Mwy na champfa yn unig...
Yma yn Actif, ein nod yw eich helpu i gyrraedd eich nodau, waeth pa mor fawr ydynt. Mae ein tîm ffitrwydd cyfeillgar yma i'ch helpu bob cam o'r ffordd.
Offer Campfa o'r radd flaenaf
Mae ein campfeydd Actif yn cynnig amgylchedd cyfoes ac agored ag offer campfa Life Fitness.
Ym mhrif safleoedd Actif (Dyffryn Aman, Caerfyrddin a Llanelli) mae'r ystafelloedd ffitrwydd yn llawn offer Life Fitness o'r radd flaenaf ac yn cynnwys system deledu, cyfryngau cymdeithasol ac adloniant integredig. Mae ein safleoedd Actif llai (Sanclêr, Castellnewydd Emlyn a Llanymddyfri) hefyd yn cynnwys offer Life Fitness.
Pwysau rhydd a pheiriannau gwytnwch
Defnyddiwch ein peiriannau gwytnwch a'n mannau pwysau rhydd i dynhau a ffyrfhau eich corff.
(Sylwch na all rheiny sy'n 11-13 oed ddefnyddio'r man pwysau rhydd.)
Ymarfer corff bellach yn fwy cymdeithasol
Mae'r consolau sgrîn gyffwrdd gorau yn eich galluogi chi i fynd ar y we, gweld eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gwylio teledu, defnyddio cyrsiau rhyngweithiol, cofnodi a chadw eich hoff ymarferion a llawer mwy. Ar ôl i chi greu cyfrif, gallwch newid gwedd eich cyfrif pan fyddwch yn mewngofnodi ar y peiriannau.
Gwedd newydd ar eich ymarfer corff
Mae eich ymarferion bellach yn llawer mwy diddorol! Mae'r cyrsiau rhyngweithiol ar ein peiriannau cardio yn dod â'ch ymarfer corff yn fyw! Drwy ddefnyddio ein cyrsiau rhyngweithiol, manylder uwch, gallwch fynd ar deithiau cerdded, rhedeg a beicio drwy leoliadau enwog
Ymaelodi
Oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod? Ewch i gael golwg ar yr holl ddewisiadau aelodaeth sydd ar gael ac ar ôl i chi ddod o hyd i un sy'n addas, ewch ati i YMUNO AR-LEIN.
Cyn i chi ddefnyddio'r gampfa, gofynnir i chi gael cyflwyniad i'r gampfa. Dyma yw cam cyntaf eich siwrne ffitrwydd.
Bydd ein hyfforddwyr ffitrwydd tra hyfforddedig yn dangos i chi sut i ddefnyddio detholiad o beiriannau a bydd hefyd yn trafod eich nodau hyfforddiant a'r hyn yr ydych am ei gyflawni, er mwyn iddynt allu awgrymu'r peiriannau a neu'r ymarferion gorau a fydd yn eich helpu chi bob cam o'ch siwrne ffitrwydd.
I drefnu eich sesiwn gyflwyno, gallwch gysylltu â'ch Canolfan Hamdden Actif agosaf ar ôl ymuno, neu fynd ar-lein a dewis diwrnod ac amser sydd fwyaf addas i chi.
Beth sydd angen i chi wisgo ar gyfer eich sesiwn gyflwyno
Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo dillad cyfforddus ac esgidiau ymarfer oherwydd yr amser delfrydol i chi gwblhau eich sesiwn ymarfer gyntaf yw yn union ar ôl y sesiwn hon.