06/07/2026

Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ennill Gwobr Sector Hamdden RoSPA

Mae gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cael ei enwi'n enillydd Gwobr Sector Hamdden y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA), gan gydnabod rhagoriaeth mewn perfformiad iechyd a diogelwch.

Y wobr yw'r anrhydedd uchaf yn ei sector ac fe'i cyflwynir i un sefydliad yn unig yn genedlaethol bob blwyddyn. Mae'n adlewyrchu blynyddoedd o welliant parhaus mewn safonau iechyd a diogelwch, gydag achrediadau o flwyddyn i flwyddyn yn arwain at y wobr uchaf hon.

Dyfarnwyd y wobr am berfformiad iechyd a diogelwch yn ystod y cyfnod 1 Ionawr 2025 i 31 Rhagfyr 2025 a'i chyhoeddi yn ystod Gwobrau Iechyd a Diogelwch 70 mlynedd RoSPA.

Mae Gwobr Sector Hamdden RoSPA yn gosod Chwaraeon a Hamdden Actif ochr yn ochr â sefydliadau a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a gydnabuwyd yn flaenorol gan RoSPA.

Mae'r wobr yn cydnabod rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth, llywodraethu, diwylliant diogelwch a rheoli risg. Gwobrau RoSPA yw rhaglen wobrwyo iechyd a diogelwch fwyaf a mwyaf mawreddog y byd, gyda gwobrau 2026 yn denu tua 2,000 o geisiadau o bron i 60 o wledydd.

Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymdrechion ac arferion gwaith ar y cyd tîm Chwaraeon a Hamdden Actif ehangach.

Mae Gwobrau Iechyd a Diogelwch RoSPA yn dathlu ymrwymiad parhaus sefydliadau i amddiffyn pobl, gosod safonau diogelwch uchel a dangos arfer gorau ar draws eu sectorau.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin ac Aelod y Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans:

“Mae’r wobr hon yn adlewyrchu’r safonau uchel a ddisgwylir ar draws Cyngor Sir Gaerfyrddin ac yn cydnabod y gwaith cyson sy’n digwydd i sicrhau bod iechyd a diogelwch wedi’i ymgorffori mewn arfer bob dydd. Mae cyflawniad Chwaraeon a Hamdden Actif yn dangos arweinyddiaeth gref, llywodraethu effeithiol ac ymrwymiad clir i gynnal amgylcheddau diogel i staff, defnyddwyr gwasanaeth a’r gymuned ehangach.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Twf RoSPA, Julia Small:

“Mae RoSPA yn llongyfarch gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin ar eu Gwobr Iechyd a Diogelwch RoSPA. Mae’r safonau uchel y mae gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi’u cyflawni yn ganlyniad gwaith caled ac ymroddiad, y dylent fod yn falch ohonynt ac y mae RoSPA yn falch iawn o’u hanrhydeddu. Mae 2026 yn flwyddyn nodedig i Wobrau RoSPA wrth i ni fyfyrio ar ba mor bell y mae diogelwch yn y gweithle wedi dod mewn 70 mlynedd. Oherwydd ymrwymiad arweinwyr iechyd a diogelwch fel gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Gaerfyrddin y mae pobl heddiw yn fwy diogel yn y gwaith nag yn y gorffennol ac yn gosod esiampl ysbrydoledig ar gyfer y dyfodol.”