Helpwch Eich Plentyn i Fod yn Egnïol

Mae yna ddigon o ffyrdd o annog ac ysbrydoli'ch plentyn i aros yn egnïol gartref, yn yr ardd neu mewn parciau am ddim.

Helpwch Eich Plentyn i Fod yn Egnïol

Sgil y Mis:

Yn dod cyn hir... awgrymiadau a gemau y gallwch eu hymarfer yn rheolaidd gyda'ch plentyn i helpu i ddatblygu eu sgiliau i'w gwneud yn fwy hyderus a brwdfrydig.

Pecynnau Teulu:

Mwynhewch weithgareddau hwyliog sydd wedi'u cynllunio ar gyfer ymarfer sgiliau a symud gyda'ch gilydd fel teulu neu unigol.

Amser Stori Actif:

Dod â llyfrau'n fyw drwy hwyl a gemau! Mae Amser Stori Actif yn ffordd hwyliog i blant ifanc fod yn egnïol wrth wrando ar stori. Mae'r syniad yn hawdd; wrth ddarllen llyfr, gall eich plentyn symud fel y cymeriadau yn y stori! Mae llyfrau gydag anifeiliaid yn y stori yn arbennig o wych! Gall plant ddefnyddio eu dychymyg a chael hwyl!

Dyma rai syniadau:

Deg Deinosor Bach – a all eich plentyn stompio fel deinosor? Cerddwch gyda chamau MAWR o gwmpas yr ystafell, stompiwch yn dawel neu'n uchel! 

What the Ladybird Heard at the Seaside– cerddwch i'r ochr fel cranc….

Ffrind Newydd Elfed – llithrwch fel neidr, neidiwch fel cangarŵ, byddwch yn uchel fel jiráff

Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth; gall plant fynd o dan, trwy a thros y rhwystrau sydd gyda chi yn y cartref. Er enghraifft, gallan nhw gropian o dan y bwrdd neu flanced.

Sometimes I Like to Curl Up in a Ball – cyrliwch mewn pelen fel draenog, neidiwch yn uchel fel broga, rhedwch yn gyflym fel llewpart

Os nad oes gennych chi'r llyfrau hyn gartref, beth am ymweld â'ch llyfrgell leol? Rydyn ni wedi darparu bagiau gweithgareddau y gallwch chi eu benthyg hefyd!

Gweithgareddau diddorol i wneud straeon yn fyw wrth gael eich plentyn i symud. Defnyddio llyfr gydag anifeiliaid a symud fel yr anifeiliaid yn y stori – neidio fel cangarŵ, hercian fel cwningen. Rhowch gynnig ar y rhain gartref neu edrychwch ar eich llyfrgell leol.