Hanner Marathon Dyffryn Tywi cyntaf wedi'i werthu allan!
-
Amdano'r Digwyddiad
Mae Tîm Cymunedau Chwaraeon a Hamdden Actif yn falch o lansio Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi cyntaf erioed sydd wedi gwerthu allan, a gynhelir ar ddydd Sul 16 Awst 2026.
Wedi'i leoli ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi newydd syfrdanol rhwng Abergwili a Llandeilo, mae'r digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnig profiad gwirioneddol unigryw i redwyr.
Gwybodaeth y Ras
Gan ddechrau a gorffen yn Ysgol Bro Dinefwr yn Ffairfach, mae'r ras gyffrous hon yn rhoi cyfle i gyfranogwyr fwynhau llwybr hanner marathon cwbl ddi-draffig trwy un o dirweddau harddaf Sir Gaerfyrddin.
Bydd y ras yn cychwyn gyda'r don gyntaf am 9:00yb. Bydd rhedwyr yn cael eu rhannu'n wyth grŵp.
Ar agor i bob gallu
P'un a ydych chi'n:
- Mynd ar drywydd eich amser personol
- Yn hyfforddi ar gyfer marathon llawn
- Yn gwneud eich hanner marathon cyntaf
...mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i groesawu rhedwyr o bob gallu.Mwy na dim ond ras
Nid hanner marathon yn unig yw diwrnod y digwyddiad! Byddwn hefyd yn cynnal:
- Gweithgareddau i blant
- Profiadau sy'n addas i deuluoedd a ddarperir gan Dîm Cymunedau Actif
Pecyn Y Ras
Mae'r pecyn ras ar-lein ar gael isod, ac mae'n cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod cyn diwrnod y ras, gan gynnwys amseroedd allweddol, gwybodaeth am barcio, rheolau'r ras, canllawiau diogelwch a chyfleusterau digwyddiadau. Cymerwch ychydig funudau i ddarllen y wybodaeth yn ofalus cyn cyrraedd.
Pencadlys y Digwyddiad | Dechrau a Gorffen: Yn Ysgol Bro Dinefwr, Ffairfach, Llandeilo, SA19 6PE
Map Y Cwrs
Cwrs allan ac yn ôl yw hwn. Mae'r llwybr yn dilyn Llwybr Dyffryn Tywi o Ffairfach i'r pwynt hanner ffordd ychydig ar ôl Llanarthne. Bydd rhedwyr yn troi o gwmpas ac yn gwneud eu ffordd yn ôl i Ysgol Bro Dinefwr tuag at y llinell gorffen.
Byddwch yn derbyn map llwybr yn eich pecyn ras.
Casglu Rhif y Ras
Rydym yn annog yn gryf bob rhedwr yn casglu eu rhif ras cyn diwrnod y ras lle bo modd. Bydd ar gael yn y lleoliadau canlynol yn ystod wythnos y ras:
Dydd Mercher 12 Awst: Canolfan Pentre Awel, Llanelli (12:00-18:00)
Dydd Iau 13 Awst: Canolfan Hamdden Dyffryn Aman (12:00-18:00)
Dydd Gwener 14 Awst: Canolfan Hamdden Caerfyrddin (12:00-18:00)
Os na allwch fynychu un o’r diwrnodau casglu, gellir casglu o Bentref y Digwyddiad ar fore’r ras rhwng 07:00yb a 08:00yb.
Gollwng Bagiau
Bydd ardal fagiau ddiogel yn gweithredu o'r Neuadd Chwaraeon o 7:00yb ar ddiwrnod y ras.
Defnyddiwch y label bagiau a gyflenwir gyda'ch pecyn ras a chlymwch eich label yn ddiogel i'ch bag.
Gwnewch yn siŵr bod eich rhif yn weladwy'n glir a pheidiwch â gadael pethau gwerthfawr.
Parcio Ceir
Mae parcio o amgylch y digwyddiad yn gyfyngedig.
Ystyriwch rannu ceir lle bo modd. Mae'r lleoliadau parcio sydd ar gael yn cynnwys:
- Ysgol Bro Dinefwr (dim allanfa tan i'r rhedwr olaf orffen tua 1yp)
- Cyfleusterau Chwaraeon Tre-gib
- Mart Llandeilo
- Maes Parcio Tref Llandeilo (Heol y Cilgant)
Am wybodaeth am gau ffyrdd ar ddiwrnod y ras o 9:00yb i 12:00yp, gweler y pecyn ras.
