Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored newydd yn Nyffryn Aman
Ar ôl misoedd o waith adeiladu, agorodd y cyfleusterau awyr agored newydd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman / Ysgol Dyffryn Aman yn swyddogol ar dydd Gwener 10fed Tachwedd.
Mynychodd mwy na 200 o ddisgyblion blwyddyn 6 o 10 ysgol lleol yr ardal ŵyl chwaraeon ysgolion cynradd yn y bore, gydag amrywiaeth o chwaraeon yn cael eu cynnal gan gynnwys pêl-droed, rygbi, athletau, hoci a phêl-rwyd.
Yn y seremoni agoriadol fawreddog, bu Ian Jones (Pennaeth Hamdden Cyngor Sir Gaerfyrddin), y Cynghorydd Hazel Evans (Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth) a James Durbridge (Pennaeth Ysgol Dyffryn Aman) yn annerch gwesteion, VIP's a disgyblion yn Rhydaman.
Cafodd disgyblion Ysgol Dyffryn Aman gyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau newydd yn ystod gwers addysg gorfforol.
Roedd cyn-ddisgyblion a sêr y byd chwaraeon Jac Morgan – Rygbi Cymru, Hannah Jones – Rygbi Cymru, Josh Griffiths – Rhedwr Marathon Elitaidd a Shane Williams – arwr Rygbi Cymru yn bresennol wrth ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Fel rhan o'i fuddsoddiad parhaus yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman a chyfleusterau Ysgol Dyffryn Aman, roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn falch o gyhoeddi bod y gwaith o osod wyneb newydd ar y cae pob tywydd 2G presennol â llifoleuadau ar gyfer hoci a phêl-droed wedi ei gwblhau cyn adeiladu cae pob tywydd 3G newydd sbon £2 filiwn ar gyfer rygbi a phêl-droed a thrac rhedeg synthetig â chwe lôn.
Roedd y gwaith o osod wyneb newydd ar y cae pob tywydd presennol yn bosibl oherwydd cyllid o dros £300,000 gan yr ysgol, yr awdurdod lleol, a chyllid allanol, ac roedd yn rhan o ail gam y gwaith a'r buddsoddiadau a wneir ar y safle.
Yng ngham 1, cafwyd buddsoddiad gwerth hanner miliwn o bunnoedd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, yn cynnwys gwaith adnewyddu mawr ar y cyfleusterau newid i greu pentref newid modern i wasanaethu gweithgareddau ochr wlyb ac ochr sych.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym yn falch iawn i agor y cae chwaraeon 3G newydd a'r trac rhedeg yn swyddogol yn Ysgol Dyffryn Aman, a fydd yn sicrhau cyfleuster chwaraeon o'r radd flaenaf ar gyfer ardal Dyffryn Aman gyfan.
“Roedd cael cae chwaraeon 3G newydd yn Rhydaman yn un o amcanion Datganiad Gweledigaeth Cabinet y Cyngor Sir, ynghyd â datblygu strategaeth ac asesu'r angen am gaeau pob tywydd ar draws y sir. Mae'n dda iawn gweld hyn yn dod i fwcwl er budd yr ardal a'r plant sy'n ei ddefnyddio yma heddiw ac am flynyddoedd i ddod."
Sut i archebu cyfleuster?
Cae 2G & 3G
I wneud ymholiadau ynglŷn â llogi’r caeau 2G neu 3G, e-bostiwch actif@sirgar.gov.uk neu drwy alw yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman.
Trac Athletau
Mae sesiynau cyhoeddus nawr ar gael ar gyfer y trac athletau am £6.90 am sesiwn awr. Trowch i fyny ac archebwch fel cwsmer 'talu wrth fynd' yn Nerbynfa Canolfan Hamdden Dyffryn Aman.
Yn yr wythnos (yn ystod tymor yr ysgol): Sesiwn gyntaf am 5:00yh a sesiwn olaf am 9:00yh
Penwythnosau: Sesiwn gyntaf am 8:00yb a sesiwn olaf am 3:00yp.
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionDiolch i chi – arwyr ein cymunedau CymruDydd Llun, 14 Rhagfyr 2020