Grŵp Gavin Griffiths yw prif noddwr ein Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin
Hoffem ddweud diolch yn fawr i Grwp Gavin Griffiths sydd wedi’u cadarnhau fel ein prif noddwr am yr ail flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2024 ar ddydd Iau 20fed Chwefror 2025.
Yn dychwelyd i Theatr y Ffwrnes yn Llanelli ymhen pedwar mis, mae’n siŵr y bydd eu cefnogaeth yn gwneud y digwyddiad hyn yn fwy arbennig wrth i ni gydnabod a dathlu llwyddiannau chwaraeon ledled Sir Gaerfyrddin.
Meddai Gavin Griffiths, Rheolwr Cyfarwyddwr Grŵp Gavin Griffiths:
"Mae'n anrhydedd cael chwarae rhan yng Ngwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin fel y prif noddwr am yr eildro eleni. Mae Sir Gaerfyrddin yn ganolbwynt i weithgarwch chwaraeon ac mae'n bwysig taflu goleuni ar y rhai sydd wedi rhagori eleni, boed hynny yn chwaraeon tîm neu fel unigolyn.
“Mae Grŵp Gavin Griffiths yn falch o noddi nifer o dimau chwaraeon ledled y rhanbarth ac rydym yn deall pwysigrwydd cefnogi sefydliadau chwaraeon o’r gwaelod i fyny.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu gydag arwyr chwaraeon Sir Gaerfyrddin a hoffem ddymuno'r pob lwc i bob un o'r enwebeion ar y noson."
Trefnir y gwobrau gan Dîm Cymunedau Actif Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle gwych i dynnu sylw at waith caled ac ymroddiad athletwyr, hyfforddwyr, timau, clybiau a gwirfoddolwyr yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ogystal â Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, mae'r categorïau'n cynnwys Mabolgampwr a Mabolgampwraig Ifanc, Chwaraewr/Chwaraewraig Anabl, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel, Gwirfoddolwr Chwaraeon, Person Ifanc Ysbrydoledig, Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc, Clwb y Flwyddyn Chategori Gwasanaethau Rhagorol i Chwaraeon.
Bydd noddwyr ein categoriau yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionDiolch i chi – arwyr ein cymunedau CymruDydd Llun, 14 Rhagfyr 2020