Canolfan Pentre Awel - Yn agor 15 Hydref

Canolfan Pentre Awel - Yn agor 15 Hydref

Mae Canolfan Pentre Awel, ein canolfan ffitrwydd, hamdden a llesiant newydd sbon yn Llanelli, wedi agor

P’un a ydych chi'n mynd i’r gampfa yn rheolaidd, yn mynd i sesiynau nofio, neu yn dod â’ch plentyn i wersi nofio, bydd y cyfleuster o'r radd flaenaf hwn yn barod i'ch croesawu chi.


Beth sy'n aros amdanoch chi:

Pwll nofio 25m ag 8 lon, pwll bach a phwll hydrotherapi

Campfa sydd a'r dechnoleg glyfar ddiweddaraf ac offer o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys golygfeydd ar draws Llynnoedd Delta

Stiwdio chwilbedlo gyda beiciau Keiser ar gyfer y daith feicio orau posibl

Stiwdios dawns a ffitrwydd grwp helaeth ar gyfer eich holl hoff ddosbarthiadau

Neuadd chwaraeon ag 8 cwrt (gan gynnwys dau gwrt pel-rwyd maint llawn

Ystafelloedd cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod modern ar gyfer digwyddiadau a gweithdai

Mannau cymunedol croesawgar, mannau gwyrdd hygyrch a llwybrau beicio a cherdded arfordirol godidog

Caffi ar y safle sy'n cynnig prydau twym, byrbrydau, opsiynau 'prynu a mynd' ac amrywiaeth o ddidodydd twym ac oer

Cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i'w defnyddio wrth gadw'n heini


Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

·       Os oes gennych aelodaeth gynhwysol (Aelwyd, Platinwm, Platinwm Corfforaethol, Myfyriwr, Dros 60 oed, Efydd neu Efydd Corfforaethol)
Rydych chi'n barod i fynd! Mae Canolfan Pentre Awel wedi'i chynnwys yn eich aelodaeth heb unrhyw gost ychwanegol. Mae angen archebu drwy'r ap neu'r wefan.

·       Aelodau Canolfan Hamdden Llanelli
Bydd eich aelodaeth yn trosglwyddo'n awtomatig i Ganolfan Pentre Awel - does dim angen i chi wneud unrhyw beth.

·       Wedi rhewi eich aelodaeth?
Edrych ymlaen at ddod yn ol? Anfonwch e-bost i actif@sirgar.gov.uk a byddwn ni'n ailgychwyn eich aelodaeth mewn pryd ar gyfer y diwrnod agoriadol.

Gwybodaeth gwersi Dysgu Nofio:
Os ydych chi neu'ch plentyn yn cael gwersi nofio gyda ni ar hyn o bryd yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, fydd dim byd yn newid - bydd y gwersi nofio yr un diwrnod a'r un amser, ond bydd y gwersi yn cael eu cynnal yn Canolfan Pentre o 15 Hydref.

Ddim yn aelod?

Gallwch chi ymuno heddiwr ar-lein trwy glicio yma a dewis y dyddiad y mae eich aelodaeth yn dechrau.

 

Cyn i chi symud draw i Canolfan Pentre Awel:

Gwnewch yn siwr bod gennych chi eich ffob allwedd neu fotwm RIFD Actif yn barod - mae'n hanfodol er mwyn cael mynediad i gampfa, mannau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd yn Ganolfan Pentre Awel. Mae'r gatiau mynediad yn y lleoliadau yma, a fyddwch chi ddim yn gallu mynd i mewn hebddo.

Angen un newydd? Siaradwch ag aelod o staff mewn unrhyw ganolfan hamdden Actif - rhaid talu ffi fach i gael un newydd.

 

Mae Archebion YN FYW!

Gall cwsmeriaid nawr archebu eich sesiynau a'ch dosbarthiadau drwy'r wefan (https://orlo.uk/T6MJj) a thrwy'r ap Actif.

Mae sgrin ap newydd Canolfan Pentre Awel wedi mynd yn fyw, lle gallwch archebu lle mewn sesiynau Campfa, Pwll Nofio a Dosbarthiadau Ffitrwydd.

Cliciwch ar ‘Dewis canolfan’ ac ychwanegwch Ganolfan Pentre Awel Saesneg neu Cymraeg at eich clybiau i weld yr amserlenni diweddaraf cyn y diwrnod agoriadol.