11/06/2024
Her Tim Corfforaethol 'Front Runner Events' 2024
Mae staff ac aelodau Chwaraeon a Hamdden Actif wedi bod yn cymryd rhan mewn tri digwyddiad 'Front Runner Events' dros y misoedd diwethaf.
Unwaith eto, cofrestrodd Actif ar gyfer yr Her Tîm Corfforaethol eleni. Roedd yr her tîm yn croesawu busnesau a sefydliadau ar draws y rhanbarthau i gymryd rhan, gan roi cyfle i ddod â chydweithwyr at ei gilydd i greu ychydig o gystadleuaeth iach rhwng y tîm ac eraill a gymerodd ran.
Y tair ras dan sylw oedd...
- Hanner Marathon Llanelli - Meysydd Gŵyl (Chwefror 2024)
- Hanner Marathon Mawr Cymru - Parc Gwledig Pen-bre (Mawrth 2024)
- Hanner Marathon Prifysgol Abertawe - Canol y Ddinas (Mehefin 2024)
Da iawn i bawb a gynrychiolodd Actif, dros ugain o unigolion i gyd.