Rhaglenni Ysgolion

Mae Tîm Cymunedau Actif yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ysgolion gyda rhaglenni chwaraeon a gweithgarwch corfforol diddorol, cynhwysol ac effeithiol sydd â'r nod o wella llythrennedd corfforol, iechyd a llesiant disgyblion.

Cliciwch isod i ddarganfod mwy

Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion

Mae Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion yn rhaglen arloesol sy'n dod â sesiynau gweithgarwch corfforol byw ac ar alw yn uniongyrchol i ystafelloedd dosbarth a neuaddau ysgolion, gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i gadw disgyblion yn egnïol.

Gwyliwch y fideo hwn i weld sut:  Actif Unrhyw Le - Actif

Gydag amserlen hyblyg, gall ysgolion ddewis o amrywiaeth eang o sesiynau wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a lefelau ffitrwydd. P'un a ydyn nhw'n ymuno yn fyw neu'n defnyddio'r llyfrgell fideos helaeth, gall ysgolion integreiddio gweithgarwch corfforol i'w diwrnod mewn ffordd sy'n gweddu i'w hamserlen.

Mae'r rhaglen yn cefnogi datblygiad sgiliau ar sail cwricwlwm trwy weithgareddau fel sgiliau dawns a phêl, gan leihau'r pwysau ar athrawon i gyflwyno addysg gorfforol.  Mae'r sesiynau ar alw yn adnodd delfrydol ar gyfer clybiau ar ôl ysgol, sydd, ynghyd â pharth ffitrwydd oedolion ar gyfer staff, yn gwneud Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion yn adnodd llesiant cynhwysfawr i gymuned yr ysgol gyfan.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod ag 'Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion' i'ch ysgol? Cysylltwch â ni: ActifCommunities@sirgar.gov.uk

Rhaglen Arweinyddiaeth Ifanc

Mae ein rhaglen, a gyflwynir mewn ysgolion uwchradd, yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu sgiliau, hyder a phrofiad trwy rolau gwirfoddoli fel hyfforddi a dyfarnu mewn digwyddiadau chwaraeon a chlybiau cymunedol.

Gwahoddir disgyblion i ddod i nifer o weithdai hyfforddi a'u cefnogi gan ein tîm gyda mentora parhaus i sicrhau eu bod yn datblygu hyder yn eu rôl fel arweinydd ifanc.

Mae'r rhaglen wedi bod yn boblogaidd ledled Sir Gaerfyrddin; mae 75 o ddisgyblion o 7 ysgol uwchradd wedi cymryd rhan yn y flwyddyn academaidd 2024/25. Gall disgyblion fanteisio ar y cyfle a'r rhaglen o flwyddyn 10 drwy eu hadrannau Addysg Gorfforol ysgol uwchradd neu gofrestru isod -

Rhaglen Llysgenhadon Ifanc

Mae ein Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn parhau i gefnogi disgyblion o flwyddyn 5 hyd at flwyddyn 13 i ddod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr mewn chwaraeon. Gan weithio gydag ysgolion cynradd, uwchradd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae ein tîm yn darparu hyfforddiant a mentora i'r llysgenhadon fel eu bod yn datblygu i fod yn arweinwyr hyderus.

Llysgenhadon Chwaraeon Efydd: Grymuso disgyblion Blwyddyn 5 a 6 i fod yn llais ac yn eiriolwr gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn eu hysgolion sy'n cyflwyno ac yn arwain gweithgareddau allgyrsiol. Gwahoddir pob ysgol gynradd i enwebu eu Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc sydd wedyn yn cael mynediad at ystod o sesiynau hyfforddi a chymorth drwy gydol y flwyddyn academaidd i ddechrau ar eu taith tuag at fod yn arweinydd / gwirfoddolwr y dyfodol.

Llysgenhadon Chwaraeon Arian: Datblygu pobl ifanc i ddod yn arweinwyr Cymru yn y dyfodol drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae disgyblion ym mlwyddyn 8-11 yn gwneud cais i fod yn llysgennad arian uwchradd a thrwy broses ddethol yn cael eu hethol yn llysgenhadon eu hysgol.  Darperir hyfforddiant ychwanegol i'r llysgenhadon hyn y tu allan i'r cwricwlwm i helpu i ysbrydoli ac ysgogi eu cyfoedion i fod yn egnïol am oes.

