Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf

Mae Actif Chwaraeon a Hamdden yn falch o sefydlu partneriaeth gyda Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf. Wedi'i gefnogi gan gyllid LEADER.

Beth sydd ymlaen yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf?

Dydd Llun - Ymarfer i Gerddoriaeth (60+)

Amser Sesiwn: 10:00 – 10:45 Dechrau 6ed Ionawr

Pris: £4.40 y sesiwn

Disgrifiad: (Dwysedd isel / cymedrol) Dosbarth dawns hwyliog ar ddwysedd ychydig yn is i'r rhai sy'n edrych i ddod yn fwy ffit. Yn addas ar gyfer 60+.

Dydd Llun - Dysgu Codi Pwysau i Fenywod / Merched (14oed+)

Amser Sesiwn: 18:00 – 19:00 Dechrau 6ed Ionawr

Pris: £2.70 plentyn, £4.40 oedolyn

Disgrifiad: Yn addas ar gyfer menywod/merched 14 oed + sydd am fagu hyder wrth godi pwysau a gwella eu ffitrwydd. Dewch i fod yn rhan o'n cymuned!

Dydd Mawrth - Sgiliau ar gyfer Chwaraeon Plant (5-7oed)

Amser Sesiwn: 16:00 – 16:30 Dechrau 7fed Ionawr

Pris: £2.70 y sesiwn

Disgrifiad: Sesiwn chwaraeon ar gyfer plant 5-8 oed. Bydd plant yn dysgu sgiliau llythrennedd corfforol hanfodol fel taflu a dal wrth gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd. Mae ymgysylltiad rhieni yn cael ei annog.

Dydd Mawrth - Sgiliau Rygbi (8-10oed)

Amser Sesiwn: 16:45 – 17:15

Pris: £2.70 y sesiwn

Disgrifiad: Bloc chwe wythnos o rygbi ar gyfer oedran 8-10. Gweithio ar sgiliau pêl, rheolau gêm a gemau iau. Cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.

Dydd Mawrth - Ffitrwydd Iau (11-13oed)

Amser Sesiwn: 17:30 – 18:00 Dechrau 7fed Ionawr

Pris: £2.70 y sesiwn

Disgrifiad: Sesiwn ffitrwydd hwyliog ar gyfer 11-13 oed. Bydd cyfranogwyr yn cael eu dysgu sut i adeiladu cryfder a lefelau ffitrwydd cyffredinol, gan sicrhau y byddant yn ddiogel pan fyddant yn ddigon hen i fynd i gampfa ar eu hunain.

Dydd Mawrth - Cryfder a Chyflyru

Amser Sesiwn: 18:15 – 19:00 Dechrau 7fed Ionawr

Pris: £4.40 y sesiwn

Disgrifiad: (Dwysedd canolig / uchel) Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio i weithio ar eich corff llawn trwy gyfuno cymysgedd o ymarferion cryfder ac aerobig.

Dydd Iau - 60+ Chwaraeon Cymdeithasol

Amser Sesiwn: 13:00 – 13:45 Dechrau 9fed Ionawr

Pris: £4.40 y sesiwn

Disgrifiad: (Dwysedd isel) Sesiynau cymdeithasol sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol gemau fel Boccia, Bowlio a Golff. Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio i fynd i'r afael ag unigedd a dod â'r gymuned ynghyd. Addas ar gyfer 60+.

Sut i archebu trwy'r ap

Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen ≡ (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Cymunedau Actif.

Ar gyfer sesiynau Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf cliciwch ar deilsen Ardal Caerfyrddin a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.