Actif Logo
  • Catref
  • Aelodaeth
  • Lleoliadau
    • Dyffryn Aman
    • Canolfan Pentre Awel
    • Caerfyrddin
    • Llanymddyfri
    • Castell Newydd Emlyn
    • Sanclêr
  • Amserlenni
  • Gweithgareddau
    • Yn ein Canolfannau Hamdden
    • Gweithgareddau Cymunedol
  • Clwb Chwaraeon
  • Blog
  • Man Cael Cymorth
  • Ymuno
  • Archebu
  • Actif Unrhyw Le
  • English

Amdano Fan Actif

  • Clwb Chwaraeon
  • Fan Actif
  • Amdano Fan Actif

Fan Actif ar gael i'w harchebu ledled y sir...

Fan Actif!

Mae'r Fan Actif i'w gweld mewn cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin ar ei chenhadaeth i gael 10,000 o blant yn actif!

Wedi’i brynu drwy grant gan Lywodraeth Cymru, ei brif nod yw cynyddu’r cyfleoedd i blant a phobl ifanc fod yn egnïol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sy’n byw mewn arwahanrwydd gwledig a/neu ardaloedd o amddifadedd.

Yn ogystal â mentrau sy’n cael eu harwain gan Actif, gellir defnyddio’r Fan Actif i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cymunedol ac rydym yn croesawu ceisiadau i logi’r fan ar gyfer chwaraeon, gweithgaredd corfforol neu ddigwyddiadau cymunedol.

Beth sydd wedi'i gynnwys ar y fan?

  • System Annerch Cyhoeddus
  • Llwyfannau
  • Goleuadau Disgo
  • Ategrwymau
  • Arddangosiad Teledu
  • Meicroffon
  • Cynhyrchydd

Ar gyfer pa fathau o ddigwyddiadau y gellir llogi'r Fan Actif?

  • Digwyddiad Clwb Chwaraeon e.e. Gwyliau, twrnameintiau wedi'u trefnu, diwrnodau agored, cyflwyniadau
  • Digwyddiadau sefydliadau elusennol
  • Sefydliadau corfforaethol e.e twrnamaint chwaraeon
  • Digwyddiadau Corff Llywodraethol Cenedlaethol
  • Digwyddiadau sefydliadau Tref a Chymuned

Nid fydd y Fan Actif yn cael ei llogi i'w defnyddio yma:

  • Raves / Gwyliau cerdd
  • Defnydd personol
  • Gwyliau cysylltiedig ag alcohol
  • Fel unig ddefnydd o gludo eitemau mawr (yn bennaf oherwydd nad yw cynllun mewnol y fan yn addas ar gyfer hyn)

 

Am mwy o wybodaeth, cysylltwch a:

Tim Cymunedau Actif: ActifCommunities@sirgar.gov.uk

Cwestiynnau Cyfredin

Beth yw manylebau'r fan?

  • Ford Transit 350 L4 2.0HD
  • Yn cynnwys lifft cynffon gyda bariau diogelwch, rheiliau rac llwyth mewnol ac adlen ffin HD
  • Llwyth uchaf 3.5 tunnell
  • Tanwydd: Diesel

Pwy all gyrru'r fan?

At ddibenion yswiriant, dim ond staff a gyflogir gan Gyngor Sir Gaerfyrddin all yrru'r fan. Ar gyfer sefydliadau sy'n dymuno ei logi, mae danfon y cerbyd i'r lleoliad y gofynnwyd amdano wedi'i gynnwys fel rhan o'r ffi llogi.

Rhaid i staff CSG feddu ar drwydded yrru lawn y DU ac wedi cwblhau Asesiad Gyrrwr CSG.

Am ba mor hir y gellir llogi'r fan?

Gellir llogi Fan Actif am gyn lleied ag awr, a hyd at yr acheb nesaf!

Faint mae'n ei gostio i logi'r fan?

Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau llogi ar gyfer y fan i weddu i bob angen, cwblhewch y ffurflen.

Sut ydw i'n archebu'r fan?

Dewiswch un o'r opsiynau canlynol i archebu'r fan:

Adran fewnol Cyngor Sir Gaerfyrddin

Sefydliad Allanol e.e. Clwb Chwaraeon, Cyngor Cymuned

Sut byddaf yn talu am logi'r fan?

Ar ol cwblhau'r archeb a chytundeb y T's a C's bydd anfondeb yn cael ei hanfon at eich sefydliad y gellir ei thalu trwy siec neu drosglwyddiad banc.

Llogwch y Fan Actif ar gyfer eich digwyddiad

I cwblhau y ffurflen Adran fewnol Cyngor Sir Gaerfyrddin neu Sefydliad Allanol, cliciwch yma am y linc.

*nid yw cyflwyno ffurflen ymholiad yn gwarantu archebu lle. Rhoddir cadarnhad o archeb unwaith y bydd staff Actif wedi’i brosesu.

 

Ariennir fan Actif drwy grant gan Lywodraeth Cymru a weinyddir drwy'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Chwaraeon a Hamdden Actif sy'n gyfrifol am y fan ac mae'r holl ddefynydd yn cael ei reoli gan Actif.

Cyngor Sir Gaerfyrddin sy'n berchen ar y fan a'i chynnwys.

Rhoddir blaenoriaeth i gyfleoedd o fewn ardaloedd difreintiedig.

Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am ein app

Lawrlwythwch ein app AM DDIM. Ffordd wych o archebu eich campfa, sesiwn nofio neu ddosbarth pryd bynnag a ble bynnag. Mae ar gael ar ddyfeisiau iOS ac Android ac ni allai lawrlwytho'r ap fod yn symlach.

Download our App on the Google Playstore Download our App on the Apple App Store
Go to Home Page

Cysylltwch â ni drwy'r post

Actif Chwaraeon a Hamdden
Tre Ioan
Caerfyrddin
SA31 3NQ

Cysylltwch â ni

  • Cysylltu
  • Actif Sport and Leisure
  • @SportCarms
  • actifsportandleisure
  • Sport Carms
  • Ap Ffon (Apple Store)
  • Ap Ffon (Google Play)

Dolenni Defnyddiol

  • Gweithio i Ni
  • Telerau ac Amodau
  • Hysbysiad Preifatrwydd
Gwefan gan Tinint Logo

Carmarthenshire County Council © 2022. This web site is produced by the Leisure Division of Carmarthenshire County Council. The extraction of any photographic or written material from these pages without permission is expressly forbidden. The Authority does not accept responsibility or liability for any errors or omissions contained in these pages, nor is any warranty given to any of the internet sites, publications, venues or establishments listed.