Cerdded a Siarad, Estyn allan a Rhedeg, Torri'r Stigma.
Grŵp cymorth cyfeillgar a chymdeithasol sy'n ceisio gwella llesiant corfforol a meddyliol drwy redeg neu gerdded
Cerdded, Siarad a Rhedeg
Cerdded, Siarad a Rhedeg! Chwilio am ffordd o wella eich ffitrwydd ac ymuno â grŵp cefnogol i wneud ffrindiau newydd?
Dewch i ymuno â'n sesiynau Cerdded, Siarad a Rhedeg a ddarperir ledled Sir Gaerfyrddin ar gyfer oedolion 18+ oed. Mae'r grwpiau hyn yn addas ar gyfer pob gallu, ac yn cynnig opsiynau i gerdded, gwneud 'Couch to 5k' a rhedeg ar eich cyflymder eich hun.
I ddod â'r sesiynau i ben, byddwn yn annog pawb i ymuno â ni am baned a sgwrs.
Yn ystod y sesiynau, mae cyfleoedd i siarad ag aelod o dîm iechyd meddwl sydd wedi cael hyfforddiant a siarad ag aelodau cefnogol eraill o fewn y grŵp.
Mae Cymunedau Actif wedi gweithio mewn partneriaeth ag adran Dai ac Adran Iechyd Meddwl Cyngor Sir Gaerfyrddin.
CERDDED, SIARAD A RHEDEG - SESIYNAU A LLEOLIADAU
Maes Hamdden Rhydaman (Dydd Mawrth a Dydd Iau)
PRYD: Sesiwn bob Dydd Mawrth a Dydd Iau
BLE: Maes Hamdden Rhydaman
AMSER: 9:30yb - 11:00yb
PRIS: AM DDIM
Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol trwy'r ap.
Canolfan Hamdden Llanelli (Dydd Mawrth a Dydd Iau)
PRYD: Sesiwn bob Dydd Mawrth a Dydd Iau
BLE: Canolfan Hamdden Llanelli
AMSER: 9:45yb (i ddechrau am 10:00yb)
PRIS: AM DDIM
Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol trwy'r ap.