Rydyn ni'n gweithio Chanolfannau Teulu, Meithrinfeydd a Llyfrgelloedd lle mae ein tîm o Swyddogion Pobl Ifanc Egnïol yn darparu hyfforddiant a chymorth parhaus i arweinwyr i alluogi iddyn nhw gynnal sesiynau egnïol llawn hwyl yn hyderus.
Prosiectau ar gyfer plant 0-5 oed
Mae'r ffocws ar ddarparu nifer o gyfleoedd i blant ifanc fod yn egnïol, meithrin hyder a chymhelliant, a gwella eu sgiliau corfforol fel rhedeg, cicio, dal, taflu, a chydbwyso.
Mae dysgu a datblygu'r sgiliau hyn o oedran ifanc yn bwysig fel y gall plant, wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, ddefnyddio'r sgiliau hyn mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.