Actif mewn partneriaeth â Gweithgareddau Bywyd Iach - digwyddiadau 2026
Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn falch o fod yn cefnogi digwyddiadau triathlon Gweithgareddau Bywyd Iach am y drydedd flwyddyn.
Mae Gweithgareddau Bywyd Iach yn cynnig yr amrywiaeth fwyaf o ddigwyddiadau cyfranogiad chwaraeon torfol yn Sir Gaerfyrddin. Mae eu digwyddiadau yn darparu ar gyfer unigolion o bob gallu, oed ac yn galluogi athletwyr i osod eu heriau eu hunain.
Mae Noelwyn Daniel a Sharon Daniel wedi trefnu dros 140 o ddigwyddiadau ers 20+ mlynedd, gyda chefnogaeth swyddogion o Driathlon Cymru a Thriathlon Prydain, gwirfoddolwyr ymroddedig, clybiau lleol a sefydliadau eraill.
Yn ogystal â triathlon ar gyfer oedolion, mae Gweithgareddau Bywyd Iach hefyd yn cynnig cyfleoedd i blant ac yn credu mewn buddsoddi amser ac ymdrech i sicrhau bod cymaint o blant yn cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Bydd tymor triathlon y sir yn dechrau yn Rhydaman am 7yb ddydd Sul 19eg Ebrill 2026, wrth i Driathlon Sbrint Dyffryn Aman Actif cael ei gynnal yn ei 13eg flwyddyn. Gan ddechrau a gorffen yn y Ganolfan Hamdden, bydd yr athletwyr yn cwblhau nofio 400m yn y pwll ac 16km ar y beic cyn gorffen gyda rhedeg 5km.
Ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 4ydd Mai, bydd Rasys Y Maer Caerfyrddin yn dychwelyd o amgylch strydoedd Canol y Dref. Bydd y ras 3-lap 5K yn dechrau’r diwrnod am 10yb cyn cyfres o rasys plant, yn amrywio o’r rhai yn y meithrin i’r ysgol gynradd a blwyddyn 7/8.
Bydd penwythnos dydd Gwener 8fed Mai, dydd Sadwrn 9fed Mai a dydd Sul 110fed Mai yn gweld tri diwrnod prysur o ddigwyddiadau fel rhan o 26ain Ŵyl Aml-Chwaraeon Llanelli yn Noc y Gogledd – Nofio Elusennol Sospan Actif, Duathlon Iau Llanelli Swim Sharks, Triathlon Sbrint Cyfres Prydain, Para Triathlon Llanelli a Triathlon Sbrint Llanelli AGILIS.
Mae'r olaf yn bencampwriaeth sbrintio Cymru a ras gyntaf Cyfres Cymru 2026 y tymor hwn. Bydd y ras fore Sul yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen uchafbwyntiau Cymraeg y gyfres, a fydd yn cael ei darlledu ar S4C.
Os byddwch yn mynychu’r digwyddiadau fel cystadleuydd, gwirfoddolwr neu wyliwr, peidiwch ag anghofio dod draw i ddweud helo wrth ein tîm ger y fan!
Mae digwyddiadau a gadarnhawyd yn 2026, mewn partneriaeth ag Chwaraeon a Hamdden Actif, Swim Sharks ac AGILIS yn cynnwys:
- Triathlon Sbrint Dyffryn Aman Actif - Ebrill 19eg
- Rasys Y Maer Caerfyrddin a Rasys Iau - Mai 4ydd
- Nofio Elusennol Sospan Actif - Mai 8fed
- Duathlon Iau Llanelli Swim Sharks - Mai 9fed
- Triathlon Sbrint Prydain - Mai 9fed
- ParaTriathlon Llanelli Actif – Mai 9fed
- Triathlon Sbrint Llanelli AGILIS - Mai 10fed
I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau triathlon yn Sir Gaerfyrddin a cofrestru, ewch i www.healthylifeactivities.co.uk