Mae mesurau rheoli mynediad newydd ar y ffordd

14/03/2025

Mesurau rheoli mynediad newydd wedi dechrau

Fel rhan o'n hymdrechion parhaus i wella eich profiad, rydym wedi cyflwyno mesurau rheoli mynediad newydd yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn — mae’r newidiadau yma yn cael ei wneud oherwydd eich adborth gwerthfawr.

Bydd angen i bob aelod tapio eu botwm RFID / ‘keyring’ i gofnodi i’r ardaloedd hyn. Bydd y system hon yn symleiddio mynediad ac yn cofnodi eich presenoldeb yn awtomatig, gan helpu i atal unrhyw daliadau anghywir o £3 am ddim troi lan. Mae hon yn un o'r nifer o ffyrdd rydym yn gweithio arnynt i wneud eich ymweliadau'n haws ac yn fwy pleserus.

Ble mae angen i chi sganio?

Y canolfannau hamdden a’r ystafelloedd sydd â’r ardaloedd rheoli mynediad newydd yw:

Canolfan Hamdden Caerfyrddin: Canolfan Chwarae, Ystafell Sbin a’r Gampfa (i'r stiwdio dawns)

Canolfan Hamdden Sanclêr: Gampfa

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn: Ystafell gweithgareddau, prif fynediad i'r coridor tuag at y gampfa, ystafelloedd newid a’r sawna.

Nid oes gennych eich Botwm RFID / ‘keyring’?

Byddwch wedi derbyn botwm RFID am ddim pan ddechreuwyd eich aelodaeth. Os ydych angen un newydd, gallwch ei brynu yn ein derbynfeydd:

Botwm RFID - £2
Keyring - £3

Nodyn Pwysig

Er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth, gofynnwn yn garedig i bob un ohonoch chi sganio eich botwm RFID / ‘keyring’ bob yn un wrth fynediad i’r ardal – hyd yn oed os yw’r drws yn cael ei gadw ar agor ar gyfer eraill. Bydd hyn yn sicrhau bod eich presenoldeb yn cael ei gofnodi'n gywir a bydd yn osgoi unrhyw daliadau anghywir am beidio â mynychu.

Yn Actif, rydym bob amser yn gwrando ar eich adborth ac yn ceisio gwella eich profiad. Diolch am eich cydweithrediad.