Actif mewn partneriaeth â Gweithgareddau Bywyd Iach - digwyddiadau 2025

29/03/2025

Actif mewn partneriaeth â Gweithgareddau Bywyd Iach - digwyddiadau 2025

Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn falch o fod yn cefnogi digwyddiadau triathlon Gweithgareddau Bywyd Iach am y drydedd flwyddyn.

Mae Gweithgareddau Bywyd Iach yn cynnig yr amrywiaeth fwyaf o ddigwyddiadau cyfranogiad chwaraeon torfol yn Sir Gaerfyrddin. Mae eu digwyddiadau yn darparu ar gyfer unigolion o bob gallu, oed ac yn galluogi athletwyr i osod eu heriau eu hunain.

Mae Noelwyn Daniel a Sharon Daniel wedi trefnu dros 140 o ddigwyddiadau ers 20+ mlynedd, gyda chefnogaeth swyddogion o Driathlon Cymru a Thriathlon Prydain, gwirfoddolwyr ymroddedig, clybiau lleol a sefydliadau eraill.

Yn ogystal â triathlon ar gyfer oedolion, mae Gweithgareddau Bywyd Iach hefyd yn cynnig cyfleoedd i blant ac yn credu mewn buddsoddi amser ac ymdrech i sicrhau bod cymaint o blant yn cymryd rhan mewn digwyddiadau.

Bydd tymor triathlon y sir yn dechrau yn Rhydaman am 7yb ddydd Sul 13eg Ebrill 2025, wrth i Driathlon Sbrint Dyffryn Aman Actif cael ei gynnal yn ei 12fed flwyddyn. Gan ddechrau a gorffen yn y Ganolfan Hamdden, bydd yr athletwyr yn cwblhau nofio 400m yn y pwll ac 16km ar y beic cyn gorffen gyda rhedeg 5km.

Ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 5ed Mai, bydd Rasys Y Maer Caerfyrddin yn dychwelyd o amgylch strydoedd Canol y Dref. Bydd y ras 3-lap 5K yn dechrau’r diwrnod am 10yb cyn cyfres o rasys plant, yn amrywio o’r rhai yn y meithrin i’r ysgol gynradd a blwyddyn 7/8.

Bydd penwythnos dydd Gwener 9fed Mai, dydd Sadwrn 10fed Mai a dydd Sul 11eg Mai yn gweld tri diwrnod prysur o ddigwyddiadau fel rhan o 25ain Ŵyl Aml-Chwaraeon Llanelli yn Noc y Gogledd – Nofio Elusennol Sospan Actif, Duathlon Iau Llanelli Swim Sharks, Triathlon Sbrint Cyfres Prydain, Para Triathlon Llanelli Actif a Triathlon Sbrint Llanelli AGILIS.

Mae'r olaf yn bencampwriaeth sbrintio Cymru a ras gyntaf Cyfres Cymru 2025 y tymor hwn. Bydd y ras fore Sul yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen uchafbwyntiau Cymraeg y gyfres, a fydd yn cael ei darlledu ar S4C.

Os byddwch yn mynychu’r digwyddiadau fel cystadleuydd, gwirfoddolwr neu wyliwr, peidiwch ag anghofio dod draw i ddweud helo wrth ein tîm ger y fan!

 

Mae digwyddiadau a gadarnhawyd yn 2025, mewn partneriaeth ag Chwaraeon a Hamdden Actif, Swim Sharks ac AGILIS yn cynnwys:

  • Triathlon Sbrint Dyffryn Aman Actif - Ebrill 13eg
  • Rasys Y Maer Caerfyrddin a Rasys Iau - Mai 5ed
  • Nofio Elusennol Sospan Actif - Mai 9fed
  • Duathlon Iau Llanelli Swim Sharks - Mai 10fed
  • Triathlon Sbrint Prydain - Mai 10fed
  • ParaTriathlon Llanelli Actif – Mai 10fed
  • Triathlon Sbrint Llanelli AGILIS - Mai 11eg

 

I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau triathlon yn Sir Gaerfyrddin a cofrestru, ewch i www.healthylifeactivities.co.uk