Cwestiynau Cyffredin
Cliciwch y botymau isod am y Cwestiynau Cyffredin, sy'n cwmpasu ystod o bynciau, gan gynnwys gwybodaeth am ddiwrnod y ras, parcio, cyfleusterau, a logisteg digwyddiadau.
-
Ble mae'r Hanner Marathon yn cychwyn ac yn gorffen?
Mae'r llinell gychwyn a'r llinell derfyn yn yr un lleoliad, tu allan i Ysgol Bro Dinefwr yn Ffairfach, SA19 6PE
-
Pa amser mae'n dechrau?
Mae'r ras yn dechrau gyda'r don gyntaf am 9:00yb. Bydd amseroedd cychwyn y rhedwyr yn cael eu rhannu'n sawl grwp, wyth i gyd.
-
Ble allaf gaslu fy rhif ras?
Rydym yn annog yn gryf bob rhedwr yn casglu eu bib ras cyn diwrnod y ras lle bo modd. Bydd casglu'r ras ar gael yn y lleoliad canlynol yn ystod wythnos y ras:
Dydd Mercher 12 Awst: Canolfan Pentre Awel, Llanelli (12:00-18:00)
Dydd Iau 13 Awst: Canolfan Hamdden Dyffryn Aman (12:00-18:00)
Dydd Gwener 14 Awst: Canolfan Hamdden Caerfyrddin (12:00-18:00)
Os na allwch fynychu un o'r digwyddiadau casglu, gellir casglu o Bentref y Digwyddiad ar fore'r ras rhwng 07:00yb a 08:00yb.
Dewch â'ch e-bost cadarnhau wrth gasglu'ch rhif.
-
A all ffrind neu aelod o'r teulu gasglu rhif ar ran cyfranogwr?
Ydy, bydd ffrind neu aelod o'r teulu yn gallu casglu rhif ar ran rhywun arall, fodd bynnag, nodwch y bydd angen i chi ddod ag e-bost cadarnhau wrth gasglu'r rhif.
-
Sut ydw i'n gwybod pa don rydw i ynddi?
Bydd lliw eich ton a neilltuwyd ar eich bib ras.
Dylai rhedwyr fynd i mewn i'r pen gan gydweddu â'u lliw a'u hamser gorffen disgwyliedig. Mae dechrau gyda rhedwyr o gyflymder tebyg yn helpu i wella diogelwch ac yn rhoi profiad ras gwell i bawb.
-
A oes unrhyw heolydd sydd yn cau y mae angen i mi fod yn ymwybodol ohonynt?
Bydd ffyrdd ar gau ar rannau o lwybr y ras o 9:00yb i 12:00yp. Bydd llwybrau dargyfeirio wedi'u harwyddo ar waith drwy gydol y cyfnod hwn.
Bydd cau ffyrdd yn cael ei weithredu ar ôl i'r ras ddechrau mewn rhannau o:
- Pont Cilsan (Coleg Gelli Aur)
- Dryslwyn
- Llanarthne
Ni fydd unrhyw gau ffyrdd ar y briffordd y tu allan i ardal Ysgol Bro Dinefwr.
-
Ble alla i barcio fy nghar?
Mae parcio o amgylch y digwyddiad yn gyfyngedig.
Ystyriwch rannu ceir lle bo modd. Mae lleoliadau parcio sydd ar gael yn cynnwys:
Ysgol Bro Dinefwr
Sylwch, os byddwch yn parcio yn y lleoliad hwn, na fyddwch yn gallu gadael y maes parcio nes bod y rhedwr olaf wedi croesi'r llinell derfyn, a ddisgwylir i fod tua 1:00yp.
Cyfleusterau Chwaraeon Tregib
Disgwyliwch rywfaint o dagfeydd, gan fod y fynedfa a'r allanfa yn defnyddio'r un pwynt mynediad. Fodd bynnag, mae croeso i chi adael ar unrhyw adeg. Mae tua 100-120 o leoedd parcio ar gael.
Mart Llandeilo
Gallwch adael unrhyw bryd. Mae tua 200 o leoedd parcio ar gael.