Llysgenhadon Chwaraeon Aur: Yn cael eu cyfweld i fod yn arweinwyr ar draws y sir, sy'n cael mynediad at hyfforddiant a chymorth rhanbarthol sydd wedyn yn gyfrifol am rymuso pobl ifanc gyda llais i ddylanwadu ar y dewisiadau o gyfleoedd i fod yn iachach ac yn fwy egnïol. Maen nhw'n cael eu defnyddio i hwyluso gweithgareddau, meithrin ymdeimlad o berthyn, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad cyfartal at gyfleoedd i fod yn iachach ac yn fwy egnïol.

Gwahoddir disgyblion mewn ysgolion uwchradd i ymgeisio am y rôl fel Llysgenhadon Arian / Aur yn eu hysgolion, mae ceisiadau ar agor ar 1 Medi ac yn cau ar 4 Hydref.

Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc mewn unedau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

  • Rydyn ni'n falch o lansio rhaglen hyfforddi Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc sydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer myfyrwyr ADY mewn unedau ADY ysgolion uwchradd a chynradd ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae'r fenter hon yn sicrhau bod disgyblion ADY yn cael yr un cyfleoedd o ran arweinyddiaeth, cyfrifoldeb a chynhwysiant â'u cyfoedion prif ffrwd.

    Mae'r rhaglen wedi'i haddasu'n arbennig yn unol â chryfderau ac anghenion unigryw myfyrwyr ADY. Dyma sut mae'n gweithio:

    • Gwahanol lefelau cyfrifoldeb wedi'u teilwra i bob myfyriwr

    • Sesiynau hyfforddi ymarferol yn canolbwyntio ar arwain a chynorthwyo gweithgareddau corfforol

    • Cefnogi staff gyda gosod a rheoli offer

    • Cynorthwyo disgyblion eraill yn ystod gweithgareddau chwaraeon yn eu hysgol

    • System gweithio fesul dau gyda Llysgenhadon Ifanc prif ffrwd

    • Mentora gan Swyddogion Cynhwysiant Actif ym mhob ysgol

    Mae'r dull haenog hwn yn rhoi'r hyder a'r gallu i fyfyrwyr ymgymryd â rolau arwain mewn chwaraeon ysgol a thu hwnt.

Cyfleoedd Hyfforddiant ar gyfer Staff Ysgol

Llythrennedd Corfforol: Mae ein swyddogion Pobl Ifanc Egnïol yn gweithio gydag ysgolion cynradd i'w huwchsgilio, eu mentora a'u cefnogi i gyflwyno sesiynau mewn amser y cwricwlwm ac amser allgyrsiol. Mae cefnogaeth barhaus gan y tîm yn sicrhau bod staff yn hyderus i gyflwyno sesiynau gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel. Mae'r adnodd wedi'i gynllunio i roi amrywiaeth o syniadau i arweinwyr i'w helpu i annog plant i ddatblygu eu cymhwysedd corfforol, eu hyder a'u cymhelliant i barhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon.

Chwaraeon Penodol: Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon i sicrhau bod staff ysgolion yn cael cyfleoedd i fynychu cyrsiau hyfforddi penodol i chwaraeon fel y gallan nhw gyflwyno'r chwaraeon hyn yn eu hysgolion. Rhoi profiadau i blant mewn amrywiaeth o wahanol chwaraeon o oedran ifanc! Rydyn ni'n gweithio gyda chyrff llywodraethu fel; Athletau Cymru – Rhedeg, Neidio, Taflu, Beicio Prydain – Barod, Beicio, Bant â ni , Pêl-rwyd Cymru – Sgiliau Hanfodol a Phêl-fasged Cymru – Dyfarniad Athrawon i enwi ond ychydig.

Gwyliau/Digwyddiadau

Drwy gydol y flwyddyn ysgol, rydyn ni'n trefnu nifer o wyliau a chystadlaethau aml-sgiliau a chwaraeon lle mae disgyblion yn cael cyfle i roi cynnig ar gamp am y tro cyntaf!

Rydyn ni'n gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol;

• Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol fel Sefydliad Dinas Abertawe, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon gan gynnwys Criced Cymru a chlybiau chwaraeon lleol i ddatblygu cyfleoedd cyfranogi yn Sir Gaerfyrddin.

• Sicrhau llwybrau ymadael o brosiectau a rhaglenni ysgol i'r gymuned.

Rydyn ni'n deall na all pob ysgol fynychu ein gwyliau a'n digwyddiadau ac rydyn ni'n gweithio ar Becyn Cymorth Gwyliau: Yn ogystal â'n gwyliau ein hunain, rydyn ni'n creu pecyn cymorth hawdd ei ddefnyddio i helpu athrawon ac ysgolion i gyflwyno gwyliau chwaraeon hwyliog a diddorol i'w disgyblion yn eu hysgol neu yn eu cymuned.

