.

I weld yr holl opsiynau aelodaeth cliciwch yma