-
Mae Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi cyntaf wedi'i werthu allan!
Mae Tîm Cymunedau Chwaraeon a Hamdden Actif yn falch o lansio Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi cyntaf erioed, sydd yn cael ei cynnal ar ddydd Sul 16 Awst 2026. MAE'R DIGWYDDIAD WEDI EI WERTHU ALLAN!
Wedi'i leoli ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi newydd sbon rhwng Abergwili a Llandeilo, mae'r digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnig profiad gwirioneddol unigryw i redwyr.
Gwybodaeth y Ras
Gan ddechrau a gorffen yn Ysgol Bro Dinefwr yn Ffairfach, mae'r ras gyffrous hon yn rhoi cyfle i gyfranogwyr fwynhau llwybr hanner marathon cwbl ddi-draffig trwy un o dirweddau harddaf Sir Gaerfyrddin.
Bydd y ras yn dechrau gyda'r don gyntaf am 9:00yb. Bydd y rhedwyr yn cael eu rhannu mewn i grŵpiau wahanol o ran amser dechrau.
Ar agor i bob gallu
P'un a ydych chi:
- Yn edrych am amser personol gorau
- Hyfforddi ar gyfer marathon llawn
- Ymgymryd â'ch hanner marathon cyntaf
...mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i groesawu rhedwyr o bob gallu.
Mwy na dim ond ras
Nid dim ond yr hanner marathon yw diwrnod y digwyddiad! Byddwn hefyd yn cynnal:
- Gweithgareddau i blant
- Profiadau sy'n addas i deuluoedd a ddarperir gan Dîm Cymunedau Actif
Gwirfoddoli Gyda Ni
Allwch chi sbario ychydig oriau ar 16 Awst? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant. Mae'r rolau ar y diwrnod yn cynnwys:
- Allan ar y cwrs
- Cefnogi gorsafoedd dŵr
- Cynorthwyo wrth y llinell derfyn (helpu gyda dwr, medalau)
Wedi colli allan ar lle neu diddordeb mewn cefnogi'r digwyddiad trwy gwirfoddoli? Cysylltwch â ni heddiw trwy ebost i fod yn rhan o'r digwyddiad cyffrous hwn.
Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi Actif
Ydych chi'n barod?
Cwestiynau Cyffredin
-
Ble mae'r Hanner Marathon yn cychwyn ac yn gorffen?
Mae'r llinell gychwyn a'r llinell derfyn yn yr un lleoliad, yn Ysgol Bro Dinefwr yn Ffairfach.
-
Pa amser mae'n dechrau?
Mae'r ras yn dechrau gyda'r don gyntaf am 9:00yb. Bydd amseroedd cychwyn y rhedwyr yn cael eu rhannu'n sawl grwp.
-
Sut alla i gael fy rhif ras?
Bydd cofrestru'n agor ddydd Sadwrn 15fed Awst, yn un o'n canolfannau hamdden (lleoliad i'w gadarnhau). Bydd cofrestru'n ailagor ar fore'r digwyddiad rhwng 7:00yb -8:00yb.
-
Beth yw'r llwybr?
Mae'r llwybr yn dilyn Llwybr Dyffryn Tywi o Ffairfach i'r pwynt hanner ffordd ychydig ar ôl Llanarthne. Bydd rhedwyr yn troi o gwmpas ac yn gwneud eu ffordd yn ôl i Ysgol Bro Dinefwr tuag at y llinell gorffen.
Byddwch yn derbyn map llwybr yn eich pecyn ras. Mae hwn yn gwrs allan ac yn ôl.
-
Cyfleusterau Toiled
Mae toiledau ar hyd y cwrs ac ar yn yr ardal dechrau/gorffen.
-
Beth yw'r oedran lleiaf ar gyfer yr hanner marathon?
Mae angen i bob cyfranogwr fod yn 18 oed o leiaf ar ddiwrnod Hanner Marathon Dyffryn Tywi.
-
A fydd dŵr ar y cwrs?
Bydd. Bydd gorsafoedd dŵr wedi'u lleoli bob ychydig filltiroedd ar y cwrs ac ar y llinell gorffen.
-
A fydd medal i'r rhai sy'n gorffen?
Bydd. Bydd pob gorffenwr yn derbyn medal ar y llinell derfyn.
-
A fyddaf yn cael amser gorffen swyddogol?
Byddwch. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei amseru sy'n golygu y bydd pob rhedwr yn cael ei amser gorffen ei hun.
-
Cymorth Cyntaf
Bydd staff meddygol proffesiynol ar gael ar y dechrau a'r diwedd ac ar hyd y llwybr.
-
A allaf redeg gyda bygi?
Am resymau diogelwch, ni chaniateir bygis yn yr Hanner Marathon. Mae'r cwrs yn cael ei rannu â rhedwyr eraill ac mae'n cynnwys adrannau a all fod yn gul, felly er mwyn sicrhau diogelwch a mwynhad yr holl gyfranogwyr, gofynnwn i redwyr beidio â chymryd rhan gyda bygi.
-
A yw'r ras yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?
Mae croeso i ddefnyddwyr cadair olwyn gymryd rhan. Os ydych chi'n defnyddiwr cadair olwyn, cysylltwch â ni ar actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk i roi gwybod i ni.
-
A allaf drosglwyddo fy lle i rywun arall?
Gallwch drosglwyddo'ch lle i rhywun arall, fodd bynnag bydd tâl a dyddiad cau i gwblhau'r broses.
-
A allaf gael ad-daliad os na allaf redeg?
Yn anffodus, ni allwn gynnig unrhyw ad-daliadau yn y digwyddiad hwn.
-
A oes amser terfyn?
Oes, bydd angen i redwyr gwblhau'r cwrs o fewn 4 awr ar ol croesi'r llinell dechrau.
-
A allaf wisgo clustffonau yn ystod y ras?
Yn anffodus, ni chaniateir clustffonau yn ystod y digwyddiad hanner marathon oni bai eu bod yn dargludo esgyrn.
Mae hyn er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb sy'n cymryd rhan ac mae'n galluogi rhedwyr i allu clywed unrhyw gyfarwyddiadau gan wirfoddolwyr.
-
A oes rasys i blant?
Na, ni fydd unrhyw rasys i blant ond bydd gweithgareddau i oedrannau iau ar gael ym Mhencadlys y Ras y tu allan i Ysgol Bro Dinefwr.
-
Pwy allaf cysylltu gyda oes mae gen i gwestiwn?
Os oes gennych gwestiwn am Hanner Marathon Dyffryn Tywi, anfonwch e-bost at Dîm Cymunedau Actif ar actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk.