Mae'r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS) yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun yn targedu cleientiaid sy'n 16 oed neu'n hŷn sydd â phroblem, neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig, gan roi mynediad iddynt at raglen ymarfer corff dan oruchwyliaeth o ansawdd uchel.
Mae'r cynllun hwn yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys meddygon teulu, ffisiotherapyddion, dietegwyr, nyrsys practis a therapyddion galwedigaethol. Gall y gweithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio eu cleientiaid at amrywiaeth o raglenni a gynhelir yn ein Canolfannau Hamdden yn ogystal ag allan yn y gymuned.
Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys;
- Atgyfeiriad Meddyg Teulu
- Cwrs Adfer y Galon Cam IV
- Clefyd Anadlu Cronig
- Atal Codymau
- Ymarfer corff ar ôl cael Strôc
- Ymarfer Corff mewn Cadair
- Ymarfer Corff yn y Dŵr
Mae'r cynllun cyfeirio yn para 16 wythnos ac yn cael ei gynnal yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli, Dyffryn Aman a Chastellnewydd Emlyn. Darperir y cynllun hefyd mewn rhai canolfannau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin.
Beth yw ein gwaith?
- Rydym yn cynnig asesiadau cychwynnol un i un
- Cefnogaeth, cymorth ac anogaeth gan ein staff cymwysedig drwy gydol y cynllun
- Yn cynllunio sesiynau ac yn eich arwain drwyddynt, gan dynnu sylw at y sesiynau a fydd fwyaf addas ar eich cyfer chi yn ystod yr 16 wythnos.
- Trafod eich nodau tymor hir a rhoi cyfarwyddyd
Sut y gallaf ymuno?
Er mwyn ymuno â'r cynllun, y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol - Meddyg Teulu, Nyrs Practis, Ffisiotherapydd. Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gallu cadarnhau pa un a ydych yn addas ac yn bodloni'r meini prawf NERS (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff).