Mae clwb Hoci Caerfyrddin yn glwb cymunedol ffyniannus sy'n ymfalchïo mewn datblygu unigolion a rhoi cyfleoedd i'r gymuned.
Oherwydd COVID-19 mae clwb Hoci Caerfyrddin wedi ei chael hi'n anodd iawn cynnal yr aelodaeth bresennol a chodi arian fel y byddent fel arfer.
Drwy gais llwyddiannus Hoci Caerfyrddin i Gronfa Cymru Actif, cawsant £1,304. Gallant bellach gyfrannu at wariant ychwanegol a fydd yn cefnogi'r clwb drwy'r tymor nesaf.
Mae clwb cymunedol Hoci Caerfyrddin yn rhan hanfodol o'r gymuned, sy'n darparu sesiynau hwyliog a chynhwysol i bob oedran.
Drwy Gronfa Cymru Actif gall y clwb llwyddiannus hwn barhau i ddod â chyfleoedd i'w cymuned.
Os hoffai eich clwb wneud cais am gyllid a bod angen cymorth arno, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymunedau Actif neu darllen mwy ar dudalen Cefnogaeth COVID-19 - Cronfa Cymru Actif.