Marchnad Ffermwyr Sanclêr

17/11/2024

Mae’n bleser gennym ddweud bod Marchnad Ffermwyr Sanclêr, sy’n cefnogi cynnyrch lleol a bwyd crefftus wedi’i wneud yn lleol yn ôl ddydd Sadwrn 30 Tachwedd 10-2yp yng nghanolfan hamdden Sanclêr.

Llenwch eich basged gyda dewis blasus o gig, ffrwythau, llysiau, llaeth a mêl a llawer mwy.  Bydd stondinau crefftau hefyd.

Y farchnad hon yw ein 4ydd un, ac yn dilyn llwyddiant yr un gyntaf gobeithiwn y bydd marchnad y Ffermwyr yn parhau i fod yn boblogaidd ac yn nodwedd gyson yng nghalendr y dref ar ddydd Sadwrn olaf pob mis.

Dewch draw i gefnogi'r busnesau lleol.

Diddordeb gwerthu eich cynnyrch yn y Farchnad Ffermwyr?

Cwblhewch y ffurflen isod a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drefnu.