Rydym yn gweithio'n agos gyda lleoliadau cymunedol; Cylchoedd Meithrin, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Teulu, gan ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i arweinwyr i sicrhau bod plant o oedran cynnar yn cymryd rhan mewn weithgarwch corfforol.
Dyma rhai ffurfiau sut yr ydym yn gwneud hwn....
Amser Stori Actif...
Beth yw hyn?
• Y bwriad yw cymell plant i fod yn egnïol gan gynyddu eu sgiliau sylfaenol (ystwythder, cytbwysedd a chydsymudiad), a hynny'n ifanc iawn, drwy gyfrwng adrodd stori.
• Cyflwyno straeon mewn modd bywiog drwy gyfrwng gemau a gweithgareddau hwyl.
• Rhoi cyfle i'r rhieni/gwarcheidwaid a'u plentyn ddysgu a chael hwyl gyda'i gilydd.
Sut y gallwch chi gymryd rhan?
Drwy sesiynau Amser Stori Actif yn y gymuned - mae'n bosibl fod sesiynau'n cael eu cynnal yn eich canolfan hamdden leol, yn eich llyfrgell neu yn eich canolfan deulu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan
Bagiau/Bwcedi Benthyg
Mae ein brosiect rhoi bagiau a bwcedi benthyg yn cael ei rhedeg trwy Cylchoedd Meithrin er mwyn annog teuluoedd i helpu eu plant i ymarfer a datblygu eu sgiliau corfforol gartref. Mae pob bag yn cynnwys amrywiaeth o offer a chardiau gweithgareddau sy'n rhoi syniadau i rieni/gwarcheidwaid ar sut i addysgu'r sgil drwy gemau/gweithgareddau hwyliog, megis;
1. Sgiliau symud; cerdded, rhedeg, neidio, ochr gamu
2. Sgiliau rheoli'r corff; cydbwysedd a siapiau
3. Sgiliau rheoli gwrthrychau; dal, taflu, cicio a driblo
Toddlebikes
Mae Toddlebikes yn ffordd wych o annog plant i ddechrau dysgu i reidio beic. Ar ôl i blant allu cerdded yn annibynnol, gallant ddechrau chwarae gyda Toddlebikes. Maent yn ysgafn a gellir eu defnyddio dan do ac yn yr awyr agored. Mae'r beiciau hyn ar gael yn Cylchoedd Meithrinl i blant eu defnyddio yn ystod 'chwarae rhydd' a hefyd sesiwn hwyliog strwythuredig lle byddant yn dysgu'r camau cyntaf tuag at reidio'n annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth am ble mae'r sesiynau hyn yn digwydd, cysylltwch â ni