Maes Parcio Tref Llandeilo (Heol Crescent)
Maes parcio talu ac arddangos yw hwn, a gall ffioedd parcio fod yn berthnasol. Mae tua 190 o leoedd parcio ar gael.
-
A fydd 'pacers' yn y digwyddiad?
Bydd 'pacers' ar gael ar draws ystod o amseroedd gorffen targed, o 1:30 i 3:30.
Byddant yn hawdd eu hadnabod gan gario baneri cyflymder swyddogol.
Mae 'pacers' yn rhedwyr profiadol sy'n anelu at gynnal cyflymder cyson drwy gydol y cwrs.
-
A oes amser terfyn?
Amser terfyn swyddogol y digwyddiad yw 4 awr.
Ar gyfer diogelwch cyfranogwyr a gofynion ailagor ffyrdd:
- Rhaid i bob rhedwr gyrraedd tua 13km o fewn 2 awr 29 munud.
- Bydd cerddwyr yn dilyn y cyfranogwyr olaf.
- Efallai y gofynnir i gyfranogwyr y tu ôl i bwyntiau terfyn adael y cwrs.
-
Cyfleusterau Toiled
Mae toiledau ar hyd y cwrs ac ar yn hwb y digwyddiad rhwng yr ysgol a'r neuadd chwaraeon.
-
A fydd dŵr ar y cwrs?
Bydd gorsafoedd dŵr wedi'u lleoli tua:
- 4km
- 8km
- 10km
- 11km
- 13km
- 17km
- Llinell Gorffen
-
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi orffen?
Ar ôl croesi'r llinell derfyn:
- Casglwch eich medal gorffen
- Derbyniwch luniaeth a dŵr
- Dathlwch eich cyflawniad gyda theulu a ffrindiau
Parhewch i symud trwy'r ardal gorffen a dilynwch gyfarwyddiadau'r stiwardiaid.
-
A fydd medal i'r rhai sy'n gorffen?
Bydd. Bydd pob gorffenwr yn derbyn medal ar y llinell derfyn.
-
Ble alla i ddod o hyd i'm canlyniad?
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei amseru â 'chip' sy'n golygu y bydd pob rhedwr yn cael ei amser gorffen ei hun unwaith y byddant yn croesi'r mat.
Bydd canlyniadau dros dro ar gael ar-lein yn fuan ar ôl y digwyddiad. Bydd cyfranogwyr yn gallu cael mynediad at:
- Amseroedd swyddogol
- Canlyniadau safle
- Tystysgrifau gorffen y gellir eu lawrlwytho
-
Cymorth Cyntaf
Bydd staff meddygol proffesiynol ar gael ar y dechrau a'r diwedd ac ar hyd y llwybr.
-
A allaf redeg gyda bygi?
Am resymau diogelwch, ni chaniateir bygis yn yr Hanner Marathon.
Mae'r cwrs yn cael ei rannu â rhedwyr eraill ac mae'n cynnwys adrannau a all fod yn gul, felly er mwyn sicrhau diogelwch a mwynhad yr holl gyfranogwyr, gofynnwn i redwyr beidio â chymryd rhan gyda bygi.
-
A yw'r ras yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?
Mae croeso i ddefnyddwyr cadair olwyn gymryd rhan. Os ydych chi'n defnyddiwr cadair olwyn, cysylltwch â ni ar actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk i roi gwybod i ni.
-
Beth yw'r oedran lleiaf ar gyfer yr hanner marathon?
Mae angen i bob cyfranogwr fod yn 18 oed o leiaf ar ddiwrnod Hanner Marathon Dyffryn Tywi.
-
A allaf drosglwyddo fy lle i rywun arall?
Yn anffodus, ni ellir trosglwyddo ceisiadau i gyfranogwr arall. Fodd bynnag, os na allwch fynychu, gallwch ohirio eich cais i ddigwyddiad y flwyddyn nesaf.
I drefnu gohiriad, anfonwch e-bost at Lauren Tynan ar LTynan@carmarthenshire.gov.uk
-
A allaf gael ad-daliad os na allaf redeg?
Yn anffodus, ni allwn gynnig unrhyw ad-daliadau yn y digwyddiad hwn.
-
A allaf wisgo clustffonau yn ystod y ras?
Yn anffodus, ni chaniateir clustffonau yn ystod y digwyddiad hanner marathon oni bai eu bod yn dargludo esgyrn.
