DEWCH I GYFARFOD Â'N LLYSGENNAD CYMUNEDOL
ENW
Naomi Davies
PAM YDYCH CHI WEDI DEWIS BOD YN LLYSGENNAD CYMUNEDOL A BETH ALL POBL EI DDISGWYL O'CH GWEITHGAREDD NEU SESIYNAU?
Dewisais fod yn Llysgennad Cymunedol gan ei fod yn cyd-fynd â gwerthoedd fy sesiynau grŵp. Fy nod yw cael pawb i symud fwy ac yn bwysicaf oll i fwynhau ymarfer corff! Mae fy nosbarth yn canolbwyntio ar ymestyn a chryfhau ein cyhyrau, gan fod y rhain yn gwanhau wrth i ni fynd yn hŷn. Trwy ganolbwyntio ar hyn, gallwn ni i gyd symud fwy a theimlo'n well!
GWEITHGAREDD RYDYCH CHI'N EI ARWAIN NEU'N EI GYDLYNU?
Dosbarth Cylchedau, Ymestyn a Chryfder
BLE MAE'R MAN CYFARFOD AR GYFER EICH GWEITHGAREDD?
Neuadd Gymunedol Dafen, Dafen Park, Maescanner Road, Llanelli, SA14 8LP
AMSER EICH GWEITHGAREDD?
5:30yp pob Dydd Mercher a Dydd Iau
DIWRNOD EICH GWEITHGAREDD?
Ar Dydd Mercher- Cylchedau
Ar ddydd Iau- Ymestyn a Chryfder
A OES LLEOEDD PARCIO AR GAEL?
Oes, mae modd parcio am ddim y tu cefn i'r neuadd
A OES LLUNIAETH AR GAEL?
Oes
A OES TOILEDAU AR GAEL?
Oes
YR AMGYLCHEDD?
Dan Do
PA DDILLAD AC ESGIDIAU SYDD EU HANGEN?
Dillad cyfforddus fel trwser llac/crys-t/legins/siorts/bra chwaraeon. Esgidiau ymarfer, ond rydym fel arfer yn cwblhau'r dosbarth yn ein sanau!
Hefyd mae angen mat ymarfer corff ond mae gen i rai sbâr fel arfer.
A OES COST?
£5 y sesiwn. Ar hyn o bryd mae dau gynnig:
- Talu a mynd i 5 sesiwn a chael eich 6ed sesiwn am ddim
- Cyfeirio ffrind er mwyn cael dosbarth am ddim (mae'r Telerau ac Amodau ar fy nhudalen Facebook)
A OES ISAFSWM OEDRAN AR GYFER EICH GWEITHGAREDD?
16 oed gyda chaniatâd rhiant.
A YW EICH GWEITHGAREDD YN ADDAS AR GYFER UNIGOLION AG ANABLEDD?
Ar hyn o bryd mae hyn yn dibynnu ar yr anabledd.
OS YW'N BRIODOL, A YW EICH SESIYNAU'N ADDAS AR GYFER ANIFEILIAID ANWES?
Nac ydyn
OS YW'N BRIODOL, A YW EICH SESIYNAU'N ADDAS AR GYFER CADEIRIAU GWTHIO?
Nac ydyn
A YDYCH YN CANIATÁU I GYFRANOGWYR GYSYLLTU Â CHI'N UNIONGYRCHOL OS OES GANDDYNT UNRHYW YMHOLIADAU YNGLŶN Â'CH GWEITHGAREDD?
Ydw – ffôn (galwad), ffôn (neges destun) Whatsapp ac ar Messenger trwy Facebook