Grymuso Ieuenctid

Gyda chyllid wedi'i sicrhau gan Hywel Dda, lansiodd Cymunedau Actif y fenter Grymuso Ieuenctid—rhaglen ymyrraeth gynnar sydd â'r nod o gefnogi pobl ifanc 11-14 oed sydd mewn perygl o gamddefnyddio sylweddau.

Cyflawnwyd y prosiect ataliol hwn mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol fel y GIG, elusennau, canolfannau addysg awyr agored a chyfleusterau Actif. Disgwylir i brosiect newydd gael ei lansio ym mis Hydref 2025.

Arolwg Chwaraeon Ysgol

Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026: Mae arolwg cenedlaethol Chwaraeon Cymru yn rhoi llais i ddisgyblion wrth lunio addysg gorfforol a chwaraeon ysgol. Mae'r canlyniadau'n cael eu cydnabod gan Estyn, ac yn cefnogi hunanwerthuso a chynllunio ysgolion.

Mae canlyniadau'r arolwg chwaraeon ysgol a thempledi cynlluniau gweithredu i gefnogi ysgolion i'w gweld yma - Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 | Chwaraeon Cymru

Rhaglen Actif ar ôl Ysgol

Yn newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, mae ein rhaglen Actif ar ôl Ysgol yn dod â dysgu hwyliog, egnïol i ysgolion cynradd ar draws y Sir. Dan arweiniad ein tîm o hyfforddwyr chwaraeon cymwysedig, mae'r sesiynau ar ôl ysgol hyn wedi'u cynllunio i helpu plant i ddatblygu eu sgiliau symud sylfaenol trwy weithgareddau diddorol, sy'n seiliedig ar chwarae.

Mae'r rhaglen yn dilyn cynllun pasbort arloesol Actif 'Sgiliau ar gyfer Chwaraeon', sy'n cefnogi plant i fagu hyder, gwella cydgysylltu, a datblygu perthynas gadarnhaol, gydol oes gyda gweithgarwch corfforol a chwaraeon.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod ag Actif ar ôl Ysgol i'ch ysgol? Cysylltwch â ni: ActifCommunities@sirgar.gov.uk

Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cwricwlaidd

Yn cael ei lansio ym mlwyddyn academaidd 2025/26, mae Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cwricwlaidd newydd Actif yn darparu sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel yn ystod amser y cwricwlwm - gan gefnogi ysgolion ac ysbrydoli disgyblion. Mae ein hyfforddwyr cymwys yn arwain gwersi diddorol, sy'n seiliedig ar y cwricwlwm sy'n rhoi amser gwerthfawr i athrawon ar gyfer cynllunio ac asesu, tra bod disgyblion yn elwa o brofiadau hwyliog, meithrin sgiliau.

Wedi'i ddylunio gan athrawon addysg gorfforol profiadol, mae ein cwricwlwm blaengar yn datblygu hyder a chymhwysedd symudiad o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6. Mae disgyblion iau yn canolbwyntio ar lythrennedd corfforol craidd a sgiliau sylfaenol, tra bod disgyblion hŷn yn archwilio gweithgareddau chwaraeon a chysylltiadau â chlybiau lleol - gan annog cyfranogiad gydol oes mewn gweithgarwch corfforol.

Uchafbwyntiau'r Rhaglen:

  • Cyflenwad cyson gan hyfforddwyr chwaraeon cymwys

  • Sesiynau cyfrwng Cymraeg a Saesneg

  • Rhyddhau amser staff ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu

  • Opsiynau diwrnod llawn neu hanner diwrnod

  • Cwricwlwm wedi'i deilwra i anghenion dysgu unigol

  • Pwyslais ar lythrennedd corfforol, hyder, a datblygu sgiliau

  • Cysylltiadau â chlybiau chwaraeon lleol a chyfleoedd ar ôl ysgol

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod â Rhaglen Chwaraeon a Gweithgareddau Cwricwlaidd Actif* i'ch ysgol? Cysylltwch â ni: ActifCommunities@sirgar.gov.uk

* Beth am gysylltu 'Rhaglen Chwaraeon a Gweithgareddau Cwricwlaidd' Actif â'n 'Rhaglen Actif Ar ôl Ysgol' i gael mwy o fudd a gwerth ychwanegol?