Cyfres 5KM Actif

Ymunwch â ni ar gyfer Cyfres 5KM Actif, digwyddiad hwyliog a chyffrous ar gyfer pob lefel ffitrwydd!

Cyfres 5KM Actif

Lasiwch eich treinars a pharatowch i rhedeg. P'un a ydych chi'n rhedwr profiadol neu newydd ddechrau, mae'r ras 5KM hon yn berffaith i bawb. Peidiwch â cholli'r cyfle i herio'ch hun a mwynhau'r wefr o groesi'r llinell derfyn gyda chyd-gyfranogwyr.

Oedran: 11 + ** Rhaid i 11-13 fod yng nghwmni oedolyn **

Pam Ymuno â Chyfres 5KM Actif?

Digwyddiadau wedi'u Amseru - Bydd pob digwyddiad yn cael ei amseru, p'un a ydych chi'n edrych i cwblhau eich 5km cyflymaf neu'n bwriadu cwblhau sofa i 5km cyntaf.

Archebwch y Tri - archebwch y tri ras er mwyn ennill gwobr eithaf y Gyfres Dair. Bydd pris gostyngol ar gyfer y tri.

Tîm Corfforaethol - Gan edrych i roi hwb i iechyd a lles eich tîm yn y gweithle, ymunwch â'n her gorfforaethol i redeg fel tîm.

Sofa i 5KM - bydd cyfle i dderbyn raglen hyfforddi sofa i 5KM os i chi'n newydd i rhedeg.

Gweithgareddau Plant - Bydd gweithgareddau plant ym mhob digwyddiad gyda chyfle i bwcio eich plentyn i mewn i fwynhau 1 awr o weithgareddau tra bod y rhieni yn cymryd rhan yn y 5km.

 

ARCHEBWCH YMA

 

Gwirfoddolwyr:

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer Cyfres 5km Actif! Mae ein Cyfres 5km Actif yn dibynnu ar wirfoddolwyr ymroddedig i greu digwyddiad diogel, hwyliog a llwyddiannus i bawb sy'n cymryd rhan. O helpu gyda chofrestru i gefnogi rhedwyr a sicrhau gweithrediadau llyfn, mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud y digwyddiad yn brofiad gwych i bawb. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o'r tîm sy'n dod â'r gyfres gyffrous hon yn fyw!

Linc: https://app.upshot.org.uk/survey/4801050d/8399/f4ccfd3d/

Lleoliadau a Dyddiadau Cyfres 5KM

Dydd Sul 22ain Mehefin @ Pen-bre

Parc Gwledig Pen-bre, Llanelli

Dydd Sul 17eg Awst @ Rhydaman

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Dydd Sul 7fed Rhagfyr @ Llanelli

Canolfan Pentre Awel, Llanelli (Rhedeg Santa)