Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2023!

13/09/2024

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2024 - Dydd Mercher 18fed Medi

Bydd Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2024 yn cael ei gynnal ddydd Mercher 18fed Medi ac yn cyfle i dynnu sylw at y rôl y mae gweithgaredd corfforol yn ei chwarae ar draws y Deyrnas Unedig, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd wrth ein helpu ni i gyd i fyw bywydau iachach.

Er bod dod â phobl at ei gilydd trwy weithgarwch corfforol ar Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn cael effaith hynod gadarnhaol, mae’n ymwneud ag annog pawb i weld y diwrnod hwn fel un cam yn unig mewn taith lawer mwy.

Oherwydd wedi'r cyfan, mae eich iechyd am oes.

I wneud Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn ddiwrnod mwyaf egnïol y flwyddyn, byddwn yn cynnal cyfres o ddosbarthiadau ffitrwydd AM DDIM yng Nghanofannau Hamdden Caerfyrddin a Llanelli.

Byddwn hefyd yn sefydlu 'Coeden Addewidion' ym mhob canolfan, lle bydd cwsmeriaid yn gallu ysgrifennu beth mae iechyd yn ei olygu iddyn nhw.

Methu cyrraedd Canolfan Hamdden? Dim problem! Ar ôl llwyddiannau blynyddoedd blaenorol, bydd platfform digidol Actif Unrhyw Le hefyd yn darparu dosbarthiadau byw am ddim ar y diwrnod.

Dosbarthiadau a sesiynau digidol AM DDIM

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Dosbarthiadau am ddim ar 18fed Medi yng Nghaerfyrddin. Archebwch ar-lein neu trwy ap Actif

6:45yb - Coach by Colour (Stiwdio Sbin)

3:00yp - Acwa Fit (Pwll)

Canolfan Hamdden Llanelli

Dosbarthiadau am ddim ar 18fed Medi yn Llanelli. Archebwch ar-lein neu trwy ap Actif

8:30yb - Les Mills Body Attack, Virtual (Ystafell Digwyddiadau)

9:30yb - Les Mills RPM, Virtual (Stiwdio Sbin)

10:30yb - Les Mills Sprint, Virtual (Stiwdio Sbin)

1:30yp - Dawns Fit (Neuadd Chwaraeon)

2:30yp - Body Conditioning (Stiwdio Ddawns)

3:30yp - Ioga i Ddechrewyr (Stiwdio Ddawns)

4:30yp - Les Mills Body Combat, Virtual (Ystafell Digwyddiadau)

Actif Unrhyw Le (Digidol)

Dosbarthiadau am ddim ar 18 Medi ar Actif Unrhyw Le i aelodau (mynediad trwy fewngofnodi i'ch cyfrif) a'r rhai nad ydynt yn aelodau (mynediad trwy EventBrite)

10:00yb - HIIT (hefyd ar-lein)

Archebu mewn i HIIT yma

11:00yb - Ioga Cadair (hefyd ar-lein)

Archebu mewn i Ioga Cadair yma

12:30yp - Ioga yn y swyddfa (hefyd ar-lein)

Archebu mewn i Ioga yn y swyddfa yma

1:30yp - Cylchedau 60+ (hefyd ar-lein)

Archebu mewn i Cylchedau 60+ yma

2:30yp - Ioga Addfwyn (hefyd ar-lein)

Archebu mewn i Ioga Addfwyn yma

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2024

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol 2024