12/08/2024

O 1 Medi, mae newidiadau pwysig i'n rhaglen Nofio am Ddim 60+ .

Fel y gwyddoch efallai, mae'r fenter nofio am ddim wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ers ei chyflwyno yn 2003. Oherwydd gostyngiad yn yr arian a geir gan Lywodraeth Cymru, mae angen i ni addasu ein cynnig ond rydym am barhau i'ch helpu i nofio cymaint â phosibl.

Gan ddechrau ar 1 Medi, bydd pob aelod 60+ yn cael hyd at 9 sesiwn y mis o nofio lôn a nofio cyhoeddus am ddim (nid ydych wedi'ch cyfyngu i sesiynau penodol i rai 60+ yn unig). Yn fras mae hyn yn golygu dwy sesiwn nofio am ddim yr wythnos.

Os ydych chi am nofio mwy na 9 gwaith y mis, mae gennym nifer o opsiynau i chi:

  • Talu wrth fynd: £5.80 am bob sesiwn nofio gyhoeddus.
  • Debyd Uniongyrchol Misol Nofio Efydd: Nofio diderfyn am lai na £1 y dydd gyda'n Haelodaeth Debyd Uniongyrchol Misol Nofio Efydd, am £29.50 y mis.
  • Debyd Uniongyrchol Misol Aelodaeth 60+: Mynediad diderfyn i'r gampfa, i ddosbarthiadau, a nofio am £32.40 y mis.
  • Tocyn Hamdden Actif: Tanysgrifiad blynyddol o £18.20 ynghyd â £5.22 fesul sesiwn nofio gyda gostyngiad o 10%.
  • Tocyn Hamdden Arbennig: Tanysgrifiad blynyddol o £18.20 ynghyd â £3.48 fesul sesiwn nofio gyda gostyngiad o 40% yn ystod oriau tawel.

Gallwn gadarnhau bydd eich aelodaeth nofio am ddim yn cael ei diweddaru'n awtomatig i gynnwys y 9 sesiwn am ddim y mis, felly nid oes angen i chi wneud dim.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech edrych yn fanylach ar ein hopsiynau aelodaeth cliciwch yma, neu cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid trwy anfon e-bost at actif@sirgar.gov.uk.

Sylwer: Nid yw’r newidiadau hyn yn cynnwys Pwll Nofio Castellnewydd Emlyn, cyfeiriwch at eu hamserlen ar gyfer sesiynau nofio am ddim i 60+. Gweithredir pwll nofio Castellnewydd Emlyn gan Bwyllgor Nofio Emlyn.