Profwch Hanner Marathon Dyffryn Tywi cyntaf erioed ar Awst 16 — digwyddiad rhedeg di-draffig newydd sbon ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi godidog rhwng Abergwili a Llandeilo.
Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi Actif - Awst 2026
Mae Tîm Cymunedau Chwaraeon a Hamdden Actif yn falch o lansio Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi cyntaf erioed, sydd yn cael ei cynnal ar ddydd Sul 16 Awst 2026.
Wedi'i leoli ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi newydd sbon rhwng Abergwili a Llandeilo, mae'r digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnig profiad gwirioneddol unigryw i redwyr.
Gwybodaeth y Ras
Gan ddechrau a gorffen yn Ysgol Bro Dinefwr yn Ffairfach, mae'r ras gyffrous hon yn rhoi cyfle i gyfranogwyr fwynhau llwybr hanner marathon cwbl ddi-draffig trwy un o dirweddau harddaf Sir Gaerfyrddin.
Bydd y ras yn dechrau gyda'r don gyntaf am 9yb. Rydym yn disgwyl nifer fawr o bobl, felly bydd y rhedwyr yn cael eu rhannu mewn i grŵpiau wahanol o ran amser dechrau.
Ar agor i bob gallu
P'un a ydych chi:
- Yn edrych am amser personol gorau
- Hyfforddi ar gyfer marathon llawn
- Ymgymryd â'ch hanner marathon cyntaf
...mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i groesawu rhedwyr o bob gallu.
Gwybodaeth Mynediad
- Pris Mynediad cyffredinol ar gael: £30
Sicrhewch eich lle heddiw trwy gofrestru gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Mwy na dim ond ras
Nid dim ond yr hanner marathon yw diwrnod y digwyddiad! Byddwn hefyd yn cynnal:
- Gweithgareddau i blant
- Profiadau sy'n addas i deuluoedd a ddarperir gan Dîm Cymunedau Actif
Gwirfoddolwch Gyda Ni
Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant. Mae'r rolau'n cynnwys:
- Allan ar y cwrs
- Cefnogi gorsafoedd dŵr
- Cynorthwyo wrth y llinell derfyn
Diddordeb mewn gwirfoddoli? Cysylltwch â ni heddiw i fod yn rhan o'r digwyddiad cyffrous hwn.
Byddwch yn rhan ohono
Peidiwch â cholli'ch cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad newydd gwych hwn yn Nyffryn Tywi.
Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi
Ydych chi'n barod? Cymerwch ran yn Hanner Marathon Dyffryn Tywi cyntaf erioed Actif. Peidiwch ag anghofio cofrestru ar y ddolen uchod!
Cwestiynau Cyffredin
Ble mae'r Hanner Marathon yn cychwyn ac yn gorffen?
Mae'r llinell gychwyn a'r llinell derfyn yn yr un lleoliad, yn Ysgol Bro Dinefwr yn Ffairfach.
Pa amser mae'n dechrau?
Mae'r ras yn dechrau gyda'r don gyntaf am 9yb. Bydd amseroedd cychwyn y rhedwyr yn cael eu rhannu'n sawl grwp.
Sut alla i gael fy rhif ras?
Bydd cofrestru'n agor ddydd Sadwrn 15fed Awst, yn un o'n canolfannau hamdden (lleoliad i'w gadarnhau). Bydd cofrestru'n ailagor ar fore'r digwyddiad rhwng 7-8yb.
Beth yw'r llwybr?
Mae'r llwybr yn dilyn Llwybr Dyffryn Tywi o Ffairfach i'r pwynt hanner ffordd ychydig ar ôl Llanarthne. Bydd rhedwyr yn troi o gwmpas ac yn gwneud eu ffordd yn ôl i Ysgol Bro Dinefwr. Byddwch yn derbyn map llwybr yn eich pecyn ras. Mae hwn yn gwrs allan ac yn ôl.
Cyfleusterau Toiled
Mae toiledau ar hyd y cwrs ac ar yn yr ardal dechrau/gorffen.
Beth yw'r oedran lleiaf ar gyfer yr hanner marathon?
Mae angen i bob cyfranogwr fod yn 18 oed o leiaf ar ddiwrnod Hanner Marathon Dyffryn Tywi.
Beth yw'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru?
Bydd y lleoedd Cyffredinol yn cau ar Awst 14 neu pan fydd capasiti'r ras wedi'i gyrraedd.
A fydd dŵr ar y cwrs?
Bydd, bydd gorsafoedd dŵr wedi'u lleoli bob ychydig filltiroedd ar y cwrs ac ar y llinell gorffen.
A fydd medal i'r rhai sy'n gorffen?
Bydd, bydd pob gorffenwr yn derbyn medal ar y llinell derfyn.
A fyddaf yn cael amser gorffen swyddogol?
Byddwch, bydd y digwyddiad hwn yn cael ei amseru sy'n golygu y bydd pob rhedwr yn cael ei amser gorffen ei hun.
Cymorth Cyntaf
Bydd staff meddygol proffesiynol ar gael ar y dechrau a'r diwedd ac ar hyd y llwybr.
A allaf redeg gyda bygi?
Am resymau diogelwch, ni chaniateir bygis yn yr Hanner Marathon. Mae'r cwrs yn cael ei rannu â rhedwyr eraill ac mae'n cynnwys adrannau a all fod yn gul, felly er mwyn sicrhau diogelwch a mwynhad yr holl gyfranogwyr, gofynnwn i redwyr beidio â chymryd rhan gyda bygi.
A yw'r ras yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?
Ydy. Mae croeso i ddefnyddwyr cadair olwyn gymryd rhan. Os ydych chi'n cymryd rhan fel defnyddiwr cadair olwyn, cysylltwch â ni ar actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk i roi gwybod i ni.
A allaf drosglwyddo fy lle i rywun arall?
Gallwch drosglwyddo'ch lle i rhywun arall, fodd bynnag bydd tâl a dyddiad cau.
A allaf gael ad-daliad os na allaf redeg?
Yn anffodus, ni allwn gynnig unrhyw ad-daliadau yn y digwyddiad hwn.
A allaf gofrestru ar y diwrnod?
Yn anffodus, ni fydd unrhyw geisiadau ar gael ar y diwrnod. Rhaid cofrestru cyn y diwrnod.
A oes amser terfyn?
Oes, bydd angen i redwyr gwblhau'r cwrs o fewn 4 awr.
A allaf wisgo clustffonau yn ystod y ras?
Yn anffodus, ni chaniateir clustffonau yn ystod y digwyddiad hanner marathon oni bai eu bod yn dargludo esgyrn.
Mae hyn er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb sy'n cymryd rhan ac mae'n galluogi rhedwyr i allu clywed unrhyw gyfarwyddiadau gan wirfoddolwyr.
A oes rasys i blant?
Na, ni fydd unrhyw rasys i blant ond bydd gweithgareddau i oedrannau iau ar gael ym Mhencadlys y Ras yn Ysgol Bro Dinefwr.
Pwy allaf cysylltu gyda oes mae gen i gwestiwn?
Os oes gennych ymholiad am Hanner Marathon Dyffryn Tywi, anfonwch e-bost at Dîm Cymunedau Actif ar actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk
Llwybr Dyffryn Tywi
Wedi'i leoli ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi sydd newydd agor — buddsoddiad o £16.7 miliwn gan Lywodraeth y DU a Chyngor Sir Gaerfyrddin — mae'r hanner marathon yn dilyn llwybr nodedig 13 milltir di-draffig rhwng Caerfyrddin a Llandeilo trwy galon Dyffryn Tywi.