Neuadd Goffa Talacharn

Mae Actif Chwaraeon a Hamdden yn falch o sefydlu partneriaeth gyda Canolfan Gwili yn Yr Hendy. Wedi'i gefnogi gan gyllid SPF.

Beth sydd ymlaen yn Neuadd Goffa Talacharn?

Dydd Mawrth - Heini am Oes (60+)

Amser Sesiwn: 13:15 – 14:00 Dechrau 7fed Ionawr

Pris: £4.40 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: (Dwysedd isel) Dosbarth ffitrwydd swyddogaethol yn seiliedig ar gadw'n heini ac yn iach am oes. Gweithio ar eich symudedd, hyblygrwydd, cydbwysedd a chryfder, gan ddilyn patrymau symud bob dydd, a defnyddio offer swyddogaethol. Yn addas ar gyfer 60+.

Dydd Mawrth - Amser Stori Actif (2-4 oed)

Amser Sesiwn: 14:15 – 15:00 Dechrau 7fed Ionawr

Pris: £2.70 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: Yn ystod Amser Stori Actif bydd plant yn darllen stori drwy stori gyda'i gilydd ac yn cymryd saib i chwarae gemau sy'n gysylltiedig â'r llyfr. Mae ymgysylltiad rhieni yn cael ei annog.

Dydd Iau - Taith Cerdded Lles

Amser Sesiwn: 14:30 – 15:15 Dechrau 9fed Ionawr

Pris: AM DDIM

Disgrifiad Dosbarth: Ymunwch â ni am daith gerdded Lles o gwmpas Talacharn. Yn rhad ac am ddim i bawb i fynychu. Pan fydd y tywydd yn anffafriol bydd y sesiwn yn rhedeg dan do ac yn newid i baned a sesiwn gêm fwrdd.

Dydd Iau - Sgiliau ar gyfer Chwaraeon Plant (5-7oed)

Amser Sesiwn: 15:30 - 16:00 Dechrau 9fed Ionawr

Pris: £2.70 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: Sesiwn chwaraeon ar gyfer plant 3-5 oed. Bydd plant yn dysgu sgiliau llythrennedd corfforol hanfodol fel taflu a dal wrth gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd. Mae ymgysylltiad rhieni yn cael ei annog.

Dydd Iau - Athletau (8-10oed)

Amser Sesiwn: 16:15 - 16:45 Dechrau 9fed Ionawr

Pris: £2.70 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: Bloc chwe wythnos o athletau ar gyfer oedran 8-10. Gweithio ar amrywiaeth o chwaraeon gwahanol fel gwayaffon, saethyddiaeth a gemau iau. Cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.

Dydd Iau - Clwb Ieuenctid Actif (11-17oed)

Amser Sesiwn: 17:00 - 18:00 Dechrau 9fed Ionawr

Pris: £2.70 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: Ymunwch â Chlwb Ieuenctid Actif am sesiwn hwyliog lle byddwn yn chwarae amrywiaeth o wahanol gemau. Bydd lluniaeth ar gael. Addas ar gyfer unrhyw un 11-17 oed.

Sut i archebu trwy'r ap

Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen ≡ (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Cymunedau Actif.

Ar gyfer sesiynau Neuadd Goffa Talacharn cliciwch ar deilsen Ardal Caerfyrddin a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.

Am Neuadd Goffa Talacharn

Neuadd fawr gyda lle i 180 o bobl eistedd; Ardal y bar; Cegin; Ystafell y gynhadledd; Toiledau; Toiled i'r anabl; Parcio ar gael.

 

Neuadd Goffa

Stryd Clifton,

Talacharn,

Caerfyrddin,

SA33 4QG

 

https://www.facebook.com/LaugharneMemorialHall/