Mae hyn er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb sy'n cymryd rhan ac mae'n galluogi rhedwyr i allu clywed unrhyw gyfarwyddiadau gan wirfoddolwyr.
-
A oes rasys i blant?
Na, ni fydd unrhyw rasys i blant ond bydd gweithgareddau i oedrannau iau ar gael ym Mhencadlys y Ras y tu allan i Ysgol Bro Dinefwr.
-
Pwy allaf cysylltu gyda oes mae gen i gwestiwn?
Os oes gennych gwestiwn am Hanner Marathon Dyffryn Tywi, anfonwch e-bost at Dîm Cymunedau Actif ar actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk.
Gwybodaeth cefnogwyr
Gall cefnogaeth ar hyd y cwrs wneud gwahaniaeth enfawr i redwyr.
P'un a ydych chi'n cefnogi ffrindiau a theulu neu'n mwynhau awyrgylch y digwyddiad, mae digon i'w weld a'i wneud drwy gydol y dydd.
Mae lleoliadau gwylwyr a argymhellir yn cynnwys:
- Ysgol Bro Dinefwr (Dechrau a gorffen)
- Coleg Gelli Aur (Tua milltir 2.5 a 10.5)
Mae'r lleoliadau hyn yn darparu cyfleoedd gwylio rhagorol wrth ganiatáu i gefnogwyr weld rhedwyr fwy nag unwaith.
Bydd amrywiaeth o werthwyr yn bresennol ar y diwrnod, yn cynnig lluniaeth a danteithion i wylwyr a chyfranogwyr. Disgwylir i werthwyr gynnwys brownis a danteithion melys, hufen iâ, diodydd poeth a mwy.
Amserlen Y Dydd
-
1 07:00: Hwb Digwyddiad yn Agor
Ysgol Bro Dinefwr
-
2 07:00: Hwb Gwybodaeth yn Agor
Ysgol Bro Dinefwr
-
3 07:00: Gwasanaeth gollwng bagiau yn agor
Rhwng yr Ysgol a'r Neuadd Chwaraeon yn Ysgol Bro Dinefwr
-
4 08:30: Pen Dechrau Ar Agor
Tu allan i Ysgol Bro Dinefwr
-
5 08:45: Crynodeb Ras a Chynhesu
Llinell Dechrau
-
6 09:00: Dechrau Y Ras
Tu allan i Ysgol Bro Dinefwr
-
7 13:00: Disgwyl Gorffennwr Olaf
-
8 14:00: Digwyddiad yn Cau
Hwb Y Digwyddiad
Dyma beth fyddwch chi'n dod o hyd iddo yn yr Hwb Digwyddiad ar ddiwrnod y ras o 7:00yb...
-
Pwynt Gwybodaeth
Gwybodaeth y Ras a chefnogaeth
-
Ardal Casglu Rhifau
Ar agor rhwng 7:00yb ac 8:00yb os na allwch gasglu cyn y diwrnod
-
Gollwng Bagiau
Storio bagiau yn ddiogel
-
Toiledau
Cyfleusterau toiled ar y safle
-
Ardal Tylino
Ardal adferiad a thylino
-
Lluniaeth
Bwyd a diod gan ein harlwywyr
-
Gorsaf Ail-lenwi Dŵr
Ail-lenwi eich potel ddŵr
-
Cymorth Cyntaf
Cymorth cyntaf ar gael ar y safle
-
Man Cyfarfod
Man Cyfarfod Llinell Orffen
Gweithgareddau i Blant
Bydd amrywiaeth o weithgareddau i ddiddanu plant yn ystod y digwyddiad.
Bydd hwn wedi'i leoli y tu allan i Ysgol Bro Dinefwr yn Hwb y Digwyddiad.
Amdano Llwybr Dyffryn Tywi
Gwirfoddoli Gyda Ni
Allwch chi sbario ychydig oriau ar 16 Awst? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant. Mae'r rolau ar y diwrnod yn cynnwys:
- Allan ar y cwrs
- Cefnogi gorsafoedd dŵr
- Cynorthwyo wrth y llinell derfyn (helpu gyda dwr, medalau)
Wedi colli allan ar lle neu diddordeb mewn cefnogi'r digwyddiad trwy gwirfoddoli? Cysylltwch â ni heddiw trwy ebost i fod yn rhan o'r digwyddiad cyffrous hwn.