Ddim yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano yn y cwestiynau cyffredin? Gweler isod am ffyrdd eraill o sut i gysylltu â ni.
Cwestiynau Cyffredin Lleoedd Actif
Beth yw Lleoedd Actif?
P'un a ydych chi'n chwilio am ddosbarth Ymestyn ac Ymlacio ysgafn, sesiwn Cylchedau egnïol i gael eich calon i guro'n gyflymach, cyfle i gwrdd â phobl newydd wrth gadw'n egnïol neu ffordd hwyliog o symud mwy yn eich wythnos... mae yna rywbeth i bawb - pob oedran, pob lefel ffitrwydd, pob gallu.
Pryd mae'r sesiynau yn rhedeg?
Cynhelir y sesiynau yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf, Canolfan Gymunedol Hen Ysgol Llanybydder, Neuadd Henoed Porth Tywyn, Canolfan John Burns Cydweli, Neuadd Goffa Pontiets, Neuadd Llandybie, Y Neuadd Cefneithin.
Pa fath o sesiynau sy'n cael eu cynnal?
Yn Actif rydym yn gwerthfawrogi cynwysoldeb, dyna pam y gallwch ddod o hyd i ystod o wahanol sesiynau yn y gymuned. O sesiynau plant i Cylchedau i rai 60+, mae gennym rywbeth i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth, os hoffech weld rhywbeth yn eich ardal leol rhowch wybod i ni drwy gysylltu a gcpearson@carmarthenshire.gov.uk / SionJames@carmarthenshire.gov.uk
Faint mae sesiynau yn ei gostio?
Mae ein sesiynau cymunedol yn fargen, am ddim ond £2.80 y plentyn a £4.50/oedolyn. Mae aelodaethau ar gael hefyd, mae ein haelodaeth gymunedol yn dechrau o £15.90 i oedolyn. Os ydych chi'n 60+ oed gallwch gael mynediad at yr aelodaeth hon am £7.95 am y 4 mis cyntaf.
Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y botwm islaw. Lawrlwythwch Ap Actif > dewiswch ganolfan > sesiynau cymunedol > archebwch dyddiad ac amser ar gyfer y sesiwn. Am unrhyw gymorth, ffoniwch 01267 224700.
A allaf ymuno os oes gennyf gyflwr iechyd neu symudedd cyfyngedig?
Yn hollol. Mae Lleoedd Actif yn croesawu pobl o bob gallu. Mae llawer o sesiynau’n addasadwy, a gall hyfforddwyr helpu i addasu symudiadau i weddu i anghenion unigol.
A yw’r sesiynau’n gymdeithasol yn ogystal ag yn egnïol?
Ydy! Mae llawer o bobl yn mwynhau Lleoedd Actif fel ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, cadw’n frwdfrydig, a mwynhau ymarfer corff mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
A yw sesiynau Lleoedd Actif yn addas ar gyfer pob oedran?
Ydy! Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer pob oedran, o oedolion iau i gyfranogwyr hŷn, gyda ymarferion sy’n addas i oedran ac yn hyblyg i’w haddasu.