01/12/2025
Hyfforddi Pel-Fasged i Athrawon Ysgol Gynradd
Mae staff o ysgolion gynradd Sir Gâr wedi cwblhau cwrs hyfforddi ar bêl-fasged!
Rhannodd Andy o Basketball Wales fewnwelediad gwerthfawr a phrofiad addysgu i staff ddatblygu pêl-fasged o fewn eu hamgylcheddau addysgol.
Fel Chwaraeon Focws i Actif, rydym yn falch o gydlynu cyfleoedd datblygu sy'n cryfhau llythrennedd corfforol a chwaraeon ar draws ein hysgolion.
Diolch yn fawr iawn i Halfway, Penygaer, Pen-bre, Y Castell, Betws, Eglwys Santes Fair, Llanelli a Model sydd wedi ennill sgiliau ymarferol ac sydd bellach yn teimlo'n frwdfrydig, wedi'u grymuso, ac yn barod i roi'r sgiliau newydd hyn ar waith!
Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yr hyfforddiant hwn yn ei chael ar ein disgyblion a'r cyfleoedd yn y gymuned.