23/04/2026

Newidiadau dros dro i wasanaethau Canolfan Pentre Awel ym mis Mai

Bydd Canolfan Pentre Awel yn cynnal digwyddiad ar raddfa fawr, ac o ganlyniad bydd rhywfaint o aflonyddwch i rai o'n cyfleusterau hamdden rhwng dydd Mawrth 5 Mai (bore) a dydd Sadwrn 9 Mai (bore).

Beth sy'n cael ei effeithio?

  • Neuadd Chwaraeon - Ar gau o ddydd Mawrth 5 Mai (bore) tan Dydd Sadwrn 9 Mai (bore)
  • Campfa, Stiwdio Sbin, Stiwdio Dawns/Ffitrwydd ac Ystafelloedd Newis - Ar gau o 4yp, dydd Mercher 6 Mai tan Dydd Sadwrn 9 Mai (bore)

Bydd rhai dosbarthiadau a gweithgareddau ffitrwydd yn cael eu heffeithio dros dro neu eu hadleoli (os yn bosibl) yn ystod y cyfnod hwn.

Beth nad yw'n cael ei effeithio?

Bydd y canlynol yn parhau fel arfer:

  • Bydd sesiynau nofio ynghyd a mynediad i'r ystafelloedd newid (ochr wlyb) ac oriel wylio'r pwll yn aros ar agor fel arfer
  • Bydd y rhaglen Dysgu Nofio yn rhedeg fel arfer
  • Bydd sesiynau Hydrotherapi ar gael
  • Caffi ar agor fel arfer
  • Gweithgareddau dethol ar draws y safle

 

Dewisiadau cwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn

Rydym yn gweithio i leihau aflonyddwch a darparu dewisiadau eraill, gan gynnwys:

Symud rhai dosbarthiadau i'r ardaloedd eraill o fewn y ganolfan lle bo modd (gwiriwch yr ap am yr amserlen ddiweddaraf)

Archwilio dosbarthiadau ffitrwydd dwr

Nodyn atgoffa bod eich aelodaeth yn rhoi mynediad i bob canolfan hamdden Actif, fel y gall cwsmeriaid barhau a'u trefn arferol mewn lleoliad arall os dymunant.

Os effeithir ar archeb, byddwn yn cysylltu a chwsmeriaid yn uniongyrchol wrth i gynlluniau gael eu cadarnhau.

 

Dewisiadau Aelodaeth

Rydym yn deall y gall newidiadau i'r drefn arferol effeithio ar sut mae cwsmeriaid yn defnyddio eu haelodaeth yn ystod yr amser hwn.

Os ydych chi'n ystyried gwneud newidiadau i'ch aelodaeth, nodwch y canlynol:

  • Rhaid gofyn i rhewi neu ganslo ar gyfer aelodaethau mis Mai erbyn hanner nos, dydd Sul 26 Ebrill 2026. I rhewi / canslo'ch aelodaeth, cysylltwch ar actif@sirgar.gov.uk.
  • Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ol y dyddiad hwn yn cael eu prosesu mewn pryd ar gyfer cylch bilio mis Mai.
  • Mae manylion llawn ar sut i reoli eich aelodaeth ar gael ar ein gwefan neu drwy siarad ag aelod o'r tim. Gallwch wneud hyn yn unrhyw un o'n canolfannau hamdden neu drwy e-bostio actif@sirgar.gov.uk.

 

Parcio a mynediad

Bydd galw cynyddol am barcio, yn enwedig tua diwedd yr wythnos. Caniatewch amsern ychwanegol ar gyfer eich ymweliad.

Mae'r cau tymor byr hwn yn cael ei reoli yn unol a'n telerau ac amodau aelodaeth, sydd ar gael i'w gweld ar ein gwefan.

Rydym yn deall y gall unrhyw aflonyddwch fod yn rhwystredig, ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cefnogaeth yn fawr tra byddwn yn cynnal y digwyddiad hwn.