Mae Actif wedi helpu i lansio menter gyntaf Cymru o'i math, sef rhaglen gydweithredol 12 wythnos gyda CrossFit Llanelli a Rhaglen yr Academi.
Ymyrraeth a Dargedir
Gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc sydd wedi'u tangynrychioli, yn enwedig menywod a merched, mae'n cyfuno gweithgarwch corfforol ar ffurf CrossFit gyda sgiliau bywyd a datblygiad addysgol trwy gredydau ASDAN.
Mae'r rhaglen yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol, yn meithrin hyder, ac yn cefnogi llesiant holistaidd, gan rymuso disgyblion i ffynnu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.