05/10/2025
Ffair Nadolig Actif yn Rhydaman
Bydd Actif yn cynnal ei Ffair Nadolig gyntaf yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman fis nesaf.
Yn digwydd yn y gampfa ar ddydd Sadwrn 22 Tachwedd rhwng 10yb a 2yp, rydym nawr yn chwilio am stondinwyr i ymuno â ni - cyfle gwych i arddangos crefftau, anrhegion, danteithion Nadoligaidd a mwy.
Yn ogystal, yn y neuadd chwaraeon, bydd digon o weithgareddau i blant i ddiddanu'r rhai bach.
Diddordeb? Os hoffech chi fod yn rhan o'r digwyddiad Nadoligaidd hwn, cwblhewch y ffurflen ymholiad isod erbyn dydd Iau 31 Hydref.