Neuadd Goffa Llandybie

Dosbarthiadau ymarfer corff newydd sbon i oedolion dros 60 oed. Mae ein holl ddosbarthiadau yn canolbwyntio ar ymarfer corff ysgafn i'ch helpu i adennill ffitrwydd ar eich cyflymder eich hun.

Beth sydd ymlaen yn Neuadd Goffa Llandybie?

Dydd Mawrth - Heini Am Oes (60+)

Amser Sesiwn: 09:30 – 10:15

Pris: £4.40 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: (Dwysedd isel) Dosbarth ffitrwydd swyddogaethol yn seiliedig ar gadw'n heini ac yn iach am oes. Gweithio ar eich symudedd, hyblygrwydd, cydbwysedd a chryfder, gan ddilyn patrymau symud bob dydd, a defnyddio offer swyddogaethol. Yn addas ar gyfer 60+.

Sut i archebu trwy'r ap

Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen ≡ (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Cymunedau Actif.

Ar gyfer sesiynau Neuadd Goffa Llandybie cliciwch ar deilsen Ardal Rhydaman a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.