Canolfan Gwili, Hendy

Mae Actif Chwaraeon a Hamdden yn falch o sefydlu partneriaeth gyda Canolfan Gwili yn Yr Hendy. Wedi'i gefnogi gan gyllid SPF.

Beth sydd ymlaen yng Nghanolfan Gwili?

Dydd Mawrth - Heini Am Oes

Amser Sesiwn: 10:00 - 10:45

Pris: £4.40 y sesiwn

Disgrifiad: (Dwysedd isel) Dosbarth ffitrwydd swyddogaethol yn seiliedig ar gadw'n heini ac yn iach am oes. Gweithio ar eich symudedd, hyblygrwydd, cydbwysedd a chryfder, gan ddilyn patrymau symud bob dydd, a defnyddio offer swyddogaethol.

Dydd Iau - SenSport (16oed +)

Amser Sesiwn: 17:30 - 18:30

Pris: £2.70 plentyn £4.40 oedolyn

Disgrifiad: Sesiynau aml-weithgaredd sy'n cael eu haddasu i anghenion y cyfranogwyr. Addas ar gyfer unrhyw un 16+ oed sydd â symudedd cyfyngedig, niwroamrywiaeth, anghenion dysgu ychwanegol a mwy. Byddwn yn cael ein harwain gennych chi.

Sut i archebu trwy'r ap

Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen ≡ (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Cymunedau Actif.

Ar gyfer sesiynau Canolfan Gwili cliciwch ar deilsen Ardal Llanelli a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.

Am Canolfan Gwili

Canolfan Gwili  

43 Bryngwili Road, 

Yr Hendy, 

SA4 0XB

https://llanedi.org.uk/