Mae Actif Chwaraeon a Hamdden yn falch o sefydlu partneriaeth gyda Canolfan Lles Pontiets. Wedi'i gefnogi gan gyllid SPF.
Beth sydd ymlaen yng Nghanolfan Lles Pontiets?
Dydd Mawrth - Ymarfer i Gerddoriaeth (60+)
Amser Sesiwn: 11:15 – 12:00 Dechrau 7fed Ionawr
Pris: £4.40 y sesiwn
Disgrifiad Dosbarth: (Dwysedd isel / cymedrol) Dosbarth dawns hwyliog ar ddwysedd ychydig yn is i'r rhai sy'n edrych i ddod yn fwy ffit. Yn addas ar gyfer 60+.
Dydd Mawrth - Clwb Actif ar ôl ysgol (8-12 oed)
Amser Sesiwn: 15:30 – 16:15
Pris: £2.70 y sesiwn
Disgrifiad Dosbarth: Addas ar gyfer oedran 8-10. Ymunwch ag Actif am sesiwn hwyliog ar ôl ysgol lle byddwn yn chwarae gemau gwahanol ac yn cwblhau rasys cwrs rhwystr.
Dydd Mawrth - Chwaraeon hwyl i'r teulu (5+)
Amser Sesiwn: 16:30 – 17:15 Dechrau 7fed Ionawr
Pris: £2.70 y sesiwn
Disgrifiad Dosbarth: Dewch â'r teulu cyfan i fondio wrth chwarae gemau a chwaraeon clasurol fel pêl-droed, hoci a llawer mwy!
Dydd Gwener - Beiciau Balwns a chwaraeon (2-4 oed)
Amser Sesiwn: 16:00 – 16:30 Dechrau 10fed Ionawr
Pris: £2.70 y sesiwn
Disgrifiad Dosbarth: Sesiwn wych i blant iau i ddysgu sgiliau hanfodol fel neidio, rhedeg, taflu a sut i reidio beic.
Dydd Gwener - Sgiliau ar gyfer Chwaraeon Plant (5-7 oed)
Amser Sesiwn: 16:45 – 17:15 Dechrau 10fed Ionawr
Pris: £2.70 y sesiwn
Disgrifiad Dosbarth: Sesiwn chwaraeon ar gyfer plant 5-7 oed. Bydd plant yn dysgu sgiliau llythrennedd corfforol hanfodol fel taflu a dal wrth gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd. Mae ymgysylltiad rhieni yn cael ei annog.
Dydd Gwener - Pêl-droed (8-10oed)
Amser Sesiwn: 17:30 – 18:00 Dechrau 10fed Ionawr
Pris: £2.70 y sesiwn
Disgrifiad Dosbarth: Bloc chwe wythnos o bêl-droed ar gyfer oed 8-10. Gweithio ar sgiliau pêl, gwaith troed a gemau mini. Cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.
Dydd Gwener - Clwb Ieuenctid Actif (11-17oed)
Amser Sesiwn: 18:00 - 19:00 Dechrau 10fed Ionawr
Pris: £2.70 y sesiwn
Disgrifiad Dosbarth: Ymunwch â Chlwb Ieuenctid Actif am sesiwn hwyliog lle byddwn yn chwarae amrywiaeth o wahanol gemau. Bydd lluniaeth ar gael. Addas ar gyfer unrhyw un 11-17 oed.
Sut i archebu trwy'r ap
Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen ≡ (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Cymunedau Actif.
Ar gyfer sesiynau Neuadd Lles Pontiets cliciwch ar deilsen Ardal Rhydaman a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.
Am Canolfan Lles Pontiets
Cymdeithas Les Pontiets
Canolfan Les Pontiets
Heol y Meinciau
Pontiets,
Llanelli
SA15 5TR
http://pontyates.org.uk/