Y bwydydd gorau i berfedd iach
Yn syml, mae perfedd iach yn un sy'n gallu treulio bwyd, amsugno maetholion a chael gwared ar wastraff yn effeithiol. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i helpu i gadw ein perfedd yn iach ac yn gweithio yn y modd gorau posibl. Mae bwyta bwydydd sy'n gyfeillgar i'r perfedd yn rhan bwysig o leihau problemau treulio a diffyg o ran maetholion.
Dyma rai o'r bwydydd gorau ar gyfer perfedd iach:
Ffrwythau a llysiau: Mae'r rhain yn darparu ffeibr, fitaminau a mwynau, gan helpu i hybu'r corff i dreulio'n rheolaidd ac yn iach ac atal rhwymedd.
Brasterau iach: Mae bwydydd sy'n cynnwys llawer o Omega-3 fel cnau, hadau a physgod olewog yn dda i'r perfedd gan fod y brasterau iach hyn yn gallu lleihau llid a gwella imiwnedd.
Grawn cyflawn: Mae llawer o ffeibr mewn pasta, grawnfwydydd a bara grawn cyflawn sy'n hanfodol er mwyn cael gwared ar wastraff yn effeithiol.
Protein: Mae ffynonellau protein main fel cyw iâr, pysgod neu brotein sy'n seiliedig ar blanhigion yn bwysig ar gyfer cael amrywiaeth microbaidd yn y perfedd.
Perlysiau a sbeisys: Mae garlleg, sinsir a thyrmerig nid yn unig yn dda am ychwanegu blas at fwyd. Maent yn cynnwys ffytocemegolion sy'n helpu i hybu treuliad iach ac yn lleihau llid.
Ffa a chodlysiau: Mae'r llawer o ffeibr a phrotein yn y rhain sy'n hanfodol ar gyfer treulio ac ysgarthu – mae ffa a chodlysiau hefyd yn darparu amrywiaeth o fitaminau a mwynau pwysig sy'n gwella imiwnedd.
Mae bwydydd eplesedig: Iogwrt, bresych picl, kimchi a kefir yn cynnwys bacteria byw a all helpu i gynyddu lefelau microbau iach yn y perfedd.
Dŵr: Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer atal rhwymedd. Wyth gwydr (8) y dydd yw'r canllaw yn gyffredinol i oedolion iach.
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionDiolch i chi – arwyr ein cymunedau CymruDydd Llun, 14 Rhagfyr 2020