Cyfle Profiad Gwaith – Canolfan Hamdden a Thîm Datblygu Chwaraeon Cymunedol

07/04/2025

Cyfle Profiad Gwaith – Canolfan Hamdden a Thîm Datblygu Chwaraeon Cymunedol

Ydych chi'n angerddol am chwaraeon ac yn chwilio am brofiad ymarferol yn y diwydiant hamdden a chwaraeon?

Rydym yn cynnig lleoliad profiad gwaith cyffrous yn Actif lle byddwch yn gweithio yn ein canolfan hamdden ac ochr yn ochr â'n Tîm Datblygu Chwaraeon Cymunedol ymroddedig.

Yn ystod y profiad hwn, byddwch yn cael mewnwelediad gwerthfawr i weithrediadau dyddiol cyfleuster hamdden prysur, gan gynnwys gwasanaeth cwsmeriaid, cynnal a chadw offer, a chynorthwyo gyda sesiynau gweithgaredd - yn y neuadd chwaraeon, y gampfa a'r pwll. Byddwch hefyd yn cefnogi cynllunio a chyflwyno rhaglenni chwaraeon cymunedol gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad a hybu iechyd a lles mewn ysgolion, clybiau a gyda grwpiau cymunedol.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu'r sgiliau allweddol y byddai eu hangen arnoch i weithio yn y diwydiant chwaraeon a hamdden megis gwaith tîm, cyfathrebu ac arweinyddiaeth tra'n cael profiad uniongyrchol ar draws ystod eang o'n rhaglenni.

Os ydych chi'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant, ac yn awyddus i ddysgu, gwnewch gais yma nawr!

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU:   25/04/2025

profiad gwaith