Mae'r Peniel Panthers yn glwb cymunedol ffyniannus sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc chwarae pêl-droed.
Gan fod gemau pêl-droed wedi'u hatal ers mis Mawrth oherwydd Coronafeirws, mae'r Panthers wedi ei chael hi'n anodd codi arian sydd ei angen i ddarparu cit newydd i chwaraewyr, llogi cyfleuster dan do i baratoi at y gaeaf a phrynu cyfarpar diogelu personol hanfodol.
Drwy gais llwyddiannus y Panthers i Gronfa Cymru Actif, gallant bellach brynu cynnyrch glanhau hanfodol i sicrhau y darperir sesiynau'n ddiogel, gan eu bod wedi derbyn £1,563.
Mae clwb pêl-droed cymunedol y Peniel Panthers yn datblygu ac yn ymgysylltu â llawer o bobl ifanc, gan sicrhau eu bod ar y llwybr i fod yn Actif am oes.
Bydd y cyllid yn golygu y gallant barhau â'u harferion da ac ymgysylltu â'r gymuned.
Os hoffai eich clwb wneud cais am gyllid a bod angen cymorth arno, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymunedau Actif neu darllen mwy ar dudalen Cefnogaeth COVID-19 - Cronfa Cymru Actif.
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionDiolch i chi – arwyr ein cymunedau CymruDydd Llun, 14 Rhagfyr 2020