Mae reidio beic yn rhoi ymdeimlad gwych o ryddid i chi – Dylai pob plentyn ym Mhrydain gael y cyfle i ddysgu. Dyna pam y creodd HSBC UK a British Cycling 'Ready Set Ride', gyda gemau cyflym a hawdd am ddim i'ch helpu i ddysgu'ch plentyn sut i bedlo.
Paratoi i Feicio
Does dim i atal unrhyw blentyn rhag gafael mewn beic a rhoi cynnig arni, ond drwy sicrhau bod
y plentyn yn barod gallwch wneud y profiad yn haws ac yn fwy pleserus.
Bydd y gemau difyr hyn yn helpu i baratoi plentyn i feicio, ond maent yn weithgareddau gwych i’w chwarae unrhyw bryd – pa un a yw plentyn yn pedlo neu beidio.
Mae sgiliau craidd a ddatblygir drwy gemau fel y rhain yn paratoi plentyn ar gyfer bywyd egnïol, ond maent wedi’u creu gyda golwg ar feicio.
Cliciwch ar y lluniau islaw i weld yr holl adnoddau i helpu'ch plentyn i paratoi i feicio
Sgiliau i Feicio - Cydbwyso
Mae beiciau balans yn ffordd wych o helpu eich plentyn i baratoi i bedlo. Mae modd troi unrhyw feic yn feic balans drwy dynnu’r pedalau.
Mae’r adran hon yn cynnwys cyfarwyddiadau syml ar sut y gallwch wneud hynny eich hun.
Bydd y gweithgareddau canlynol yn helpu eich plentyn i grwydro ei gymuned a phrofi’r rhyddid y mae beic yn ei gynnig o oedran cynnar.
Gall y gemau hyn gael eu haddasu gennych chi a’ch plentyn a gellir eu chwarae eto pan fydd eich plentyn yn gallu pedlo.
Ceisiwch ddefnyddio’r holl sgiliau hyn wrth feicio o amgylch eich parc neu i’r siopau. Beth allwch chi ei ymarfer tra byddwch allan ar eich beic?
Cliciwch ar y botymau islaw i weld yr holl adnoddau i helpu'ch plentyn gyda cydbwyso
Sgiliau i Feicio - Pedalau
Pan fydd plentyn yn barod i roi cynnig ar bedlo, bydd y gemau hyn yn ei helpu i bontio o sgwtera i bedlo – heb fod angen olwynion sefydlogi!
Wrth bedlo heb gymorth, bydd y gweithgareddau yn helpu plant i wella eu sgiliau a dod yn feicwyr hyderus a hapus sydd am dreulio amser ar eu beic.
Cliciwch ar y botymau islaw i weld yr holl adnoddau i helpu'ch plentyn gyda pedalau
Cwestiynau Cyffredinol
Sut fyddwn i'n helpu fy mhlentyn i allu cael y momentwm ymlaen ar gyfer pedlo?
Mae uchder sedd eich plentyn yn bwysig iawn i sicrhau ei fod yn gallu defnyddio ei goesau'n llawn i gynhyrchu pŵer i symud ymlaen. Felly, sicrhewch ei fod yn eistedd gyda bysedd ei draed yn cyffwrdd â'r llawr yn hytrach na'i draed yn wastad ar y llawr, a allai fod wedi digwydd ar feic balans. Unwaith eto, mae sicrhau ei fod yn gyfforddus â'r uchder hwn yn bwysig er mwyn osgoi pryder ynghylch cwympo.
Tasg i helpu i greu momentwm ymlaen yw Stampio a Llithro lle gallwch annog eich plentyn i rygnu ei droed yn ôl ar hyd y llawr gan gicio gwrthrych i darged.
Beth sydd orau i ymarfer cydbwysedd ar y beic?
Gellir cydbwyso ar y beic fesul cam, gallwch ddechrau gan 'siglo' o un droed i'r llall tra'n ymestyn allan i'r ochr cyn belled â phosibl.
Nesaf, mae'n gydbwysedd trac lle mae'r ddwy droed yn dod oddi ar y llawr tra bo'r beic yn sefydlog, a allwch chi gadw'ch traed i fyny am 5 eiliad wrth eistedd ar y sedd?
Yn olaf, allwch chi gymryd camau breision ar eich beic a phan fyddwch chi'n barod, codi'r ddwy droed i fyny heb eu rhoi i lawr nes i chi ddod i stop llwyr?
Sut fyddech chi'n annog plentyn i ddechrau pedlo ar ei ben ei hun?
Yn gyntaf, mae angen i'ch plentyn deimlo'n gyfforddus gyda beic newydd neu rannau newydd i'r beic 'Y Pedalau'. Felly, dylech ei hannog i ddefnyddio ei beic pedlo fel beic balans ond ei annog i gadw ei draed ar y pedalau dim ond i gleidio yn gyntaf. Unwaith y bydd yn gyfforddus gyda hyn, dylech ei annog i wthio'r pedalau rownd unwaith neu ddwywaith, efallai y bydd angen cymorth arno felly rhowch eich llaw ar ei gefn fel ei fod yn gwybod eich bod yn ei gefnogi cyn iddo gwympo.
Pryd ydych chi'n gwybod a yw plentyn yn barod i symud ymlaen o feic balans i feic pedlo?
Pan fydd y plentyn yn gallu gleidio a llywio gyda'i ddwy droed oddi ar y llawr wrth fynd o amgylch corneli, mae'n barod i ddechrau ymgyfarwyddo â beic pedlo, ond cofiwch fod yn amyneddgar gan ei bod yn broses hir.